Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

:. BOD YN HAPUS ER YN BRIOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BOD YN HAPUS ER YN BRIOD PEIDIWCH a bod yn ddigllawn eich dau ar yr un pryd. Peidiweh a siarad yn uchel y naill wrth y llall-os na fydd y ty ar dan. Bydded i'r naill a'r llall ohonoch ym- drechu ildio am yr amlaf i ddymuniadau y llall. Bydded i hunanymwadiad fod yn nod i gyrhaedd ato, ac i weithredu arno, i'r naill a'r llall ohonoch yn ddyddiol. Peidiwch byth ag edliw bai, os na fyddwch yn berffaith sicr yn ei gylch, a siaradweh bob amser yn dyner ac yn addfwyn. Peidiwch byth a synu ac edliw camgymer- iad sydd wedi myned heibio. Esgeuluswell ofalu am yr holl fyd yn bytrach nag am y naill y llaUt Na oddef web i ddeisyfiad gapl ei ailadrodd. Peidiwch a gwueyd sylwadtI al gost y naill y llaH-pcth isel iawn ydyw hyny. Nac ymadcwch am y diwrnod heb eiriati addfwyn i feddwl am danynt yn ystod yr absennoldeb. Na chyfarfyddwcb heb groesaw cariadus. Na fachluded yr haul ar eich digofaint, neu eich achwynion. Na adewch i fai a gyflawnwyd fyned dros go' heb ei gyffesu yn agored a gofyn am faddeuant. Peidiwch byth ag anghofio oriau dedwydd y cariad cyntaf y naill tuagat y llall. Peidiwch byth ag ocheneidio dros ryw- beth a allai gymeryd lie, ond gwnewch y goreu o'r hyn sydd.

HALOGIAD NATUR.

TYSTIOLAETH ODDIWRTH YR ESGOB…

Advertising

CELFASNACHWR AM UNWAITH