Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

--:-..----CAMGYMERIAP MEWN…

CAMGYMERIAP CAN A.S.

Y MILlWNVDD AWSTRALAIDD

Advertising

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Casgia rum o long Capten Hughes oedd yno, wedi cael eu golchi i'r lan, ac roedd pedwar o'r hogia wedi tori twll yn un ohonyn nhw a cbym'ryd tropyn i'w brofi, a thrw fod y stwff yn gry gynddeiriog roedd o wedi rhoid synstroc iddyn nhw. Am y rhan fwya o'r criw roedd y rheini wedi gwrthod twtsiad run dropyn, a felly roeddan nhw yn eu synwyra arferol ac wrthi hyny fedran nhw yn treio tynu y casgia a bocses, a llawar o beth a erill oed I yn curo yn erbyn y traeth, i fyny allan o gyredd y tona. Roedd yno dwll mawr o dan dorian glan y mor, digon mawr i fod yn ogo reit respectabl i smyglars, ac i'r twll hwnw y daru ni gario lot o betha, a phan oedd y gweddill o'r hogia wrthi yn llusgo y nwydda o'r mor ron ina yn chwilio pen draw yr ogo, ac er fy syndod mi gefis fod y pendraw wedi ei gau i fyny efo plancia, a'r rbeini wedi pydru gymint gin oedran fel roeddan nhw'n disgin yn ddarna rol cael cic ne ddwy go lew. Rol tynu un ne ddau ohonyn nhw'n rhydd, dyna lie roedd tynal yn arwen reit i berfedd y ddeuar. Pan welis hyny mi redis allan i alw Bob, ac mi euthon ein dau ar hyd y tynal, rol gole lanter oedd gin bob un ohonan ni, a wedi stwffio yn mlaen am dipin dyma ni i ogo fawr sgwar, yn mhell o dan y ddeuar, a golwg amlwg arni fod pobol wedi bod yno o'n blaen ni rw oes ne gilidd, achos roedd yno bump ne chwech o focses derw cryfion a lot o bridd arnyn nhw. Rol tynu y pridd job hawdd oedd agor y bocses efo hen gaib oedd genon ni, wedi ei ffendio ar y cae wrth ddwad at lan y m6r. Roedd y bocs cynta a'r ail ddaru ni agor yn 11awn o ddim, run fath a phen amball un sy'n cym'ryd arno fod yn rhwun. Ond wedi agor y trydydd bocs, brensiach mawr Bob, dal y ganwll yna yn nes," ebrwn wrtho miawn syndod a chyffro dychrynllyd; bedi hwn dywad ? A mi rois fy llaw yn y bocs gan godi dyrnad o goins aur 1 Roedd y bocs yn llawn o aur, fel mae byw fi! (I'w barhau.)