Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
HWYR-GAN Y BARDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HWYR-GAN Y BARDD. [Am y Uinellau isod, dywed y Canon Ainger iddynt gael eu cyfansoddi pan ydoedd Ten- nyson yn 81 mlwydd oed, ar derfyn dydd, wedi iddo groesi llif y Solent, rhwng Aid- worth a Farringford. Ychwanegay CanoH eu bod yn rhygysegredig i gael eu cyJfwrdd gan ddwylaw oerion Beirniadaeth.] Sunset and evening star, And one clear call for me And may there be no moaning of the bar When I put out to sea. But such a tide as moving seems asleep, Too full of sound and foam, When that which drew from out the bound- Turns again home. [less deep Twilight and evening bell, And after that the dark And may there be no sadness of farewell When I embark. For though from out our bourne of time and place The flood may bear me far, I hope to see my Pilot face to face When I have crost the bar Wele isod Gymreigiad ohonynt gan An- thropos: Haul-fachlud, a seren yr hwyr, A doed galwad glir i mi, Ond na foed lleddf-nod o fewn y bau Pan fyddwyf yn croesi'r lli. Ond llanw dwfn-dawel, fel hun, Rhy dawel i ewyn a thon, Pan ddychwel a ddaeth o'r pell-bell for Yn ol drachefn ar ei fron. Cyfnos, a hwyraidd gloch, Ac wed'yn tywyllwch ddaw, Ond na chlywer acen ffarwel brudd Pan fyddwyf yn hwylio draw. Ac er o ffiniau Amser a Lie I'r dylif fy ngludo'n mhell, Rwy'n disgwyl cwrdd fy Nghapten cu Ar wyn-draeth yr Ardal Well Cyfieitha Mr James D. Symmons, Aber- gwaen, fel hyn:- Hwyr-ddydd, a seren nawn, Ac un glir wys i mi, A'r bar na fydded yn gwynfanus iawn, Pan allan af i'r Hi. Ond fel yn ngwsg, er symud boed y mor, Rhy lawn i swn na swyf,* Pan a'r hyn dvnodd maes o'i eang stor Gartref i'w "blwyf." Hwyr-ddydd a nawnol gloch, Ac wed'yn nos a ddaw, Ond na foed ffarwel brudd, na chrio croch, Pan hwvliaf draw. *ewyn Can's er o le ac amser gwna y don Fy nghludo mhell a'i gwar, Gobeithio 'rwyf gael cwrdd a'm Llywydd lion 'Nol imi groesvr bax. Wele hefyd Gymreigiad arall gan D. R. Maehlud haul a seren hwyrol Ac i mi un alwad glir Ar y bar dim cwyn ruddfanol Pan y byddwy'n gado'r tir. Trai rhy ddwfn i dwrf ac ewyn Fel mewn cwsg yn myn'd o'r traetli, Pan el adre' i'r aig ddiderfyn Yr hyn oddiyno ddaeth. Gwyll y cyfnos, cloch yr hwyrnog, Ar ol hyny t'wyllwch du Na foed ochain prudd o'm aehos Pan y codir f'angor i. Pell o barthau Lie ae Amser, Dwg y don fi ar ei gwar, Gwel'd Tywysydd yw fy hyder Ar ol i mi groesi'r bar
" AI MARW FYDD EIN HIAITH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AI MARW FYDD EIN HIAITH 1" Wrth edrych yma a thraw trwy'r byd 'Rwyn gofyn ambell waith, Yn nghanol rhwysg a balchder ffol, Ai marw fydd ein hiaith ? Os yw'r cymylau duon hyn Yn gwneyd fy mron yn brudd, Yn ngoleu mellt yr hen Gymraeg Oaf drem ar Gymru Fydd. Dan wyntoedd gormes gwreiddio wnaeih I'r dwfn, ni syflir hi; Er bod yn ngauaf Cymru'n llwm Fe ddaeth ei gwanwyn-fri; Ac 0 fel y blodeua'n gain Dan wenau haul ei dydd, A bywyd byth o'i blodau wen Yn awyr Cymru Fydd. Ei cheinciau gerddant yn ddifeth, A'n gryfach, hoewach hi; Pan fyddo amser yn gwanhau, Cymraeg fydd yn ei bri; Dymchwelir ieithoedd byd i'r bedd, Darfydda swn pob aeg, Ond ni chwyd angau byth ei gledd I daro'r iaith Gymraeg. Hen iaith y gan, ni dderfydd hon Tra fyddo ser y nen, Ac ar y ddaear cyn bo hir Ar ieithoedd byd yn ben; Pwy fydd yn arwain cor y nef Pan gollo'r nos mewn dydd, Gan seinio'n eglur yn Gymraeg ? Atebaf-Cymru Fydd TREFLYN.
PUMMED RESTR 0 WOBRWYON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PUMMED RESTR 0 WOBRWYON CYSTADLEUAHTH Y POST CARD.-Papur Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am y chwedl oreu ar gefn Post Card. Testyn newyfid bob wythnos. Mehefin 23.—(11) Chwedl am Longwr. I BLANT YN YR YSGOL.Papur Pawb neu yr Herald Gymraeg am chwe' mis, neu y Carnarvon and Denbigh Herald am chwarter, am ysgrifenu, cyfieithu, rhifyddu, tynu lluniau, &c. Mehefin 23.-(11).-Pos Rhifyddol: Rhanwyd swm neillduol rhwng A, B, a C. Yr oedd rhan A yn fwy o 30p na phedwar-seithfed rhanau B a C. Yr oedd rhan B yn fwy o 30p yn fwy na thri-wythfed rhanau A a C. Yr oedd rhan C yn fwy o 30p na dwy-nawfed rhanau A a B. Pa faint oedd rhan pob un ohonynt ? CYSTADLEUON I FECHGYN IEUAINC.—Yn lie ystelcian o gwmpas ar ol noswylio, boed i'n cyfeillion ieuainc gystadlu yn wythnosol am wobr o Hanner Coron, am wneyd gwahanol bethau defnyddiol. Anfoner hwynt gyda'r post, neu fel arall. Ceir hwynt yn ol os anfonir stamps at hyny. Mehefin 23.-(11) Gwneyd pibell o ddefnyddiau cartrefol. CYSTADLEUON I ENETHOD. Cynnygir Hanner Goron yn wythnosol am siampl o waith y ty a'r teulu. Dychwelir pob dilledyn; ond ni ddyc.'tiwelir pethau ereill.-D. S. Gellir anfon sypyn o dan un pwys drwy y post am 3c. Mehefin 23.-(11) Darn o deisen.
GWOBRAU MISOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWOBRAU MISOL. Cynnygir gwobrau o 10s, ao ail wobr (os bydd teilyngdod arbenig) o 2s 6c, fel y canlyn :— Mehefin 30.-Casgliad o ysgrifau at ein colofn: Mae Son am Danynt."
TELERAU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eidde Papur Pawb. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd. ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhooddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr. haedd ar y dydd a grybwyllir uchod gyferbyn a phob testyij, 4. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5' Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnos ar olderbyn y cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu yn efelychiad o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostyngedig i Ddeddfau Hawl-ysgdf,