Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
BACHGEN BYCHAN DEALLUS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BACHGEN BYCHAN DEALLUS Athraw: John, mewn pa beth y dangos- odd Noa ei fawr ddoethineb ? Bachgen Bychan: Mewn myn'd i mewn dan-do pan oedd hi'n bwrw gwlaw.
/."'--p-El NEOES YN Y BYD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
p- El NEOES YN Y BYD I -'Rydw i'n gobeithio y byddwch yn dyner wrthyf, eich arglwyddiaeth," meddai lleidr tra yn sefyll i fyny i dderbyn ei ddedfryd, mae gen i lawer iawn yn dibynu arnaf am eu cynnaliaeth." 0 blant ? gofynai'r barnwr. Nage, o heddgeidwaid a detectives."
-r-."'-? HUGH MILLER AR GLERCOD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-r-. "? HUGH MILLER AR GLERCOD A GWEITHWYR Nid oes dim llawer o wybodaeth, yn y radd uchaf o'r gair, yn angenrheidiol i gof- nodi yr hyn fydd yn cael ei wneyd mewn arinndy, neu mewn adio i fyny golofnau o ffigyrau, neu wneyd busnes dros y cownter ac eto yr oedd y lludded a achosai yn lludded,nid o'r corph a'r giau, ond i'r giau a'r ymenydd. Dywedir gan baentwyr llygadog fod y llaw yn dynodi rymeriad cyffredinol ei pherchenog mor drylwyr a'r gwyneb. Y mae llafur y gweithiwr wedi ei gvnnrychioli lawer gwaith fel peth sydd yn milwrio yn erbyn gwrteith- iad meddyliol yn fwy na gwaith y dosparth sydd uwchlaw iddo, set clercod, siopwyr, a cliyfrifwyr; ond gellir gweled mai i'r gwrthwyneh y mae pob achos, ac y mae yn eglur mai yn mysg y dosparth llafurawl y mae y manteision mwyaf sylweddol yn gorphwys. Y mae y clero twrneiol neu y cyfrifydd, yn plygu dros ei ddesc, a'i holl alluoedd wedi eu crymhoi ar golofnau o ffigyrau, neu ar ddalenau o waith ysgrifenu, ac nis gallai symud un cam hefo'i waith heb roddi ei holl sylw iddo,ac felly mewn amgylch- iadau llai ffafriolat astudio na'r aradrwr neu'r crefftwr, meddwl y rhai sydd yn rhydd er fod eu corph yn llafurio. A cheir gweled fod y dosparth isaf o'r ddau hyn yn cael ei gyn- nrychioli yn fwy eang yn ein llenyddiaeth na'r dosparth arall. Yn erbyn y clerc o Nottingham, Henry Kirke White, a Robert Forgusson, to Edinburgh, ac ychydig ereill cawn yn ein llenyddiaeth awdwyr megis yi Aradrwr o swydd Ayr, y Bugail o Ettrick, y Coedwigwvr o swydd Fife, a'r morwyi Dampier a Falconer, Bunyan, Bloomfield, Ramsay, Lannahill, Alexander, Wilson, John Clare, Allan Cunningham, ac Ebenezei Elliott; Griffith Davies, y rhifyddwr byd- adnabyddus, ac amryw Gymry y gallesid ei henwi.
CYFNEWID ARWYDDLUN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFNEWID ARWYDDLUN Darfu i un o ddilynwyr Oliver Cromwell yn y rhyfelodd cartrefol ar ol gorphen yn y fyddin, gymeryd tafarndy mewn pentref bychan. Ac er bod yn gywir i'w gredo, detholodd arwyddlun Ysgrythyrol ar ei sign] uwchben y ty, sef y geiriau, Y mae Duw yn ein cylehynu ni." Drwy drsuliad amser a'r tywydd, llwyr ddifawyd y llythyrenau oddiar y sign, a phan ddaeth tenant newydd i'r lie, ail-baentiwyd hi, a cheisiwyd adnewyddu yr arwyddlun fel y canlyn, Yr Afr a'r Cwmpawdiau."
"'-? Y MEDDYO HYNAF YN EWROP
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"? Y MEDDYO HYNAF YN EWROP Ychydig ddyddiau yn ol dathlodd Dr Dobsv, o Havre, ei ganfed flwydd, a dywedir mai efe yw y meddyg hynaf sydd yn dilyn ei broffeswriaeth yn Ewrop. Wrth ohebydd, yr hwn a'i ewestiynai yn nglyn a'i benblwydd ar y dirgelwch o'i hir iachusol oes, dy- wedodd:- "Yr wyf yn wrthwynebol i reolau cy- ffredin mewn bywyd-o'r hyn lleiaf nifyddaf yn eu dilyn. Fy arwyddair yw—' O bob- peth, rhywbeth, nid gormod o ddim.' Bob dydd, haf a gauaf, yr un fath, byddaf yn codi am saith yn y boreu. Byddaf yn eillio fy hun gan na feddaf amser i ddisgwyl ar farbwr, ac yna byddaf yn ymweled a'r cleifion dan fy ngofal. Ychydig amser yn ol rhoddais heibio yr arferiad o ddefnyddio fy ngherhyd wrth alw am fy nghleifion, gan y byddwn yn blino yn fawr. Byddaf yn myned ar fy nhraed. Hyd yn nod heddyw, ar ddydd fy mhenblwvdd, codais am saith, a gelwais ar fy nghleifion hyd ganol dydd. Ar fy nychweliad bwyteais ychydig gig oer." Fyddwch chwi yn yfed coffi ?" meddai y gohebydd. "Dyna y ddiod y byddaf yn ei hoffi," oedd ei atebiad. Pan oeddwn yn y Trefedig- aethau yfwn yn ami gymaint a deugain cwp.maid y dydd. Gwelwch oddiwrtli hyn nad yw coffi yn wenwynig, er fod rhai meddygon yn dyweyd hyny. Bydd genyf bob amser archwaeth dda, ac nid wyf wedi colli un o'm dannedd." L Fuoch chwi yn wirioneddol sal erioed ?" Na, ni fu'm erioed yn wael," meddai y meddyg, "nis gwn beth yw crydcymalau na bron yr un poen arall, ond fydd ar rai o'm • cleifion a minnau yn ceisio ei wella. Pedair mlynedd yn ol collais un llygad. Cymerwyd ef ymaith gan un o'm cyd-feddygon, trwy ddodi gele ar fy llygad i'w wella oddiwrth L ryw anhwyldeb ysgafn, a hyny yn groes i r fy nghynghor. Wyth niwrnod yn ddiwedd- arach yr oeddwn yn ddyn un llygeidiog." i Y mae y meddyg yn dal, ac mor syth a milwr.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAECt (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1869, 1865 1878, 1887,1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GORElJ o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. B4 0 GOLOFNAU HIRION. BOB DYDD MAWRIli CEINIOG. Yn Eisiau Dosparthwyr a Gohibwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr—DANIEL REES, Carnarvon. CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales. "-Liv orl) oo I Evening Express. Publisher-DANIEL REES, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes, Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rulea. Pamphlets, Cata ogues, Sermone. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Accuracy, Neatness, Despatch Note the Address:- 'HERALD STEAM POINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON,