Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dull Simon Tyclai o borthi ei fochyn ydyw ei fwydo hyd orddigonedd un diwrnod, a'i newynu y diwrnod arall; a'i reswrn dros hyny ydyw ei fod yn hoff o facwn gwyn wedi ei linellu a rhesi cochion. EFE (wrth y weddw ifanc) Newch chi adael i mi eich hebrwng adre' ? Hi: Na, 'rydach chi'n rhy ifanc. YNTAU 0, wel, wyddwn i ddim ych bod cbi mor hen! Y mae preswylwyr heddychlawn Llangred- iniol yn cael eu blino yn fawr gan ddyn sydd wedi ei ysgaru oddiwrth ei wraig, yr hwn sydd yn eistedd i ddifyru ei hunan dan ei ffenestr drwy'r nos i chwareu Does unman yn debyg i gartref," ar y trombone. rJ 441,1,41 'Ivoeddwn i'ii meddwl eich bod chi'n deyd eich bod yn dwad a ffrynd hefoch chi i gmio heddyw ?" meddai Mrs Howell. "Allai o ddim dwad," meddai Mr Howell, gan eistedd i lawr gyda boddlonrwydd wrth y ciniaw da goreu y cafodd y fraint o ymosod arno er's Uawer dydd. &j Yr oedd cyfreithiwr enwog yn ddiweddar yma yn cael edliw iddo gan gyfreithiwr arall ei fod wedi cychwyn ei yrfa fel mab i farbwr. Mae liyny'n ddigon gwir, felly yn union yr oedd hi," oedd yr atebiad, a phe buasai raid i chwi gychwyn eich gyrfa yr un fath, barbwr a fuasech hyd y dydd heddyw." Rhoes bachgen bychan yn yr Ysgol Stil yr eglurhad canlynol i'w athraw ar ystyr y gair cyfrifoldeb — Y mae gan fechgyn ddau fotwm ar eu braces fel ag i ddal eu trowsers i fyny. Yrwan, pan fydd un botwm wedi dwad i ffwrdd, wrth gwrs, mi fydd yno lawer mwy o gyfrifoldeb ar y botwm arall." (i Y mae hen foneddiges deilwng yn rhoddi y cynghor canlynol i enethod ieuainc: —■ "Pa bryd bynag y bydd gwr ieuanc yn tcimlo ar ei galon ofyn y cwestiwn pwysig hwnw ar ba un y mae eich dyfodol yn eli, bynu, peidiwch a gwrido ac edrych ar eich traed. Ond dodwch eich dwylaw am ei wddw, ac edrychwch yn ei wyneb, gan (Meelu'eu son am 1, dodrefn," Yr ydys wedi cael allan y ffaith, heb gysgod o amlieuaeth fod cysylltiadagos rhwng ysmocio cigarettes a gwallgofrwydd, ond nid eglurwyd i ni hyd yn hyn i foddlonrwydd pa un ai y cigarette sydd yn arwain yr ysmygwr i wallgofrwydd ynte gwallgofrwydd sydd yn ar-vain yr ysmvgwr at y cigarette. Y mae hen wraig ddiwyd yn Llangrediniol, yr hon y mae holl vaith y ty o dan ei gofal, ac yn ymhyfrydu mewn bod yn weithgar a glanwaith, wedi sgwrio llawr ei pharlwr mor deneu nes y syrthiodd hi drwyddo i lawr i'r selar. Ond y mae yr hen wraig wedi datgan ei phenderfyniad y bydd iddi scrwbio nenfwd y selar eto nes y daw hi yn ei hoi. atJ.¡- rJJf.J Y FEISTRES Yn wir, Betsi, mi f'.iswn Ïn leicio 'ch gwel'd chi tipyn twtiach. Y FORWYN: Yr argian fawr! 'Rydych^chi mor enbyd am i'r ty fod yn dwt, 'does dim siawns i mi yn dwt o gwbl, I?