Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y mae'r dyii hwnw a wnaeth esgid i'w rhoi am droed y mynydd wrthi hi yn brysur yn gwneyd gwasgod i'w rhoi ar ei gefn, ac wedi hyny y mae yn bwriadu gwneyd het i'w rhoi am ben rheswm, a spectol i'w rhoi ar drwyn y Gorlech a Maen y Mellt. Y mae Ifcrm wr o gymydogaeth Cwmbwr- lwm wedi rhoddi y rhybudd canlynol ar lidiart ei gae —" RHYBUDD. Toes dim buwchod pobol i brywla o gwmpas y porfa hon. Pw ddyn ne ddynas bynag ollyngo warthag ne heffrod i slotian hyd y ffordd a dwad i'r porfa yma, mi dora i gynffona nhw a'n llaw fy hun." Wedi gorphen bedyddio'r plentyn, a thra yr oedd y gweinidog yn estyn yr ysgrifdyst (certificate), digwyddodd iddo ddyweyd, "Arhoswch chwi,—y degfed ar hugain, onide ?" Y degfed ar liugain," meddai'r wraig yn ddigllon, "nage siwr, yr unfed ar ddeg ydyw." &J Hi! lIe cest ti'r trowsers yna ?" meddai Gwyddel wrth Wyddel arall oedd yn myned heibio mewn par riodedig o fyr. Mi ces o lie mae nhw'n tyfu," meddai y Hall yn sarug. Wel, ar fy nghydwybod i," meddai Pat, Yr wyt ti wedi codi nhw flwyddyn yn rhy fuan." Y mae y gwr hynaf yn y gelfyddyd o wneyd esgidiau yn Abercwmcleidir wedi crogi sign newydd uwchben ei ddrws, ac ya rhyfeddu beth allai fod difyrwch pobl wrth fyned heibio. Y mae'r geiriau fel y can- lyn Peidiwch a myned i unman arall i gael eich twyllo. Deuwch i mewn yma." (j Wrth rodiana gyda glan yr afon, cyfar- fuasom a'r hen Simon Parcywrach yn pysg- ota. Wedi ei holi yn nghylch ei lwyddiant, a pha sawl un oedd wedi ddal, cawsom yr atebiad canlynol: — Dal! y ffwl gwirion, be ti'n feddwl1 Tydw i ddim wedi bod wrthi hi ond am tua phedair awr a hanner." » w Aeth Zabulon Dafydd i Station y Dinas y diwmod o'r blaen, ac wedi blino yn eistedd i ddisgwyl am y tren, gofynodd rhywun iddo pa fynwent oedd hono oedd ar eu cyfer dros y rheilffordd. "Mynwent Llanwnda," meddai Zabulon, Dyna lie byddan nhw'n claddu'r bobol fydd yn marw yn y station yma wrth aros am y tren." Y mae dau fath o blant yn bod yn y byd yma—eich plant anwyl eich hunain, a chwiw denynod ddihir pobl ereill. "Oni ddywedaist ti wrthyf er's chwe' mis yn ol, os na phriodai Miss Ellis di, y teflit ti dy hun i'r lie dyfnaf ar y mor? Yn awr, y mae Miss Ellis wedi priodi rhywun arall er's dros dri mis, ac yr wyt ti heb "0, mae'n ddigon hawdd siarad, ond gad i mi ddyweyd wrthyt ti nad ydyw yn beth hawdd iawn dod o hyd i'r lie dyfnaf ar y mor." Yr oedd boneddiges sydd yn nodedig am ei habsennoldeb meddwl yn ymddyddan a gweddw ieuanc oedd newydd golli ei phriod, ac yn tywallt olew cydymdeimlad ac yn ceisio ei chysuro yn ngwydd y cwmpeini. Yna, wedi peth distawrwydd, yn ystod pa amser yr oedd wedi ymsuddo yn ddigon pell i'w hangof arferol, gofynodd, er mawr syn- dod yr hon oedd yn galaru, Ai efe oedd yr unig un oedd genych ?" !Ð Yr oeddynt wedi bod yn caru am bym- theng mlynedd, ac yn bwriadu priodi, ond yr oedd efe o hyd yn methu mwstro digon o wroldeb i ofyn iddi enwi'r dydd. Un hwyr galwodd gyda hi pan y teimlai ei hun yn fwy diyni nag arferol, a gofynodd iddi ganu rhywbeth tyner a theimladwy i godi tipyn o fywyd ynddo. Eisteddodd hithau wrth y piano, a chanodd yn deimladwy iawn, Mae pawb a phobpeth yn myn'd yn hen." It** Yr oedd dau hogyn yn myned a buwch adref o'r flair. Yr oedd un yn gafael mewn rhaff oedd wedi ei chylymu am ei chym, a'r llall yn gafael yn ei chynffon. Gofynodd boneddwr i'r olaf paham y gafaelai yn nghynffon y fuwch. Wel," meddai'r bachgen, pan fydd hi yn myn'd yn ei blaen yn iawn, y mae Twm yn ei harwain hi gerfydd ei chyrn, a phan y mae hi'n myn'd yn ei hoi yr ydw inna yn ei harwain hi gerfydd ei chynffon." "Wil," meddai Rhobart Jones wrth ei fab, mi gymeraist fy nghot fawr i yn lie dy un dy hun i fyn'd allan, ac mi rois inna dy un dithau, ac mi 'roedd ei phocedi hi yn llawn o cigarettes a matches, a phethau felly." "Mi welais i fy nghamgymeriad, nhad," meddai'r mab, cyn gynted ag yr aethum i allan, oherwydd yr oedd pocedi y got a gy. merais i gyda mi yn llawn (j) bethau melus, a fchri phar o fenyg merched." Dest edrychwch chi 'rwan ar liw y dwr yma Dydi o ddim ffit i'w yfed," meddai commercial traveller yn sarug wrth ygweith- iwr yn Ngwesty'r Afr, Abercwmcleidr. Esgusodwch fi, syr. yr ydych yn cam- gymeryd; y glass sy'n fudur." Yr oedd nifer o fechgyn yn pasio Llwyn- drain, ac yr oedd y merched ar y pryd yn godro. Gofynodd un ohonynt i'r merched, "Ai hon yw y fuwch sy'n rhoi llaeth enwyn 1" Daeth yr ateb yn ol megis ar adenydd awel, Ie, ond yr ydym yn ei gadw i'n lloi ein hunain." tt183 Y mae gan y Dwyreinwyr ymddiriedmawr yn y naill y llall. Oes arnoch chwi ddim ofn myned mor bell oddiwrth eich masnachdy heb ei gloi i fyny?" meddai trafaeliwr wrth Aiphtiwr. 0 nac oes," meddai'r Aiphtiwr yn ddi- daro, does yma'r un Cristion yn byw 8 fewn tair jnilldir i'r lie yma." r¡¡ Y mae Mr Trwmbal yn ddefosiynol iawn, yn hoff iawn o'r boneddigesau, ac yn foel iawn o goryn ei ben i'r gwegil. Yr oedd yn galw gyda geneth y noson o'r blaen, ac yn siarad llawer am yr eglwys Ydym, Misa Jane," meddai, yr ydym yn cael ein gwylio yn ofalus. Y mae hyd yn nod wallt ein pen o dan rif." "Ydyw, Mr Trwmbal," meddai hi, ond y mae yn ymddangos i mi fod rhai o'cli olrifynau chwi ar goll." Yn awr, foneddigion," meddai gwr rhad- lawn y Llwyn Iorwg wrth ei wahoddedigion, pan oedd y boneddigesau yn gadael yr ystafell, "gadewch i ni gael deall ein gilydd yrwan, yda ni yn myn'd i yfed fel dynion, ynte fel bwystfiIod" Atebodd un o'r gwahoddedigion braidd ya sarug, fel dynion, wrth gwrs Felly, gan hyny," meddai gwr y ty, gadewch i ni feddwi yn ogoneddus ynte, oherwydd fydd ariifeiliaid byth yn yfed i ormodedd." r¡¡t3 Sara," meddai gwr cellweirus wrth ei wraig, tawn i yn eich lie chwi, chadwn i mo'r baban ena mor llawn o ymenyn ag yr ydach chi'n gneyd." Ymenyn, fy anwylyd, fyddai i byth yn rhoi ymenyn iddo fo." Hwyrach na fyddwch chi, ond yr ydycb wedi tywallt tua chwart o iaeth i mewn iddo fo y prydnawn yma, ac wedi e: drotian o ar eich glin am ddwy awr. Os nad oes ynddo ymenyn yn helaeth erbjn liyn. dydi o ddim ar ol mewn eael ei gorddi yn dda."