Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AT EIN QOHEBWYR

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT EIN QOHEBWYR HOGYN O'R DREF.-Gorl-nod o gwn sy'n blino'r gohebydd hwn. Tra yn dafcgan clcdydd y cwn defaid, Tango, Pero, a Cipar Chwibren Isa, a chwn doniol a diniwed felly, fel creaduriaid anhebgorol i'r bugail a'r ffermwr, i fugeilio defaid, i wylio'r buarth, i lielalr gwartlieg, i chwareu a'r plant a'u ham- ddiffyn, ac i alaru am danynt wedi yr elont ymaith, a'u croesawu adref yn ol, a chant o bethau dymunol; eto, y mae o'r farn fod gormod o gwn yn y trefydd. Y mae efe yn sangu ar eu traed, yn maglu ar eu traws, y maent fel pla mewn ambell heol, yn cyfarth yn y dydd, ac yn udo yn y nos. Y mae yn methu deall pa les ydyw y St. Bernard Dog, er hardded anifail ydyw, mewn tref, pa angen sydd am danynt yn yr heolydd, lie nad oes mynachlogydd ddeng mil o droed- feddi uwchlaw arwynebedd y mor, na dring- wr anturiaethus i'w achub o'r eira oesol. Pa ddefnydd yw y bulldog mewn ty, neu yn rl.'wystr ac yn attalfa ar lwybr neb? I ba beth y mae'r mastiff yn da, lie na byddo na gardd, na plierllan, na buarth, yn galw am ei wasanaeth ? Ac yn benaf oil, pa les ydyw y lap-dog tragwyddol a anwesir cymaint gan ein boneddigesau, y siaredir cymaint am danynt, y telir symiau mawrion am danynt gan foneddigesau fel Lady Clara Vere de Vere, yr hon sydd yn eu porthi a llawer gwell bwyd na chyfran lwydaidd y tlawd a feiddia ddyfod at ddrws y cefn i ofyn am damaid. Y mae "Hogyn o'r Dref" am eu difa i lai na banner eu, rhifedi presennol, fel pethau gwaeth na di-alw-am-danynt, ac ar yr un pryd yn dymuno datgan ei dosturi tuagat y creaduriaid rhesymol hyny nad oes gan- ddynt rywbeth teilyngach i roddi eu serch arnynt. Y mae efe wedi clywed cerddor- iaeth Wagner a'i Lohengrin, German bands, a hurdigurdies, a phethau felly, fel na raid iddo ofni clywed yr un o'r cwn yma-y mae yn galw am ddwrn y gyfraith arnynt—yn cyfarth arno; ac y mae'n taro 'i law ar y bwrdd nes y mae'r llestri te yn dawnsio i selio ei brotest yn erbyn cwneiddiwch y trefydd yma. SARAH.—Hen ferch allem ni feddwl ydyw Sarah. Y mae hi'n gofyn a oes neb o ddarllenwyr "Papur Pawb," heblaw hi ei hun, wedi sylwi fod syclider yr haf diweddaf wedi effeithio ar 15ryd a gwedd nifer mawr o'r rhyw deg fel rheol. A oes neb wedi sylwi mor ebrwydd yr oedd y gwallt yn troi yn frith ac yn wyn yn ystod y misoedd sychion hyny pan oedd y gwynt yn codi llwch i lygaid pobl, ac yn gwneyd i wynebau boneddigesau edrych yn llawer hynach nag o'r blaen? HOGYN O'R WLAD.—Y mae ef yn anfon i ni ymddyddan a glywodd yn y wlad rhwng dwy ferch ieuanc y dydd o'r blaen, pan oedd ef ei hun yn ymguddio o'r tu hwnt i'r gwrych:- Mari: "Dyma fi 'rwan yn saith ar hugain oed, ac mae'n debyg iawn fod yma amryw yn yr ardal yma yn siarad ac yn rhyfeddu p'run a ydw i'n medwl priodi neu beidio bellach. Yr ydw i wedi bod yn meddwl anfon i Papur Pawb" i ofyn beth ydyw yr oedran priodasol, rhag i mi ryw ddiwrnod gyflawni mesur fy henferchyddiaeth i'r fath raddau nes gofyn 'pwy cymerith fi l' Betsan: Paid a thori dy galon, Mary, tydi yr oedran priodasol ddim 'run fath yrwan ag oedd o ddeng mlynedd yn ol. Yr ydw i yn cofio darllen lot o nofels yr amser hono pan yr oedd yr arwres bob amser yn un ar bymtheg, ac yr oeddan nhw yn cy- meryd dwy flynedd i ymladd ag amgylch- iadau, ac wedi iddi gyrhaedd yr oedran mawr o ddeunaw oed, yr oedd yr holl ddyddordeb ynddi wedi darfod. Yrwan, 'does neb yn son am arwres yn y nofels na fydd hi yn chwech ar hugain oed o leiaf, ac os cymeri di y drafferfch o edrych dros restr y priodasau, migei wel'd fod y mwyafrif ohonynt ar du y briodferch yn amrywio o bump i ddeg ar hugain oed. Ac heblaw hyny, sut y gall hogan un ar bymtheg neu ddeunaw oed ffurfio barn gywir am werth dyn a'i wir gy- meriad, neu pa fodd y mae tymherau y naill y Hall yn cydgordio a'u gilydd?" Mari: 'Rwyt ti'n siarad rheswm bob ergyd, Betsan, 0 ran hyny, sut y gall hi? 'Roedd- wn i wedi arfer meddwl mai goreu po ieuengaf, er mwyn i'r ddau gyd-dyfu a chyd- ymddadblygu yn ngliwmni eu gilydd, ac felly y byddai llai 0 gwerylon a mwy 0 gariad gwreiddiol rhyngddynt. Ond mae'n dda i ni'n dwy, Betsan, fod y syniad yna wedi myn'd o'r ffasiwn, ac y byddai yn well i ninnau fod allan o'r byd nac allan o'r ffasiwn bresennol o ddadleu ein hawliau ein hitnain fel merched Efa, mewn llys yn gystal a llan." Ymadawodd y ddwy yn fwy 0 ffrindiau nag erioed. SUSANAH.—Y mae llawer 0 bethau i'w dyweyd 0 blaid y ddawns. Y mae yn ym- arferiad corphorol iachus. Gellir dyweyd oddiwrth ddull y ddawns pa un ai iach ai peidio ydyw dawnsiwr neu y ddawnsyddes. Y mae gwendid corphorol neu syrthni a marweidd-dra i'w weled mor amlwg a byw- iogrwydd a hoenusrwydd corphorol yn y ddawns. Byddai yr hen bobl yn rhoi esgus dda dros i feibion a merched ieuainc fyned i'r ddawns er mwyn cael gweled pwy fyddai o duedd gysglyd neu effro eyn meddwl am briodi,

Advertising