Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MR WILLIAM BEVAN, LLANDUDNO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR WILLIAM BEVAN, LLANDUDNO. Un o'r arwyddion goreu o weithgarwch, yni, dyfalbarhad, a llwvddiant trefwr ydyw ei weled, yn anterth ei oedran a'i iechyd, yn alluog i ymneillduo o fasnaeh mewn amgylch- iadau dedwydd, yn 11a wn parch ac anrhyd- edd. Un o'r. rliai hyny ydyw Mr William Bevan, ironmonger, yr hwn y dyddiau hyn sydd yn rhoddi ffordd i'w feibion o'r tu ol i'r counter a'r cyfrifon, ac ar fedr treulio y gweddill o'i oes mewn ymneillduedd cymhar- iaethol. Cymro o'r Deheudir, yn deall ond heb fedru siarad Cymraeg yn groyw, ydyw Mr Bevan, genedigol yn Gower. Wedi treulio cwrs o, brentisiaeth yn masnach yr iron- mongery yn Abertawe, daeth i Landudno rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ac yn fuan sefydlodd fasnacli ar ei ran ei hun yn Mostyn-street, ac wedi cael cychwyn da yn yr adeg fywiog I10110 ar waith yn y lie, enill- odd safle o radd i radd yn y dref, fel yr oedd yn un o'i phrif fasnachwyr. Gwelodd y trigolion y teilyngai gwr oedd mor ymdrech- gar gyda'i amgylchiadau ei liun gael ei osod mewn safle i edrych ar ol helyntion cyhoedd- us y dref, ac yn Mehefin, 1875, cawn ef yn aelod o'r bwrdd lleol, a byth er hyny daliodd yr un swyddogaeth yn y senedd drefol. Saf- ai yn bedwerydd allan o'r saith dewisedig yn ei etholiad cvntaf, ond bob tro ar ol hyny safai yn flaenaf. Yn 1881, ar farwolaeth Mr Bulkeley Hughes, A.S., Mr Bevan a etholwyd i'r gad- air, ac yn 1891 a'r flwyddyn ganlynol etho-1, wyd ef drachefn i'r unrhyw safle anrhyd- eddus. Yr oedd nid yn unig yn gadeirydd galluog, end hefyd yn wr teilwng i gyn- nryehioli Llandudno i.iewn amgylchiadau ncillduoi. Arddangosodd hyn yn ystod ym- weliad ei gydwladwr, Arglwydd Faer Llun- dain (Syr David Evans) a'r ymdrochle pobl- og:iidd, ac yr oedd y:t¿glw'idd faer" wrth ei fodd gyda'r modd deheuig y cyflawnodd y "maer lleol" urddau prif wr" Llandudno. Bu Mr Bevan hefyd yn ddefnyddiol iawn i'r dref ar y pwyllgorau, yn enwedig pwyllgor y gweithoedd, ar ba un y bu yn gadeirydd am ugain mlynedd. Llanwodd y masnachwr diwyd hefyd safle- oedd pwysig ereill yn Llandudno. Cymer- odd lawer o ddyddordeb gydag addysg, ac efe ydyw cadeirydd y bwrdd ysgol yno er's llawer blwvddyn. Am y pum' mlynedd a basiodd efe a fu gadeirydd y Llyfrgell a'r Ddaiilenfa, ac y mae ei ddyddordeb yn y sefydliad hwn yn fawr a gwerthfawr. Fel un o gyfarwyddwyr y Pier a'r Pavilion, bu bob amser o blaid "cynnydcl a diwygiad" gyda'r anturiaeth hwnw, hyd yn nod pan oedd mewn amgylchiadau cyfyng, a cha y pleser heddyw o weled y symudiad yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus. Bu yn ffodus gyda chael yn gymhares bywyd un o'r boneddigesau parchusaf a mwyaf deallus yn Llandudno, sef un o ferched yr Hybarch Mr Job Jones, a fu am flynyddau yn arolygu Sefydliad y Goleudy ar Ben y Gogarth. Mae'n sicr y datgenir gobaith evffredinol yn Llandudno a clivlch- oedd llawer eangach y ca Mr a Mrs Bevan oes faith i fod yn ddefnyddiol yn eu hym- neillduedd haeddiannol, ac hyderir y cant y mwynhad o weled eu plant a'u hwyrion yn rhai o bobl flaenaf a mwyaf gwasanaethgar Llandudno a phob man yr elont iddo.

Mil W. B. C. JONES, CRICCIETH.