Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y LLAETHWR A'R GOGYDDES

LLYFR HYMNAU YN ACHWYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYFR HYMNAU YN ACHWYN Yehydig amser yn ol aeth dynes ieuanc o Ogledd Cymru i un o drefi y Deheudir ar ymweliad a'i chwaer, ond nid oedd wedi ei gwisgo yn ddigon ffasiynol yn ngolwg y Ddeheuwraig i fyned gyda hi y Sabbath di- lynol i'r eglwys. Yr oedd yn ddigon hawdd gwella sefyllfa pethau, ac i'r amcan hwnw talwyd ymweliad ag un o brif fasnachdai y dref, a dygwyd jacedi sealskin adref gyda hwy er cael eu gweled. Dychwelwyd hwy boreu y Llun dilynol gyda'r neges arferol y byddai i'r foneddiges alw yn ystod y dydd. Ond darfu iddi anghofio tynu y llyfr hymna.u o boced y jaced, ac oddiwrth hwnw gwelai y siopwr fod y dilledyn wedi ei wisgo y dydd blaenorol yn yr eglwys. Ni welwyd y fon- eddiges yn galw yn y siop hyd yn hyn.

YR HEN BREGETHWR A PHYGU EFA

ROWLAND HILL A'R HEN WRAIG

CYMERIADAU MORWYNION.

Advertising

Y BACHCEN A SAETHWYD