Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
E lithrodd y gair "ewynol" yn rhwydd ar lafar gwlad yn wenol," ac felly fe ddaeth Rhaiadr Ewynol (oherwydd yr ewyn dwr yn y lie) yn Rhaiadr y Wenol, a dilynodd y Saeson y llygriad trwy alw y fan yn Swallow Waterfalls. 0 gyfeiriad Capel Curig am Bettwsycoed araf dreigla ac ymddolena yr Afon Llugwy i ym- uno a'r Gonwy, ond rhyw ddwy filldir o'r Bettws torir ar dawelwch cymhariaethol y Llugwy gan ddisgynfa sydyn yn ei gwely, ac nid oes ganddi ddim i'w wneyd, canys M6r, mor i mi," ydyw ei chan, ond disgyn bendramwnwgl i'r llyncle islaw, a dyma a elwir RI-aiadr y Wenol, i'r hwn fan yr atdynir miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Y mae'r olygfa, pan fydd y llifogydd yn gryf a llawn, yn hynod arddunol a phen- syfrdanol. Gwelir fod yma fath o ddwy gwymp, ac ond troi o'r ffordd Lwr at waelod yr ail. c-.Ii- olygfa dduniadol iawn. Yn y
RHAIADR Y WENOL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHAIADR Y WENOL ddisgynfa gyntaf gwelir y dwfr yn chwystrellu a phistyllio mewn amryw foddau i lyn bychan megis i orphwys cyn rhoddi y lam fwy ugain troedfedd o uchder. Barnai rhai mai i'r rhaiadr hon y y canodd Dewi Wyn o Eifion yr hyn a ganlyn Uchelgadr, rhaiadr, dwr ewyn-hydrwyllt Edrych arno'n disgyn; Crochwaedd y rhedlif crychwyn- Synu, pensyfrdanu dyn. Ac wrth weled y llyn tawel islaw, dywed Elfen deneu, ysplenydd, Lyfndeg yn rhedeg yn rhydd." Y mae llawer o draddodiadau yn nghylch y crynswth hwn o ddwfr-ddisgyniad a'i groch- ruad. Wrth gwrs, hwn oedd Anoddyn ysprydion y dyddiau gynt, ac nid oedd cosp fwy aa bygwth melldigo ysbryd un i fwrw ci benyd am amser maith yn y Rhaiadr mawr ar y Llugwy. Dywed rhai fod Syr John Wyn o Wydir, a oesai yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, yn fawr ei draha a'i ormes, ac nid oedd gan y bobl ddim dial mwy i'w osod arno ar ol ei farwolaeth nac alltudio ei yspryd i Raiadr y Wenol. Yn wir, yr oedd yn ddywediad diweddar iawn yn Nyffryn Conwy, er rhoddi cadarnhad ar beth, i ddyweyd, Y mae mor wired a bod Yspryd Sion Wyn o Wydir yn trwLlio Rhaiadr y Wenol." Tybiai yr ofnus a'r crynedig, pan glywent y dwfr obell yn rhuaw, fod yspryd yr hen frawd yn parhaus raddfan mewn gwae ddyfriol am ei drachwant. Modd bynag, y mae pobl yn meddwl gwell pethau y dyddiau hyn o'r hen Raiadr, ac yn casglu yno yn dorfeydd i weled ei branciau a sylwi ar orchest ffrwd o ddwfr yn mynu ei ffordd, waeth heibio neu dros greigiau, i gyrhaedd at nod ei bywyd- y Mor, o'r hwu daeth ohono ar y cyntaf.