Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

PENNILLION TELYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENNILLION TELYN. Caned pawb y gainc a gano O'i ddymuniad fel y myno, Un i'w faes yn ol ei foesau Yn ei ddedwydd dueddiadau; Pa'm na allaf finnau felly-yn ddymunol Yn deg wrol fyn'd i garu ? Meich "Syr Harri Ddu" yw'r harddaf,—hi yn ymhobpeth Ydyw'r eneth fwyn dirionaf. Seiniau miwsig sy'n ei moesau, Dawn o gariad yn ei geiriau, Elfen cariad caniad cynhes, Lan dymunol lon'd ei mynwes Yn y fynyd pan af yno,-perffaith ddiddan Wyf o anian efo hono, Hithau hefyd yr un ffunyd-edrych amaf Yn siriolaf dlws yr aelwyd. Ac i'w theulu dwg ei thelyn, Yna minnau ganaf emyn, Dyna'i thad a'i mam yn synu At acenion pwynt y canu, Mae'i rhieni hi mor unol,—yn fy ngharu Hithau felly'n eithaf hollol, Ni fu didwyll ddau fwy dedwydd,—na thebyced Fwy i'w gweled efo'u gilydd. Gwr serchiadol unol heini I'w oes arwrol yw Syr Harri," Felly'i phriod hynod anwyl, A'i phur rasau'n llon'd ei phreswyl; Ond mae'r ferch yn draserch drosodd,—un mwy llawen 0 dan haulwen byd ni welodd, Hon ar undyn ni fyn wrando,—ond fi'n wron Waeth pa foddion-waeth pwy fyddo. Llawer un fu'n cyson geisio Ei chain weddaidd serch yr eiddo, Dwyn o ddiwyd iawn addawol Hynaws dedwydd yn wastadol, A thaerineb, waeth er hyny,—prydydd ffyddlon Yw y gwron a fyn garu, Geiriau anwyl dengar hwnw,—o'i ber awen A'i wen lawen beru'n loyw. Pan ddaw gwledd i'r annedd hono, Er cael diddan gan ar ginio, Rhaid i'r darpar fab-yn-nghyfraith Acw fyned er cyfanwaith, Gwen a'i dwylaw gan y delyn,—minna'u hapus Yn hudolus iawn a'i dilyn, Ac yn fanwl canaf finnau,-wrtli fy mhleser Eiriau tyner ar y tanau. Mae ei thad, ei mham, a minnau, Yn cael anian i'n calonau, A'n serchiadau'u cyd-gyfarfod Yn eu genetk enwog hynod, Wrth arweiniad siarad siriol,-rhoes aw- grymiad Fod ymuniad-fyw dymunol, Soniais wrthi yn ddifyrus,—hithau wenodd Ac a wridodd yn gariadus. Y mae diwrnod hynod anwyl, Dda iawn ammod heddyw yn ymyl, Fi o weddus gaf fy eiddo, Dau yn anwyl wedi'n huno, Bydd llawenydd pan aiff dedwydd,—ferch "Syr Rarri" I'w phriodi efo'i phrydydd, Ac ar ddiwrnod y briodas,—ceir pleserau, Glod a doniau gwlad a dinas. EOS Y BERTH.

Y DIOGYN.

PUMMED RESTR 0 WOBRWYON