Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhiant Hoffus: "Roli bach, pa grefft a fasat ti'n leioio i enlll dy fara pan ddoi di'n ddyn? Roli Bach (saith oed): Yr ydw i yn meddwl mai yr un grefft a nhaid—myn'd o gwmpas i hel fy rhenti." Efe 'Dydach chi ddim yn meddwl y byddai yn well i chwi roddi llewis fy nghot fawr i oamgylch eich gwddf fy anwylyd ? Hi: Byddai, ond mae arnaf ofn y cewch chwi yr anwyd, John. Fyddai ddim yn well i chwi ei rhoi am danoch yn gyntaf ? Dr Smedley Y mae yn ymddangos i mi, wraig druan, mai yn yr afu y mae'r drwg i gyd." Y Wraig Druan 'Rydw i yn methu yn lan a deall sut y gall hyny fod, tydi'r lodgers yma byth yn cwyuo, ond am dana i fy hun, fydda i byth yn ei fwyta." Boneddiges: Mor anhawdd y rhaid ei fod o i dori cerfddelw mor hardd a hon allan o ddarn o farmor." Cernwr "0, dim o'r fath beth, madam, y cwbl fydda i yn ei wneyd ydyw tori ymaith yr hyn nad yw yn perthyn i'r gerf- ddelw, a dyna'r gwaith wedi ei gyflawni." Yr oeddynt wedi eistedd i lawr wrth y bwrdd ciniaw pan y daeth y rap tap ar y drws. "Yr argen anwyl," meddai hi, "y gweinidog sydd yna, a minnau wedi bod yn bwyta wynwyn." "Na feindiwch, f'anwylyd," meddai ei gwr, raid i chi ddim ei gusanu o heddyw." Simon Tyclai: Rhyw gynghor digon tlawd oedd hwnw ges i gen ti, Betsan." Betsan: "Beth oedd o ? Simon "W el, yr oeddat ti yn deyd wrtha i y dydd o'r blaen mai yr amser goreu i ofyn cymwynas neu ffafr gan rywun ydyw ar ol ciniaw." Betsan: Wel, oeddwn, ac mi ddeuda i o eto hefyd." Simon: Wei, mi es i lawr at yr hen Sion Gyb, y meistr tir yma, ac mi ofynais iddo fo oedd dim posib i ni gael tipyn o repars o gwmpas y ty yma, ac mi gomeddodd fl. Ac ar ol cinio oedd hyny hefyd." Betsan; Wyt ti'n siwr, yrwan, ei fod o wedi cael ei ginio, Simon ? Simon: Be wn i o'i hanes o, Betsan, wyt ti'n meddwl y bydda i yn holi pobol, Betsan; y cwbwl ydw i yn wybod ydyw fy mod i wedi cael fy nghinip fy hun, Hi: O'n tydi'n rhyfedd mor Lwlyb mae hi'n dal o hyd ? Efe: Mi fuasai'n rhyfeddach o lawer pe b'asa hi'n dal yn sych o hyd a hitha'n gwlawio mor drwm." Mrs Chwilgar: Mi fuaswn i yn leicio gwybod yn arw iawn be di'r achos fod pobol ymholgar dros yr heol yna yn edrych i mewn i'n ffenestr ni bob amser?" Mr Chwilgar: "Mae'n debyg mai ceisio cael allan y mae nhw paham yr ydych chwi yn edrych i mewn i'w ffenestr nhw." tJtJtJ Y Gwr (wedi colli ei amynedd): "Bedi'r achos na ddeuai dy feistres ± lawr bellach ? Yr oeddwn i'n meddwl ei bod hi yn barod i fyn'd i'r ball banner awr yn ol." Y Forwyn "Mi fydd yn barod iiiewd-, ychydig fynydau, syr. Mae hi wedi bod yn newid ei gwallt eto." Crydd Yr wyt ti yn dyweyd dy fod wedi bod yn gwneyd botasau, yr hen John, beth feddyliet ti o'r rhai hyn ?" Yr Hen John (yn edrych ar y par) "Alia i ddim dyweyd. Ydach chi'n gwel'd, doedda nhw ddim yn gwneyd botasau o ddim byd end lledr yn fy amser i." Mr Pugh (yn ymweled a'i stablau) Spargo, yr wyt ti'n myn'd yn fwy diog bob dydd. Wyt ti byth yn glanhau y stablau yma dwad ? Weli di mo'r gwaith pry copyn yma 1" Spargo: Wel, syr, yr ydw i yn gadael gwaith y pry copyn yna o bwrpas i ddal gwybed, He bod nhw'n plagio'r 'ffyle." Yr oedd Roli Bach i gael tad newydd, ac wrth baratoi ei feddwl ieuanc gogyfer a'r amgylchiad, dywedodd ei daid wrtho: "Roli bach, erbyn yr amser yma yfory mi fydd gen ti dad newydd spon, ac mi fydd gan dy fam enw newydd." Roli Bach (yn ddyryslyd): "A phwy fydda i felly, nhaid ?" Yr oedd William Sholgrop, Ysw., yn dawnsio mor ddrwg yn y ball yn ddiweddar yma nes oedd pawb wedi myn'd i chwerthin am ei ben. Wrth weled pawb o'i ddeutu'n chwerthin, trodd at foneddwr oedd yn ei ymyl, a dywedodd yn ffroenuchel, os oedd dipyn ar ol hefo dawnsio, y gallai ymladd gystal a'r un yn yr ystafell hono. "Yna, syr," meddai'r boneddwr arall, Os cymerwch chwi gynghor gen i, ym- leddwch, ond peidiwch byth a dawnsio." Hi: Y mae y rug ffur yma yn un hardd dros ben, Benjamin, perthyn i ba anifail y mae 0, tybed 1" Efe (yn ddiniwed) "I mi." Paham y mae genethod yn cusanu eu gilydd, tra nad ydyw bechgyn yn gwneyd hyny ? Oherwydd nad oes gan y genethod neb gwell i'w cusanu, tra y mae gan y bechgyn. "Bedi'r iws i chi fyn'd i gapel nag Eglwys ?" meddai gwraig o Bantybriall wrth ei gwr, gyda dirmyg. Fedrwch chwi ddim cymaint a dyweyd be fydd neb yn wisgo wedi dwad adre." Athraw: Pa sawl rhyfel a wnaed a'r Hispaen ?" Ysgolor "Chwech, syr." Athraw Rhifwch nhw ?" Ysgolor: "Un, dwy, tair, pedair, pump, chwech." Does dim yn y byd yn fwy diflas i hogyn na dilyn peiriant diffod tan i fyny yr allt am hanner milldir, gan feddwl fod yn rhywle dy ar dan a deall wedi'r cwbl nad ydynt ond cymeryd y peiriant i'r ffoundri i'w adgyweirio. "Wili," meddai'r ymwelydd, "beth yw dy uchelgais, neu dy ddymuniadau penaf di, fy machgen i ?" "Mi faswn i'n leicio," meddai Wili, gan daflu ei lyfr darluniau, a hanes "Jack, the Giant Killer," o'r neilldu ar y bwrdd, "mi faswn i'n leicio i'r holl bobol grynu fei dail wrth glywed son am f'enw i." Gwyddel oedd efe, a gwr priod, ac wedi cael ar ddeall ei fod yn dad. Gan y teimlai awydd angerddol am gael gwybod pa un ai bachgen ai geneth oedd ei gyntaf-anedig, clywodd swn camrau y meddyg yn dyfod i lawr y grisiau, rhuthrodd i'w gyfarfod a gofynodd iddo: "Yn siwr i chi, Doctor, fyddwch chi cystal a deyd wrtha i pa un ai tad ai mam ydw i?" Yr oedd bachgen bychan, bychan bach, yn araf gerdded wrth ei fodd drwy laid hyd benau ei liniau gerllaw i Bwll y Gadnant un prydnawn, pan ddaeth boneddwr heibio, ac y gofynodd iddo — "Paham nad wyt ti yn yr ysgol, fach- gen ?" Achos fod gen i beswch drwg iawn, a'r ddanodd, ac yn gorwedd dan y frech goch," oedd yr eglurhad.