Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

DR JOSEPH PARRY (PENCERDD…

WEDI El DARO A SYNDOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WEDI El DARO A SYNDOD Aeth boneddwr cyfoethog i fasnachdy aJarwr mewn heol gul yn Llundain, i brynu parrot. Yr oedd yr adarwr yn sicrhau y boneddwr fod yr aderyn yn nodedig am ei hyawdledd ond, er i'r boneddwr ei gadw am fisoedd, nid oedd dim gair i'w gael gan y parrot. Galwodd y boneddwr gyda'r adarwr, a gofynodd iddo sut y gallai roddi cyfrif am y fath beth. Wei, syr," meddai'r masnachwr gonest, y mae'r aderyn ena wedi ei ddwyn i fyny yn fy nhy tlawd i, ac y mae'n ddigon tebyg pan ddaeth i mewn i'ch ty hardd chwi, iddo gael ei daro & mudandod wrth wel'd pobpeth yn disgleirio o'i gwmpas. Mae'n debyg iawn na sieryd o byth eto, syr; ond, wrth gwrs,.nid arnaf fi y mae y bai am hyny."

[No title]