Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Ii CONaL Y BWTHYNWRj

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CONaL Y BWTHYNWRj YN YR ARDD. Y gwyn ami, yn enwedig mewa. trefi, ydyw nad oes gan un oddigerth plwt o ardd" "ddim mwy na llawr y gegin." Ac eto gy- maint a ellir wneyd gyda hyd yn nod clwt" pe ba'i un yn deall, ystyried, a gweithredu. Hoffa bawb osod mewn trefn ddarn bach un ai yn ffrynt neu gefn y ty, pe bai ddim ond i harddu y lie. A gellir cael prydferthwch a defnydd ymborth ar yr un pryd, gydag ond yehydig drafferth a chost, Beth sydd yn dlysach na rhimyn lliwedig thvs yn tyfu oamgylch ysgwar neu gyfled o bridd mewn gardd fechan? Gellir cael hyn yn y modd hwylusaf a destlusaf gyda'r PLANIGYN BEATWS, neu beetroot, fel y'i gelwir, megis yn y dar- lun uchod. Ceir dau fath o'r planigyn, un y inae ei ddail tywyll-goch yn dlws dros ben, a gellir eu tori i fyny gyda dail ereill yn salad ar y bwrdd, ond y mae gaa y math arall ddail prydferth a ddyry wedd hardd ar y rhes YR yr ardd, tra ar yr un y ceir y gwreiddyn yn braff a Ilawn nodd parod at ei ferwi a'i bielo mewn finegr, a'i osod yn ddanteithfwyd gerbron tywysog. Y mae rhoaynau amryliw yn eithaf yn eu lie, ond pan geir tlysni sydd ar yr un pryd yn cynnyrchu ymborth rnaeth- Ion a dymunol, yna un annoeth a diog ydyw kwnw na fyn gymhlethu y prydferth a'r defnyddiol ar yr un adeg heb fwy (os yn wir cymaint) o drafferth, mwy o sicrwydd, ac ad-daliad arianol am yr hyn a wariwyd. Nid wyr oddigerth y craff a'r profiadol pa un ai beatws ai planigion addurniadol fydd y eyfryw, a phe byddai pawb yn gwybod pa waeth, oddigerth am y blys allai y beetroot gooi ar bobl nes eu gwneyd yn ymwelwyr rhy fynych a'r ardd fach i lygadu ar a chwen- ychu y dail rhuddion a'r gwreiddyn dymunol a blasus. Gwyddom am un o dlottai site Caernarfon sydd a gardd fefljaii o'i flaen, wedi ei harddu a rhesi o beetroot yn y fath fodd nes gwneyd i'r dyeithr dybio ei fod o flaen palas gwr bonheddig yn byw ar ei bwrs a'i fwyd ei hun. Un o'r ffrwythau sydd yn dyfod a mwy o alw am dano dymhor ar ol tymhor, er gwaethaf y bias braidd annymunol arno ar y cyntaf, ydyw "afal cariad," neu y tomato. Y maent yn brin a drud, ac eto gall rhai gyda'r lie cyfyngaf o gylch eu tai eu tyfu ond arfer yehydig ofal ac amynedd, a dysgu tipyn o brofiad gyda'r gwaith. Fel bron bobpeth arall, ceir gwahanol fathau o'r afal peraidd hwn, a gellir tybio ar olwg rhai ohonynt mai un cyffelyb a demtiodd yr hen Fam Efa. Beth bynag am hyny, y mae rhyw esgusawd yn y mater erbyn y deuir i ddeall yn awr pa mor lesol, dymunol, a maethlon ydyw y tomato. Am hyny gwnaer pebpeth er ei fagwraeth a'i dyfiant. Gwelir yn y darlyn hwn engraipht o CATER'S GREENGAGE. Hyd nes llwyr aeddfedu, glas ydyw y fl'rwyth, ac araf ymddadblyga i liw coch- felyn gyda gwres a llewyrch yr haul. Gyda pot o faint Rhif 1 neu 2 gellir tyfu y plan- igyn i gryn uclider. Rhodder y planigyn i lawr yn isel yn y pot, a pheidier ei lenwi ond' hyd yr hanner ar y dechreu. Wedi hyny gellir ychwanegu caenen o bridd maethlon a da. Gyra y brif gangen rai llai i'r wyneb, ac felly bydd i fywyd y planigyn gael ei hwyhau.

[No title]

PREGETH ORPHENEDIG

CARDOTYN ANNIBYNOL

[No title]

Advertising