Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ASYN FYN ASYN FOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ASYN FYN ASYN FOD "Brefa, Ned," meddai'r ebolion oedd yn pori yn yr un maes, lle'r oedd y borfa'n brin. Edrychodd Ned wrth ei fodd, a chan godi ei glustiau i fyny, brefodd yn ofnadwy. "Brefa eto, Ned," meddai'r ebolion, gyda gweryriad annogaethol a dichellddrwg. Brefodd Ned saith walth, nes oedd y creig- iau pell yn adseinio. Yr ydach chi'n hoff o nghlywed i yn brefu, onid ydych 1" meddai. Hoff ofnadwy las," meddai'r ebolion, y rhai oeddynt yn gweled y meistr yn dyfod i'w droi allan. O'r anwyl fawr," meddai Ned, beth wnaeth i mi frefu fel yna ? Pe buaswn i'n tewi a son, a pheidio canu fel ena fuasai neb yn gwybod mod i yma." "Y brefu yna a brofodd mai asyn oeddit ti," meddai'r ebolion, "ac yr oeddem ni yn gwybod yn eithaf da mai dyna'r ffordd i gael gwared ohonot."

IAWN DDEFNYDDIO CYFLEUSDERAU

Advertising

CORNEST SYR HYWEL AP RHYS