Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y TAD A'l FERCH

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TAD A'l FERCH Wrth ymddyddan a'i ferch anystyriol, dy- wedodd ei thad:- Y mae arnaf eisieu siarad a chwi yn nghylch eich mam. Efallai eich bod wedi sylwi ei bod yn edrych yn salw ei gwedd yn ddiweddar yma. Wrth gwrs, nid yr un weithred o'ch eiddo chwi, Mary, sydd wedi achosi hyny, eto y mae yn ddyledswydd ar. noch ymlid y prudd-der i ffwrdd. Mae arnaf eisieu i chwi godi yn foreu i wneyd y brec- wast boreu yfory, a phan ddaw eich mam i lawr, a datgan ei syndod, ewch yn syth ati, a rliQwcli gusan iddi ar ei gwefusau. Allweh chwi ddim dychymygu cymaint a siriola hyny arni. Heblaw hyny, y mae arnoch gusan neu ddau iddi. Flynyddau yn ol, pan oedd- ych chwi yn enetli fechan, yr oedd hi yn eich cusanu chwi pan nad oedd neb arall yn cael ei demtio i wneyd hyny gan eich gwyneb. Doeddach chi ddim mor hudolus y pryd liwnw ag ydych yn awr. A thrwy'r blyn- yddoedd hyny, o blentyndod heulog a gwlawog, yr oedd hi bob amser yn barod, gyda'i chusan serchog i dawelu pob ystorom, ac i ostegu pob rhyw ymrafael plentynaidd rhwng ei merch a'i chydchwareuyddion yn niniweidrwydd oedran. A llawer gwaith a'i chusanau hanner nosawl yr ymlidiodd ym- aith lawer breuddwyd blin tra y gwyliai mvchben eich gobenydd; wrth gwrs, y mae y cusanau hyny wedi aros ar log am y blyn- yddoedd meithion hyn. Wrth gwrs, tydi hi ddim mor ieuanc a chusanadwy a chwi yrwan, ond pe y buasai i chwi wneyd eich gwaith a'ch dyledswydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yma fuasad'r gwahaniaeth ddim mor fawr. Y mae mwy o rychau ar ei gwyneb nag sydd ar eich gwyneb chwi, ac eto, pe digwyddasai i chwi fod yn glaf, ym. ddangosai y wyneb hwnw yn llawer harddach i chwi na gwyneb angel." -:01

[No title]

Advertising

HUNANCOFIANT HOGYN