Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Y TAD A'l FERCH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y TAD A'l FERCH Wrth ymddyddan a'i ferch anystyriol, dy- wedodd ei thad:- Y mae arnaf eisieu siarad a chwi yn nghylch eich mam. Efallai eich bod wedi sylwi ei bod yn edrych yn salw ei gwedd yn ddiweddar yma. Wrth gwrs, nid yr un weithred o'ch eiddo chwi, Mary, sydd wedi achosi hyny, eto y mae yn ddyledswydd ar. noch ymlid y prudd-der i ffwrdd. Mae arnaf eisieu i chwi godi yn foreu i wneyd y brec- wast boreu yfory, a phan ddaw eich mam i lawr, a datgan ei syndod, ewch yn syth ati, a rliQwcli gusan iddi ar ei gwefusau. Allweh chwi ddim dychymygu cymaint a siriola hyny arni. Heblaw hyny, y mae arnoch gusan neu ddau iddi. Flynyddau yn ol, pan oedd- ych chwi yn enetli fechan, yr oedd hi yn eich cusanu chwi pan nad oedd neb arall yn cael ei demtio i wneyd hyny gan eich gwyneb. Doeddach chi ddim mor hudolus y pryd liwnw ag ydych yn awr. A thrwy'r blyn- yddoedd hyny, o blentyndod heulog a gwlawog, yr oedd hi bob amser yn barod, gyda'i chusan serchog i dawelu pob ystorom, ac i ostegu pob rhyw ymrafael plentynaidd rhwng ei merch a'i chydchwareuyddion yn niniweidrwydd oedran. A llawer gwaith a'i chusanau hanner nosawl yr ymlidiodd ym- aith lawer breuddwyd blin tra y gwyliai mvchben eich gobenydd; wrth gwrs, y mae y cusanau hyny wedi aros ar log am y blyn- yddoedd meithion hyn. Wrth gwrs, tydi hi ddim mor ieuanc a chusanadwy a chwi yrwan, ond pe y buasai i chwi wneyd eich gwaith a'ch dyledswydd yn ystod y deng mlynedd diweddaf yma fuasad'r gwahaniaeth ddim mor fawr. Y mae mwy o rychau ar ei gwyneb nag sydd ar eich gwyneb chwi, ac eto, pe digwyddasai i chwi fod yn glaf, ym. ddangosai y wyneb hwnw yn llawer harddach i chwi na gwyneb angel." -:01
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae s^my gwaed yn y corph dynol un rhan o bump o'r holl bwysau. Y mae aur yn 19, arian byw yn 13, a phlwm yn 11 gwaith trymach na. dwfr. Dylai dyn redeg bob cam yn gywir yn ngyrfa bywyd, am nad oes ail gynnyg.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
T-nrif /m/Qy PATENT JUSU if PRICE IS- lrX>a 1 ( Sold V tlie PropTieior. | 1\ ST. HELENS /J NC; XAbTCA^SHl^S, 6,000,000 Boxes Yearly, Which means Every time the Clock ticks 11 BEECHAM'S PILLS Have reached their destination. BFor Half a Century EECHAM'S PILLS Have been Globe-trotting,' and have worked their way into the innermost parts. Iti'S Well t0 know a THING when It's Better to have a GOOD THING whe. you can. BEECHAM'S PILLS should always be handy, and handed down to posterity as WORTH A GUINEA A BOX. Life is too short; Sufferers will find BEECHAM'S PILLS a 'trump card to 'put down.' T^EY 'SWEEP THE DECK' of Bilious and Nervous Disorders, Sick Headache, Liver Complaint, Impaired Digestion, Weak Stomach, Constipation, Uncomfortable Fulness, Loss of Appetite And they regulate the Secretions. i;i 1,, 15 i POTEL AROCLI DR MACKENZIE At yr ANWYDWST. Gwellha Oerfel yn y Pen. Gwellha Gur Gieuol yn y Pen. Diatreg symuda Haint y Gwres, Phoen yn y Pen. Y moddion goreu at Lesgedd a Syfrdandod. Gwwthir yn mhob Fferylldy ac Ystorfa Pris, Un Swllt. M- GATRWHODWCH EFELYCHIADAU DIWERTH. Drwy'r Post am 15 o lythyrnodau o'r Mackenzie's Cure Depot, Reading
HUNANCOFIANT HOGYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ddwad o hyd i'n cyrph ni, gael i'r erownar gael chwara teg rhag ei fod o yn colli siawns iawn i gadw cwest." Wel, fedra nhw ddim cadw cwest arna i na chditha, am dipyn beth bynag." 0, Wil, lie ddyliet ti y buom mi yn y dre ? Mi fedris fynd yn slei bach i dy modryb, lieb i neb ngweld i, a dyna lie roedd hono yn cymryd ami fod yn crio, a Hand y ty o hen ferchaid yn treio ei pherswadio hi mod i yn y nefodd er's meitin. Mae y bachgan miawn llawer gwell lie nag efo chi ar yr hen ddeuar yma," ebra un ohonyn nhw. "Wn i ddim wir," ebra modryb yn reit sychlyd, "roedd gyno fo le go lew o dda efo inina hefyd." "0 oedd," ebra'r Hall, "nid dyna bedw i'n feddwl; ond meddwl deud ron i ei fod o yn y nefodd, wyddoch." "Fedris di ddwad o dy dy fodryb heb i neb dy ffendio di ?" gofynis i Bob. Do welodd neb mohona i o gwbl yn unlle ar gyfyl y dre. Mi fydd yna le doniol yn capel ni nos Sul. Mae nhw am gadw rw siort o bregath angladdol ne rwbath felly ar y'n hola ni, wyddost; mi fydd y cor lie ron i yn arfar canu alto yno fo yn canu hyms a petha er nnvyn i'r bobol gofio am danon ni, a wedyn mi fydd y pregethwr yn deud lot o betha am y ddamwen a felly yn mlaen, wyddost. Mi faswn i yn leicio bod yno nos Sul." "Yn gwrando dy bregath angladdol di dy hun, ynte ?" "la, pam "0, dim ond hwrach y byddwn ni yno, Bob." Ond fydd yno ddim son am danon ni os gwela nhw ni wedi codi o farw'n fyw." Rhaid iddyn nhw beidio ein gweld ni nes bydd y pregethwr wedi mynd i ganol yr hwyl wrth son am danom ni. Weldi, Bob, mi gadwn ni yn reit slei tu fiawn i'r ogo ymi tan nos Sul. Wedyn mi awn i'r dre yn y nos a gofalu cyredd y capel cin yr amsar y bvdda nhw'n dechra yr odfa, rhag i neb ein gweld ni na gwbod bod ni yn fyw o hyd wedyn mi awn i fiawn yn slei i'r capel ac i rw gornal lie na fedar neb ein gweld ni, a mi fydd yn reit hawdd i ni ymgiddio o dan set ne rwbath i wrando'r bregath angladdol, ac aros yno nes bydd y pregethwr wedi mynd i'r hwyl, a wedyn mi ddown allan o dan y set a dangos ein henen i'r holl gynilleidfa, a dyna lie bydd yno sport! Gei di weld. Ond rhaid i ni beidio iiiynd. or ogo yma liw it dan hyny rhag i neb ein gweld ni. Mae gynon ni ddigon o fwyd yma rwan dan ddydd Sul." Mae nhw wedi anfon am dy fodryb o IjaHfarfechaH a dy ewyrth o Gnarfon, a. mi fydd d'holl doQulu di yn y capal nos Sul —" Miawn 'mourning' i gid, ar Fol i, debig ?" "la, felly clowis i." "Diawst i, Bob, mi gei di a fina sport nos Sul nesa. Ond rhaid i ni gadw o'r golwg yn yr ogo yma dan hyny ne mi ddrysith y 'game' i gid pedae rhywun yn ein gweld ni." (I'w barhau.)