Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y TY A'R TEULU

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TY A'R TEULU LLIW MEWN COGINIAETH.—Lie y byddo eisieu lliw mewn ystiw, hash, neu swp, gadawer i'r wynionyn a ddefnyddir gael ei groen allanol am dano, ac yna ni fydd angen am siwgr llosg na dim defnydd arall i liwio. ADDYSG I BLANT.-Nid ydyw cyfadd- asiad didor o'r un math o waith yn debyg o ddadblygu galluoedd uwchaf y corph na'r meddwl; dylai addysg lyfrawl gael ei ham- rywio a dulliau ereill llai uniongyrchol o addysgu a hyfforddi plentyn. I LANHAU GWYDR LESTRI.—Dylid glanhau gwydr-lestri mewn dwfr oer ac ychydig soda wedi ei doddi ynddo. Yna, wedi eu troi a'u gwyneb yn isa i ddiferu, eu sychu a'u polishio yn dda gyda dam o hen eidan neu ledr at y pwrpas. I BIGO NEU DDEWIS WYAU.—Dod- Wch ben praffaf yr wy ar eich tafod. Os cynhes fydd, ymae yn newydd. Mewn wyau iaewydd eu dodwy, y mae ychydig wagle l'hwng y bilionen o'r tu mewn a'r plisgyn, ac y mae yn ganfyddadwy i'r llygaid yn y pen wrth edrych arno rhyngom a'r goleuni. Os bydd yr wy yn newydd bydd yn glir, os bydd eu cynnwys yn ysgwyd, fyddan nhw ddim yn ffres. I EFRIO SAUSAGES.—Y mae sausages yn gofyn inwy o ofal nag roddir iddynt yn gyifxedin. Yn gyntaf dylent gael eu berwi am un fynyd. Drwy hyny gellir dibynu ar eu bod yn gwneyd yn drwyadl drwyddynt. Gadewer iddynt sychu, a phigwch hwynt, a dodwch hwy yn y badell mewn ychydig doddion, yr hwn na ddylai fod ond yn gynhes, a dim poethach, onide fe fydd y sausages yn byrstio ax unwaith. Ond os bydd llawer o fara ynddynt, wrth gwrs, nis gellir eu hattal i ymddryllio, hyd yn nod gyda'r gofal mwyaf. Gadawer iddynt ffrio am ddeng mynyd, gan eu troi a'u trosi, fel ag i'w brownio o gwmpas. Yna draenier hwy ar bapyr, fel ag i symud ymaith y gor-frasder. PWDIN BANANA.—Y mae yn hysbys i bawb fod sandwiches banana yn ddanteithiol dres ben ond ychydig sydd yn gwybod y gellir gwneyd pwdin danteithiol ohonynt. Cymerwch chwech neu saith ohonynt pan yn hollol aeddfed, piliwch a rhwbiwch hwy drwy hidlyr gwifr (wire sieve). Cymysgwch y mwydion gyda dau lonaid llwy fwrddo castor sugar a dau wy wedi eu curo yn dda. Yna berweh beint o lefrith, a styriwch ef i mewn yn raddol i'r gymysgedd, a dodwch y cyfan mewn dysgl bastai wedi ei hiro ag ymenyn, a doder mewn pobty cymedrol boeth am tua chwarter awr. Gellir ei serfio allan o'r ddysgl y coginiwyd ef, neu ei droi allan i ddysgl arall. I BRESERFIO WYAU.—Gellir eu pre- serfio yn ffres drwy eu trochi mewn dwfr berwedig a'u cymeryd allan yn uniongyrchol, neu eneinio y plisgyn ag olew neu saim, yr hyn a geidw yr awyr allan. Neu gellir eu cadw ar silffoedd gyda thyllau bychain i ddal un ohonynt, a'u troi bob dydd, neu eupacio mewn baril fechan, a'u gorchuddio a dwfr calch. WYAU WEDI EU LLED FERWI (POACHED EGGS).—Dodwch stewpan a dwfr ynddi ar y tan, a phan fyddo'r dwfr yn berwi, tywelltwch wy a dorasid eisoes o gwpan i mewn i'r berw; pan fyddo'r gwyn- wy yn ymddangos fel wedi gwneyd drwyddo, dodwch egg-slice odditano, i'w godi o'r berw, a dodwch ar dost gydag ymenyn neu spinach. Cyn gynted ag y bydd digon ohonynt wedi eu coginio fel hyn, sernwch hwy yn boeth. Os na fydd yr wyau newydd eu dowy, ni fydd y dull hwn o'u coginio yn hollol lwydd- iannus, ond ymdorant yn y dwfr. Taclus- wch y rhan garpiog o'r gwynwy, a gwnewch iddo edrych yn grwn ac yn gryno.

PETHAU GWERTH EU GWYBOD.