Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
COLLEDION RHYFELOEDD Y GANRIF…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLLEDION RHYFELOEDD Y GANRIF BRESENNOL Dyma enwau a cholledion prif ryfeloedd y ganrif lion -1828, Rwsia a Twrci, costiodd 20 miliwn o bunnau, a 120,000 o fywydau 1830-1840, Yspaen a Portugal, 50,000p, a 160,000 o fywydau; 1830-1847, Ffrainc ac Algeria, 38,000,000p, 110,000 o fywydau; 1854-1856, Prydain, Ffrainc, a Rwsia, 305,000,000p, 485,000 o fywydau; 1853, Ffrainc ac xlwstria, 45,000,000p, 60,000 o fywydau; 1863-1865, Rhyfel Gartrefol yn America, 740,000,000p, 656,000 o fywydau; 1866, Prwsia ac Awstria, 20,000,000p, 61,000 o fywydau 1866, Ffrainc a Mexico, 15,000,000p, 65,000 o fywydau; 1864-1870, Brazil a Paraquay, 48,000,000p, 330,000 o fywydau; 1870-1871, Ffrainc a Germani, 316,000,000p, 290,000 o fywydau ac yn 1876- 1877, Rwsia a Twrci, 190,000,000p, a 180,000 o fywydau.
SIARAD GWAG'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIARAD GWAG Ned, a glywaist ti y newydd ?" glolianai haid o wyddau, fel yr oedd mul byclian a'i fam yn segur grwydro glan y llyn. Ond cyn i Ned gael amser i ofyn "pa new- ydd ? baldorddent yn mlaen, gan ddywed- yd, "Y mae Yswain y Plwy' yma wedi dy brynu di i'w fab, John, i'tli farchogaetli yr wyt ti yn myn'd i gael dy bedoli yn liardd, ac y mae nhw wedi prynu ffrwyn a chyfrwy costus ac ardderchog i ti, ac yr wyt yn myn'd i gael dy gadw mewn digonedd o geirch a ffa, a byw mewn ystabl gynhes, a chael dy ddysgu i liela hefycl 1" Yr oedd Ned bron a thori ar ei draws mewn syndod wrth glywed y newydd ond gofyn- odd ei fam yn dawel. Foneddigesau, can- iatewch i mi ofyn i cliwi pwy a ddywedodd i chwi ?" 0, dyna ydi'r son, dyna fel mae nhw'n deyd, dyna ydi'r siarad cyffredin," meddai'r gwyddau. Mae yr hen gaseg wineu, a Brecan, a'r hen fuwch frech, a'r ehol du, a'i fam, a Pero a Drover, a chi'r melinydd, a llawer ohonyn nhw wedi bod lieibio yma, ac y mae pawb yn siarad am dy ddyrchafiad, Ned." Mam, ydi o'n wir, tybed ?" meddai Ned, yn ddwysfyfyrgar, wedi i'r gwyddau eu gad- ael, a myn'd i nofio ar y llyn. Mi glywais i gorgi'r felin yn deyd wrth Drover ei fod o'n meddwl fod y melinydd yn myn'd i brynu rhyw ful bach, a'i ddysgu o i neyd gwaith melin a chario pynau a beicliiau trymion, a hyny, yn ddiarnheu, ydyw yr holl wir sydd yn y stori," meddai mam Ned. "0, mam anwyl," meddai Ned, "sut y galla nhw ddyfeisio ffasiwn straeon V "Wn i ddim pa fodd, fy mab diniwed i, ond fel yna mae hi. Yr ydw i wedi sylwi bob amser mai siarad gwag ydyw y rhan fwyaf o'r pethau mae'r gwyddau yna'n siarad, apliwy bynag fydd yn dyfeisio'r holl chwedl- au yna dydwn nhw ddim gwerfeh ond i gael eu baldorddi gan liaid o wyddau, a'u hadrodd wrth asynod, ac yn v cyffredin, y mae'r chwedlua hyny mor ffwlbriaidd ag y byddai raid cael mul bach ifanc iawn i'w credu nhw."
DYWEYD YN BLAEN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYWEYD YN BLAEN Nid oedd ar Mr Bobolink eisieu i William Telloror briodi ei ferch. Ac felly, pan ddaeth y dyn ifane yno ar y genadaeth oll- bwysig o ofyn am ei llaw, gosododd yr hen foneddwr ei wyneb fel callestr yn erbyn hyny. "Na. syr." meddai yr hen wr yn ddigofus, "nis gellweh gael fy merch." "Ond v mae arnaf ei lieisieu," meddai v gwr ieuanc, "a pheth arall y rhaid i chwi ei gymeryd i ystyriaeth ydyw, mae arni hi fy eisieu i." Nid yw o un gwahaniaeth, syr, nis gelhveh ei chael." "Felly, fe dybiaf, eich bod yn disgwyl i mi ei rhoi i fyny ?" "Yn hollol felly," ebe yr hen foneddwr. "Wel, mewn difrif, a ydych yn meddwl y gwnaf 1" medclai y dyn ieuane mewn ton nad oedd vn ymddangos i'r hen foneddwr fel pebai yn barod i wneyd yr hyn a ddisgwyliai. "0, ydwyf," meddai'r hen fachgen. Wel, dim rhvfedd nad ydych fy eisieu i fel eHi mab-yn-nghyfraith, os ydych yn meddwl mai creadur felly ydwyf, ac nid wyf yn eich beio ni fuaswn yn derhyn dyn teljvir yn fab yn nghyfraith fy hunan, chwaith, er i'r eyfryw dalu i mi am gael bod. OIHI, amvyl syr, nid un o'r fath yna ydwyf fi. Mae ainaf eisieu eich merch yn wraig, ac yr wyf yn myned i'w chael, ac y mae hithau fy eisieu innau yn wr, ac nid oes genyf wrth- wynebiad i chwi fel tad-yn-nghyfraith, ac y mae hithau yn bur hoff olionoch fel tad. Felly yr wyf yn berffaith foddlon i ymuno a'r teulu, ac os byddwch yn dewis ymddwvn yn gas tuagatom, wel, fe ufuddhawn fel plant, a gwnawn ein goreu i'ch diddanu, ac i gyfanu y cyfan a ffrindiau y teulu, y rliai fydd eisieu gwybod beth fydd y mater arnoch, ydacli chi n gwel'd ?" Ac yr oedd gan yr hen wr ddigon o ddoeth- ineb i "wel'd."
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
--r- =- Camsyniad mawr ydyw fod yr eiddaw sydd yn tyfu ar fur y ty yn peri fod y ty yn llaith.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PUBLISHER'S NOTICE "PAPUR PAWB"—an Illustrated Welsh Weekly Paper, devoted to Novels, Short Stories, Brief Biographies of the Celebrities of the Day, Wit and Humour, Puzzles, Poetry, and Light Literature for Family Reading—is published at the Herald Office Carnarvon. "PAPUR PAWB" is an excellent medium for advertisements, there being no other paper of the same kind published in the Principality. Single copies per post for one quarter Is. 8d. (prepaid). P.O.0's and Cheques should be made payable to the Publisher, DANIEL REES, at Carnarvon. CONaL Y CYHOEDDWR Cyhoeddir "PAPUR PAWB" yn swyddfa'r Herald, Caernarfon, yn gynnar bob wythnos ar gyfer dydd Sadwrn. Pob wythnos, ceir Arlwy o Arabedd, Blodau Barddas, Cystadleuon i'r Cywrain, Darluniau Difyr, Nofel Nodadwy. Mewn gair, bydd PAPUR PAWB yn Llawn Lien a Lluniau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yn Eisieu, Dosparthwyr egniol yn mhob ardal lie nad oes dosparthwyr wedi eu penodi eisoes.—Ymofyner am y telerau a'r Cy- hoeddwr, PAPUR PAWB," Caernarfon. Anfonir "PAPUR PAWB" yn rhad drwy r post am chwarter am Is. 8e. (blaendal). Nid oes yn Nghymru well cyfrwng i Hysbysebu yuddo na PAPUR PAWB." Pob P. O. Order, Cheque, &c., i'w gwneyd yn daladwy i DANIEL REES, yn Nghaer- narfon. CELL Y GOLYGYDD -c'" .0 NOFELAU, CHWEDLAU BYRION, &c.—Mae'r Golygydd yn barod i dderbyn cynnygion am yr ucbod ar delerau rhesymol. GWOBRWYON .-Gweler rhestr mewn colofn arall. A WGRYMIADAu.-Teimlir yn wir ddiolchgar am bob awgrym at wneyd PAPUR PAWB yn fwy defnyddiol a dyddorol. DARLUNIAU DIFYR.—Am ddarluniau difyr gwreiddiol, o waith arlunwyr Cymreig, tebyg i'r rhai ar tudalen 1, telir yn ol teilyngdod y rhai fyddont yn gymeradwy. DALIER SYLW. Nid yw'r Golygydd yn addaw dychwelyd ysgrifau na darluniau neb pwy bynag ar unrhyw delerau. Cyfeirier pob gohebion llenyddol ac arlun. aethol at Y Golygydd, PAPUR PAWB," Caer. narfon.