Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr Hen Wmffra: Beth wyt ti am fyn'd pan ddoi di yn fawr, fy machgen i?" Bachgen Saer pridd-feini." Yr Hen Wmnra "Wel da, machgen i, dwyt ti ddim yn anelu yn uehel iawn. Paham y buasit ti yn dewis y gwaith hwnw, fy machgen i ?" Bachgen 'Herwydd mae 'na gimin o ddyrnodia na fedra saer pridd-feini ddim gweithio gan v tywydd." Y Gwr: Yrwan mewn difiif, Arabella, y mae hyn yn ormod o beth. Addawsoch i mi y byddai i chwi alw yn ol eich order am y ddress Rewydd hono." Y Wraig: Mi ysgrifenais i'r ffirm ar un- waith y diwrnod hwnw, John." Ond dyma'r dress wedi dwad a'r bil gyda hi-digon i wneyd methdalwr ohonwyf o'r bron. Sut y mae hyn yn bod ?" Y Wraig Mi ros i'r llythyr yn eichllaw chwi i'w bostio, ond, mae'n debyg i chwi aiaghofio fel arferol." Tra v mae tewdra yn destyn llawer o siarad a chynghori y dyddiau hyn, nid yw teneudra wedi dianc yn hollol ddisylw. Y mae boneddwr parchedig yn byw yn agos i Cwmbwiiwm wedi myn'd yn ddiar- ebol o deneu a golwg swbachol dros ben arno. Pan oedd yn myned allan am dro y dydd o'r blaen, cyfarchwyd ef fel y eanlyn "Wel, Doctor, yr ydw i'n gobeithio eich bod wedi cymeryd gofal o'ch enaid?" "Paham, fy nghyfaill?" meddai'r doetli- awr. "Oherwydd," meddai'r ffrynd, "nadydyw eich corph yn werth boddro yn ei gylch 0." Efe "O'r diwedd dyma ni ar ein penau'n hunain, ac y mae genom ni gyfleusdra i gael ymgom. Yr ydw i wedi bod yn disgwyl am y foment yma am ddiwrnodiau lawer, oher- wydd y mae genyf rywbeth eisieu ei ddy- weyd wrthych," Hi: Ewch yn mlaen, Mr Hughes." Efe: "Mi af. Miss Jones, hwyrach nad ydych chwi ddim wedi sylwi fy mod wedi cael fy nirgymhell, yn anesmwyth, ac hyd yn nod yn garbwl yn eich presennoldeb, a bod gen i rywbeth ar fy meddwl eisieu ei ddyweyd wrthych." Hi (yn dyner): "Ie." Efe: "Yn cael fy nghymhell, wyddoch, ac eto mer ryw drwstan, Miss Jones, a hyny o achos -11 Hi: "Ewch yn mlaen, Mr Hughes." Efe: Fy mod i yn ofni nad oeddych chwi yn geall fy mod yn myned i briodi eich mam," Mrs Gofalus (yn trwsio trowsis ei Gabriel bach): Gabriel, lie cest ti'r rhwyg yma yn dy drowsis, y cena bach ?" Y Cena Bach Dyna lie yr oedd y nhad yn gosod arna i, ac yr oedd yna hoelion yn y plane hefyd." Mrs G. Wel cofia di am dynu dy drowsis y tro nesa byddi di yn myn'd i gael scwrfa." $$$ Geosge: Pa brawf sy' gen i eich bod chwi yn fy ngharu i mewn gwirionedd?" Elen "Prawf! Oni ddaru mi ddawnaio gyda chi wyth waith ?" George "Do, ond alia i yn fy myw ystyr" ied hyny yn brawf o serch." Elen: Ellwch chi ddim ? Yr ydw i'n siwr y gallech chi pe baech chwi'n gwybod pa fodd yr oeddych yn dawnsio." Yr oedd Dante McWermod yn areithio ar y ser a'r goruchelion yn neuadd fawr Crug y Babell, y noson o'r blaen, a'i freichiau ar led wrth ddarluni'o eangder y greadigaeth, Wedi traddodi yn wyntog am dri chwarter awr, arliosodd i gymeryd llymaid o ddwfr. Ar hyny, dyna lais o'r gallery yn apelio at y cadeirydd, ac yn dyweyd ei fod yn beth hollol afreolaidd i felin wynt gymeryd ei throi gan ddwfr. Byddai hen weinidog, gan yr hwn yr oedd cyfres o bregethau, drwy y rhai yr elai un- waith yn y flwyddyn, pan ofynid iddo am dipyn o amrywiaeth, yn arfer dywedyd — Fy nghyfeillion i, y mae fy mhregethau i wedi eu bwriadu i wneyd lies i chwi, ac nid i'ch difyru pan welaf chwi yn gwneyd yr hyn wyf wedi bod yn bregethu i chwi drwy yr holl flynyddau, yna mi anrhegaf chwi a rhywbeth newydd." Aeth ted i fachgen bychan gydag ef i gael tori ei wallt yn siop y barbwr am y tro cyntaf yn ei fywyd. Yr oedd yr olygfa yn hollol ddyeithr i'r bachgen. Eisteddai dyn i gael ei eillio, a'i wyneb yn orchuddiedig a throchion a phan oedd y gwr a'r ellyn yn dynesu ato, tynodd y bychan ei law o law ei dad, ac allan ag ef. Rhedodd adref cyn gynted ag y gallai, a'i dad ar ei ol, yr hwn a'i daliodd wrth drothwy y drws. Y rascal bach, beth a barodd i ti redeg allan fel yna ?" meddai'r tad. "0 nhad," meddai yntau, "os ydingwyneb i yn myn'd i dori allan yn swigenod mawr fel yna wrth gael tori ngwallt, gwell gen i Jieidio cael ei don o," Meistres Ddaru mi ddim canu'r glooh, Jane." Jane: Naddo, mum, dwy'n gwybod; ond mi roeddwn i'n myn'd yn reit ddigalon i lawr yn y gegin yna, ac yr oeddwn i'n meddwl y down i i fyny yma i gadw cwm- peini i chi, fel y bydda i'n cadw cwmni i mistar pan fyddwch chitha oddicartref," Meistres: "Yrwan, os ayfloga i chwi, mi ddymunwn i chwi ddoall yn eglur nag ydan ni byth yn taflu ymaith nac yn gwastraffu y man dameidiau gweddill a adewir ar y bwrdd." Y Forwyn Newydd: Wel, mum, mi allwch chwi wneyd eich meddwl yn dawel am hyny; mi gymera i ofal am eu cadw nhw i gyd i chi." Yr oedd Ffarmwr Puw yn y ciniaw rhenti, ac wrth ei ochr yr oedd baldorddwr dibaid, yn selio pob peth a'i law. Y mae eich Haw yn fy mlino i yn arw iawn," meddai Ffarmwr Puw. Yn wir," meddai'r baldorddwr, yr ydan ni mor dyn a gorlawn yn y lie yma fel na wn i pa le i roi fy llaw." Dodwch hi yn eich safn," meddai Ffarm- wr Puw. John," meddai ei anwyl wraig, mi fasa'n dda gen i pe baech chi'n canu ryw linell neu ddwy i mi." "I ba beth ar y ddaear y mae arnoch chi eisieu hyny ?" "Mae yna rywbeth ydw i wedi anghofio brynu i chi pan eis i lawr i'r dref, rhywbeth oedd arnoch chi ei eisieu hefyd ond fedra i yn fy myw gofio, mi cofia fo os canwch i mi." Y mae y gwr difeddwl-ddrwg yn cydsynio ac yn canu, a'r wraig anwyl yn dyweyd, "Yr ydw i yn cofio yrwan. Eisio file i hogi'r lli." Hi: Na, allaf fi byth eich priodi chi." Efe: Ond yr ydach chi wedi dangos llawer o barch tuagataf ?" Hi: Ydwyf, yr ydw i yn eich parchu yn fawr. Mi fyddaf fi yn chwaer i chwi. Mwy na hyny nis gallaf." Efe "Ond mi fyddwch yn chwaer i mi ?" Hi: Byddaf, a chroeso calon." Efe Gan hyny, dowch a fy ffon i mi, a daliwch fy nghot ucha i. Mi allwch frwsio tipyn ami hi hefyd. Peidiwch a gwisgo yr hen ffedog hyll yna byth yn ychwaneg. Byddwch yn eneth dda iawn bob amser, a byddweh yn dyner wrth fy mam (mam-yn- nghyfraith oeddwn i yn feddwl), ac hwyrach y cymeraf fi chi gyda mi i'r concert ryw nos- waith yr wythnos nesaf." Hi: Beth ydach Ghi'n feddwl, syr ?" EfQ: Cymeryd rhan brawd yr ydw i."