Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y CYNGHORYDD DAVID PIERCE,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYNGHORYDD DAVID PIERCE, CAERNARFON. Brodor yw Mr David Pierce, Cynghor- ydd Trefol, Caernarfon, o blwyf Llan- ddeiniolen, wedi ei eni yn Cerigynyth yno. Mab ydyw i chwarelwr parchus, sef y diweddar Mr Pierce Morris Pierce, hanedig o Lanberis. Derbyniodd gwrthddrych hyn o hanes ei addysg yn ysgol ddyddiol Dinor- wic. Cawn ef yn gadael cartref yn gynnar ar ei oes i ymhyfforddi yn y busnes y mae mor faith ac anrhydeddus berthynol iddo, a phrin y ceir unrhyw fasnachwr a aeth trwy gyfres mor hir ac amrywiol yn nghanghenau y gwaith i'w gyfaddasu i fod yn ben ar faelfa mor eang ag y perthyna iddi. Ei ymadaw- iad eyntaf oedd i Bentir, lie bu yn egwydd- orwas gyda Mr William Jones, draper a grocer. Oddiyno aeth i Lerpwl, i wasan. a.ethu fel cynnorthwydd gyda Mr H. Owen, a gadwai fasnachdy yn Ranelagh-street, un o heolydd mwyaf prysur a bywiog y ddinas. Wedi bod yno ychydig gyda blwyddyn, sy- mudodd i wasanaeth Mr Robert Evans (ffirm yr hwn, ar ol hyny, a adnabyddid fel y Mri Evans, Richards, and Co.), London-road. Blwyddyn a hanner y bu yna cyn symud i ganghen Lerpwl o fasnach at y Meistri Cope- stake, Moore, Crampton, and Co., un or tai cyfanwerthol mwyaf yn Llundatn. Arosodd yno am saith mlynedd, chwech o ba rai fel trafaeliwr yn Lerpwl, Birkenhead, a'r cylch- oedd. Oddiwrthynt h"7 aeth i wasanaeth y Meistri Brookfield, Holbrook, and Collinson, ffirm adnabvddus iawn, a chanddynt ystordy cyfanwerthol eang yn Manchester. Trafael- iwr ydoedd eto gyda'r ffirm yn yr un cylch ag o'r blaen. Braphefn, cawn ef yn teithio dros y Meistri Dawes, Roberts, and Co., woollen merchants, a bu gyda lnvynt am dair blynedd. Os nad ydyw hyn yn ddigon o brentisiaeth" yn amrywiol ganghenau y fasnach, anhawdd fyddai meddwl am ddim a fyddai'n ddigon, ac, ar ol y fath dymhor maith o fywyd prysur a symudol yn nhrefi mawr y Saeson, naturiol oedd gweled y fath un yn troi ei wyneb yn ol ar yr Hen Wlad i ymsefydlu yn rhywle yn agos i'w hen gartref. Tua'r un adeg, yr oedd gwr a feddai brofiad cyffelyb, ag awydd arno i setlo yn un o drefi Gwynedd, a bu y diweddar Mr Thomas Williams a Mr David Pierce yn ffodus i daro ar eu gilydd pan yn coledd cyffelyb I fwriad. Prin y ceir engraipht o bartner- iaeth fasnachol fwy ffodus. Agorasant fasnachdy drapery yn Bont Bridd a elwid "Siop yr Eryr," neu y Golden Eagle." Eangodd eu busnes yn hynod brysur, a gorfuwyd chwilio am adeilad mwy, yr hwn a gafwyd, ac a alwyd Yr f Afr Aur," sef rhan o'r masnachdy presennol. A dychwelyd at wrthddrych yr hanes ei hunan, y mae lie i ddisgwyl llawer oddi' wrtho at wasanaeth ei dref a'i wlad, canys nid ydyw ond ychydig flwyddi dros yr hanner cant, lieb foelder na dim penwyni, ac y mae irder a hoender yn nodweddu ei wedd a'i gorpli. Bu bob amser yn ffyddlon gydag achosiou crefyddol, yn arbenig achosion ei enwad ei liun, a rhyw ddwy flynedd yn ol dewiswyd ef yn un o flaenoriaid eglwys fawr Moriah (T.C.). Ychydig amser a aeth heibio, etholwyd ef yn llywydd Clwb Rhydd- frydol Caernarfon, ac y mae iddo lawer o fuddiant yn amgylchiadau y sefydliad hwnw. Fel y sylwyd, y mae erbyn hyn ar y cyng- lior trefol, ac y mae pob lie i gredu y gwna aelod doeth a defnvddiol. Uchelgais ganmol- adwy ydyw cael bod yn un o gynghorwyr neu lienuriaid yr ardal lie y mae un yn trig- iannu. Caffed Mr Pierce oes faith i lanw y safleoedd hyn, a diau y gobeithir nad pell ydyw y diwrnod y gwelir ef yn faer a. phrif ynad y fwrdeisdref.

MR IRA D. SANKEY, Y DIWYGIWR.