Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.,...""-+aYDA GWALLGOFDDYN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"-+- aYDA GWALLGOFDDYN MEWN AWYREN R oeddwn wedi myned i Lerpwl gyda'r excursion yn ystod yr haf. Byr iawn oedd un diwrnod er gweled holl ryfeddodau y ddinas; ond yr oedd yn rhaid gwneyd y goreu o'r amser, a phrysuro drwy y dociau, yr y.strydoedd gan ryw lanw didor o bobl, bobpeth a welem. Nis gallem fforddio ond cipdrem frysiog i neuadd enfawr St George, a chofadeiliau costus Disraeli, Wellington, a'r Tywysog Cydweddog, wrth ochr yr hwn yr eistedda cerflun ei grasusaf Fawrhydi y Frenhines ar ei maenfarch mawr. Llenwid yr ystrydoedd gan ryw lanw didor o bobl, fel braidd na themtid ni i ofyn gyda'r Cardi hwnw, pan welodd gymaint o bobl yn heol- ydd y Brifddinas, ac a drodd at heddgeidwad gan ddyweyd, "Sut mae cynifer o bobl yn Llundain heddyw ? Ydi hi yn ddiwrnod tfair neu oes yma excursion wedi dod o'r gweithie ?" Gan fy mod yn dod o ardal wledig, lonydd, teimlwn fod twrw y ddinas fel pe yn fy syfrdanu, ac eto ni fynwn ddy. chwelyd hyd nes cael gwerth fy arian. Yn fiodus, fel y tybiwn ar y pryd, gwelsom ar y parwydydd hysbvsiad fel y canlyn — BALLOON ASCENT. PRINCE'S GARDENS. MONDAY, July 7th, 1893, at 3.30 p.m. prompt. f PROFESSOR TALBOY will ascent in his monster balloon, "Columbia," in the above Gardens, to-day. Anyone who desires may accompany him. Entrance to Gardens, 6d each; children, half-price. Dyma fantais iawn i ymweled a'r gerddi ganol haf, ac i weled un o brif ryfeddodau celfyddyd ar yr un pryd. Ffwrdd a ni yn gwmni llawen. Nid oedd genym ond ycli- ydig cyn y byddai yn dri o'r gloch. Cyr- haeddasom y gerddi. Gwenai y blodau ar, nom yn lion ac iach, a thybiem eu bod fel pe yn gofyn i ni pa fodd yr oedd eu perthyn- asau bychain yn ngerddi tlysion Llanfair. Cludai yr awelon llwythog eu perarogl ad- fywiol i'r ffroenau. Yr oeddem fel pe yn nghanol y wlad eto, ond i'n dadebru, clywem gloch yn seinio, a llais cryf yn bloeddio allan, This way, ladies and gentlemen, she'll start in five minutes. Who'll go up with Professor Talboy ? Splendid ride; no charge. This way if you are ready." Yr oedd yr awyren fawr ar gychwyn. Brysiais -i a'm cyfeillion, John Jones a Dafydd Davis, tuagati, credodd y gwr a floeddiodd, wrth ein gweled yn dy- nesu, ein bod am esgyn ynddi. Ymaflodd yn fy mraicli, ac, er fy syndod, arweiniodd fi at y cerbyd neu y basged oedd yn nglyn a'r awyren. Jump in, sir," meddai, "perfectly safe." Yr oedd arnaf gywilydd dangos fy hun yn llwfraidd, er fy mod wedi fy nal gan ofn mawr. Cyfodai y dorf, hefyd, fanllefau o gymeradwyaeth i mi. Taniodd hyny fy nghalon, ac i mewn a mi, gan eistedd ar y sedd yn y fasged. Yr oedd yno le i un arall gyferbvn a mi. Disgwyliwn yn ddyfal aro weled y Proffeswr yn dod, a gobeithiwn na Meuai o gwbl. Yr oedd pob moment yn awr, a phob mynyd yn hanner oes y pryd hwnw. Aeth y bloeddiwr a'm tywysodd i'r car i ffwrdd i edrych am y Proffeswr Talboy. Yr oedd awydd ynwyf neidio allan, ac eto nis gallwn, am fod y dorf wedi canmol cy- maint arnaf, ac, yn wir, am fy mod wedi colli braidd bob awdurdod ar fy nghoesau. Gwelwn y dorf yn ymagor; clywn fonllef yn cael ei dyrchafu. Edrychais i'r man lie yr edrychai pawb, ac wele ddyn mawr, cryf, ysgyrnog, garw yr olwg yn dynesu ataf, yn rhoddi cam i fewn i'r cerbyd, ac yn gwaeddi yn uchel, "GoIlyngwch y rhaffau." Yr oedd yr awyren yn hollol barod i gychwyn gwingai ac anesmwythai fel march porth- iannus ar ddechreu y rhedegfa. Gyda bod fy nghydymaith heglog, dveithr yr olwg arno, yn bloeddio, neidiodd amryw bobl ieuaino at y gwaith. Yn mhen mynydyn dyna y "Columbia yn neidio i fyny oddiar y ddaear fel aderyn. Ymaflodd dychryn ynof. Nis gallwn ddyweyd gair. Eiliad cyn iddi godi, yr oeddwn wedi gweled y dyn a'm tywysodd i'r cerbyd, gydag un arail ocdl wedi :1m. wisgo mewn lifrai heirddij.t, yn bloeddic" ac yn gwyllt-amneidio ar i'r bobl ddal yr awyr- en, ond ni ddychymygais paham y ceisient ei rwystro. I fyny i ffyrdd y cymylau yr esgynau ein hawyrlong. Yr oeddwn yn dis- gwyl i'm cydymaith drefnu y taclau ac ed- rych ar ol pethau. Na, dim; chwarddai yn iachus un eiliad, ac yna duai ei wyneb gan wg. Nid oeddwn yn ei ddeall, ac felly n;8 gallwn ei holi ar y cyntaf. Edrychais tua'r ddaear Nid oedd neuaddau mwyaf Ler- pwl ond megis colomendai i'm golwg Ffurf- iai y Mersey fath o linyn arian cul rhwng Birkenhead a'r ddinas. Cludai yr awelon ni dros fraich uchaf sir Gaer i gyfeiriad genau y Ddyfrdwy Beth ddaethai ohonom ? Rhuthrodd hwynebau fy ngwraig a fy mhlant drwy fy nghof. Yr oedd fy holl fywyd yn amlwg o fy mlaen. Paham y bu'm mor ffol ? O'r diwedd gwaeddais, 'A ydym yn ddyogel Proffeswr Talboy ?" "Ha ha! ha! Talboy, Talboy, pwv ydi hwnw 1" atebodd y eawr coch, fel pe buasai yn cael hwyl am fy mhen. Onid chwi yw y Proffeswr Talboy ?" medd- wn innau, yn gryliedig. Yr ateb gefais oedd "Ha! ha! ha! Y fi ydi Ymliera^ Rwsia. Ydi'r hen gathod yn meddwl J nghadw i o'm gorsedd ? Ha ha ha hyn cododd ar ei draed gan ymaflyd J11 j o'r rhaffau; cydiais innau yn ei got, iddo syrthio, fel y tybiwn, ond ar hyn wn ef yn ysgyrnygu ei ddannedd, ei enauj ewynu, a'i ddwrn yn cau; ysgrechiai "A wyt tithau yn un o fy ngelynion i ? fynyd, mi dy osodaf di yn dawel, f bymag." Fflachiodd arnaf yn sydyn fy JIl, yn nghwmni gwallgofddyn Yn hoity rhwng daear a nef, heb braidd ( gobaith am ddim ond angau sydyn. Oe iais ei dawelu, ond gwaeth-waeth yr ai. ais ei fod wedi tynu cyllell allan o'i \oge\ Beth oedd i'w wneyd ? Ymaflais yn ei cyn iddo gael amser i'w hagor. Cynhyri1] hyn ef drwyddo. Ciliodd fy holl wefl^ innau; teimlwn ynof nerth deg o ge^ Ffyrnicach o hyd yr ai yr ymdrechfa Tel| Iwn y cerbyd bychan yn troi braidd ochr Y dyfnderau dychrynllyd islaw i1 Bywyd am fywyd oedd i fod Clywu hun fel pe yn dechreu colli nerth, ond yr o £ y gwallgofddyn fel pe yn myned yn gryfad1 hyd Pwy fedr ddirnad y dychrynfeyd^ dreiddient trwof ? Ow yr oedd yn cae' trechaf arnaf Yr oedd yn fy nhaflu df odd Ces afael yn un o'r rhaffau. oeddwn yn crogi dros y cerbyd GW ef yn rysuro i dori fy mysedd i ffwrdd gyllell Pan ar syrthio, rhoddais ysgJ annaearol, a deffroais, gan ddiolch mae y11' ngwely yn Llanfair yr oeddwn yn bra"# wydio. k

CAEL EU DAL j

[No title]