Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PONT Y TWR, LLUNDAIN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONT Y TWR, LLUNDAIN MAE Llundain wedi tyfu i'r fath faint aruthrol o'r ddau da i'r Tafwys, fel mai rhai o r dyrysbynciau er's blynyddau ydyw cvnllunio moddion er galluogi'r afrifed deith- wyr groesi yr afon a throsglwyddo nwyddau drosti, a hyny heb unrhyw attalfa ar y for- dwyfa a gosod rhwystr ar drafnidiaeth llong- au. Ceir lluaws o bontydd yn rhychwantu yr afon, tra y ceir ffyrdd ereill yn myned odditan y dwfr. Hyd yn ddiweddar, y dra- mwyfa isaf dros yr afon oedd hen Bont Llundain," adnabyddus i bawb un ai trwy ei gweled neu glywed am dani. Y drychfeddwl er's oesau oedd cael pont tua hanner milldir yn is i lawr yr afon, yn nghymydogaeth y Twr Gwyn, yr hwn a saif ar Fryn Gwyn yr Hen Gymry pan ddaeth y Rhufeiniaid yma i drawsfeddiannu eu gwlad. Y cynllun cyntaf a fu dan sylw oedd cael pont isel gyferbyn a'r Twr, ond yr oedd yn rhaid cymeryd i ystyr. iaeth yn iawn fyddai raid talu i berchenog- ion y ceiau am yr hanner milldir o ffordd bob tu i'r afon i fyny at Bont Llundain canys byddai gobaitli eu helw gyda'r cannoedd Ilongau perthynol i'r lie wedi myned. Trodd y gwrthwynebiad yma yn angau i'r bont isel. Yna gofynid paham 11a chodid troedff ordd uchel, gyda gelltydd i'w phen, fel y gellic: gwireddu llinellau Dewi Wyn am Bont Menai: — Chwithau, holl longau y lli, Ewch o dan ei chadwyni." Canfyddwyd y byddai costau mynedfeydd i'r fath bont yn arutlirol, er i gynlluniau rhag- orol gael eu paratoi, yn enwedig cynllun gan Mr Bazalgette yn 1878. Am y naill reswm neu'r llall, gwrthodwyd holl gynlluniau y rhodfeydd uchel gan y Senedd. Awgr/m- wyd ainryw ddulliau ereill. Oynnygiai un peiriannvdd wneyd rhyd symudol" ar draw,3 neu agerlongau eyfieus, cyflym, ac ami, ond yr oedd profiad lleoedd ereill yn nglyn a'r cyfryw drefniadau yn gondemniol iddynt. Yn 1878, awgrymodd diweddar beiriann- ydd y ddinas i gael pont troedffordd, yr hon a ellid ei chodi a'i gostwng yn ol fel y byddai eisieu, sef ar egwvddor y bascule (see-saw. neu, yn Gymraeg, siglaethan). Cymerodl Mr Wolfe Barry y drychfeddwl i fynv, a gweithiodd ef allan i ddullwedd y pencamp- waith a ddangosir ucliod. Cafwyd cydsyniad y 8enedd i'r cynllun yn 1885, ar ol gwrth- wynebiad pybvr a plienderfynol, ac ar ol i Gorphoraeth Llundain, y rhai a ddygasent yr holl draul, wario cannoedd o filoedd i liyr- wyddo y symudiad. Rhoddid boddhad gan y cynllun hwn i gefnogwyr y rhodfa uchel, gan y darperid ffordd i wyr traed ddydd a nos a rhoddid boddhad i bob! y fordwyfa, trwy ganiaiau ffordd glir o 200 troedfedd, heb anhawsderau troi; a rhoddid boddhad hefyd i gefnogwyr y rhodfa isel, trwy ddarpar iddynt fyned. feydd rhwydd, a pliob hwylusdod wedi i derfyn gymeryd lle-fel y cymer yn fu-i'i- -ar masnach y man longau yn y rhanbarth hwn o'r Tafwys. Dur ydyw y bont mewn gwirionedd, gyda gwisg o waith y saer maen, yn y ffurf o dyrau a phinaclau. Gweithiwyu y rhodfa isaf yn y fath fodd fel y gellir codi ei dwy-ben yn y canol i fyny, a'u gosod yn gyf- oclirog a'r pentanau mawrion pan fo angen lie i longau fyned trwodd, tra ar yr un. pryd y mae'r rhodfa uwchben yn rhydd i berson- au fyned trwodd ar bob adeg, ac edrych, fel y dymunir, ar y llongau mawrion afrifed is- law. Ystyrir y Twr Gwyn yn adeilad ar- uthrol fawr; ond teflir ef i'r cysgod gan y bont hon. Yn adeiladwaitli y tyrau, am- cenid cadw at nodwedd yr hen adeilad ger- llaw. Ceir eglurhad hynod gywir o'r bont newydd yn ein darlun—y pentanau anferth yn yingladdu i'r dyfnder gyda'r tyrau yn codi oddiamynt; yr is-rodfa wedi ei chodi yn gyd- wastad a'r tyrau er mwyn i longau fyned heibio; a'r uch-rodfa yn sefyll yn gadarn- gryf uwchben. Yn y naill ben a'r llall, y mae cynllun cadwynog Pont Menai i'w gan- fod. Y mae'r sylfaeni wedi eu fl'urfio yn ddigon cadarn i gynnal 70,000 tunell o bwys- au, a hyny ar wely o glai afon Llundain, ac y mae profion wedi dangos na syflodd y gwaelod ddilll ond tair modfedd ar ol i'r bont anferth gael ei gorphen. Gellir casglu fod y peir- iannau tuagat agor yr is-rodfa yn dra nerthol a chywrain; a chyflawnent eu gwaith gyda rhwyddineb a chyflymdra rliyfeddol. Codir holl bwysau y rhodfa a gostyngir hi trwy nerth dwfr o dan ddirwasgiad (hydraulic power). Am y grogbont uchaf i fforddolion, eir iddi drwy lifts, y rhai allant fyned i fyny ac i lawr 25 o weithiau mewn awr. Gall y rhai na ddymunent esgyn neu ddisgyn yn y lifts fyned ar hyd grisiau dur, y rhai sydd wedi eu gwneyd yn y fath fodd fel y mae bron yn anmhosibl llithro. Costiodd y bont hyd yn hyn tua miliwn o bunnau, a dywedir i'r holl waith gael ei gario allan heb ond ychydig iawn o ddamweiniau. Ystyrir y bont hon o hyn allan yn "Borth Llundain" o'r mor. Agorwyd hi gan Dywys- og Cymru, Mehefin 30ain.

- LLYN 0 DAN MEWNGWIRIONEDD