Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr hyn fu liawer ohonom. PENNOD XXXI. Y LLEUAD YN EFFEITHIO AR WIL. OEDD fy mhlan i, o gadw'n slei yn yr ogo dan bnhawn Sul, a wed'yn snecian i Bwll- heli ac i fiawn i'r capal erbyn y bregath ang- laddol yn y nos heb i neb ein gweld ni- roedd y plan yna yn taro ar feddwl Bob yn ogoneddus. Dyna lie byddwn yn ei weld o yn eista miawn cornel o'r ogo yn ddistaw am hir iawn ac o'r diwadd yn tori allan i chwerthin liyny fedra fo. "Diawst i," ebra fo yr adega rheini, "plan da ydi hwna. Hwrach pan fyddan ni yn neidio i ganol llawr y capal o dan y set, i ddangos ein liunen, y gneiff modryb ddychryn i farwoleth gan feddwl mae f'yspryd i a chditha fydd yno wedi dwad yn ein hola o'r nefodd o bwrpas i gael tipyn o sport am ei phen hi yn dychryn, a dyna lIe bydd hi, rol ein gwelad ni, yn mynd i ffitia ac yn sgrechian drost yr holl gapal. Mi fydd yno fwy o dwrw yn capal ni nos Sul nag fuo yno er's amsar y diwigiad ystalwm pan fyddar hen bobol rol mynd i'r hwyl yn neidio o gwmpas a sefyll ar eu pena ar dopia'r seti am hir iawn nes bydda amsar casgliad wedi pasio." Wedi gweld fod gynon ni bedwar diwrnod a phum noson i aros yn yr ogo, dyma Bob a fina'n dechra gneyd y lie mor gyinfforddus ag y medra ni, a mi ddarun lwyddo'n bur dd:t hefyd, fel nad oedd arnon ni run mymryn o anwyd, a'r unig beth cas oedd yno oedd yr ogle-ogle pridd run fath ag fydd miawn beddi, faswn i'n meddwl. Bora dranoeth, bora dydd Mercher, yn 01 fel roedd Bob wedi rhagddeud, dyma griw o ddynion o Bwllheli i lawr i lan y mor i edrach welan nhw 111o'n cyrph ni, ond rwsut lie gilidd welson nhw run o'r ddau gorff er eu bod nhw o aim tipyn o latheni i'r dynion. > Ond cyrff byw oedd yno, a nid rhei parod i'r person ddarllan y benod gladdu wrth eu pena nhw. Roedd Bob a fina a'n clustia wrth yr agena oedd rliwng rlien blancia rheini oedd ar geg yr ogo, ac yn gweld y dynion wrthi yn Pysgota am ein cyrff ni, ac yn olowad tipin bach o beth oeddan nhw'n ddeud hefyd. "Ddeuir byth o hyd i'r un ohonynt yn y fuchedd hon mwyach; y maent wedi talu'n ddrud am eu tfolinebau a'u gormod ysgafnder pechadurus," ebra un o'r dynion. "Dyn diwiol iawn ydi'r dyn ena, faswn i'n meddwl," ebrwn wrth Bob. "Pa'm rwyt ti'n meddwl hyny?" Clyw mor ramadegol mae o yn siarad; mae o'n rhoid pob coma a full stop yn ei le mor gysact wrth siarad a thasa fo'n sgwenu ei wllus ag ofn i'w berthnasa dreio ei tlioii hi rol iddo fynd i'r hen ddeuar. A blaw hyny drycha fel mae o'n tuchan ac yn ochneidio, o achos dy bechoda di a fina, mae'n reit siwr." Dyma Bob yn dechra ehwerthin yn fwya speitlyd glowsoch chi rioed. "0 ia, dyn diwiol gynddeiriog ydi hwna. Rydw i'n ei nabod o yn iawn, mi fydd yn tuchan a thynu gwvnab tia'r capal ddigon a gneyd drws sgubor yn sal wrth edrach arno fo, ond 'toes gyno fo ddim mymryn o wir grefydd ar ei helw;. hen sgamp ydi o, a mae pawb yn deud hyny. Nid am dy bechoda di a fina mae o yn tuchan rwan, ond am fod arno fo ofn na fedra nhw ddim dwad o hyd i'n cyrff ni, a felly chan nhw mo'r wobor sy wedi cael ei chynig am ddwad o hyd i'n cyrff ni. Felly mi fydd heiddiw yn ddiwrnod o goll iddo fo. Mae hwna yn meddwl mwy am ei bocad nag am y nefodd, a gelli fentro peidio cymryd sylw o eiria 'rhen granc drwg. Son am danat ti a fina yn rhy ffond o fod yn ysgafn, wir Mae ei bwysa fo, yn ei siop, yn rhy ysgafn o lawar, medda pobol, ond mae o'n treio gneyd i fyny am ysgafndra ei bwysa drwy gymryd arno fod yn drwm iawn ei hunan, yn tynu gwynab ffidil ac ochneidio am bechoda pobol erill. Mi glowis modryb yn deud rwsnos ddweutha un, fod pobol wedi sylwi ar gasgiad fawr o rwbath yn cael ei gollwng o lori y relwe wrth ei ddrws o. 'Oil lamp ydi hwn,' ebra fo wrthyn nhw, ond o Burton roedd y gasgan wedi dwad, ebra modryb, a mae hi'n gwbod pob peth dest iawn. Mi glowis modryb yn deud stori am ei fab o, hefyd, sy yn glare ne deiliwr ne rwbath felly miawn tre fawr yn Lloegar. Mae hwnw yn ffond ofnadwy o ddiod, ac roedd modryb yn deud ei fod o'n perthyn i glyb y Radicals a chlyb y Toris, a mi fydda'n cael llond ei fol o ddiod yn un o'r ddau glyb bob nos, achos mae'n mddangos fod diod yn cael ei werthu ne ei roid am ddim yn y clybia rheini, Ond un noson dyma fo a rhw hen chap arall, miawn sychad mawr tia amsar cau y clybia, yn mynd at ddrws clyb y Radicals ac yn stwfiio llond y twll clo o dywod, a wedyn yn mynd i mgiddio. Toe dyma'r dyn oedd yn edrach rol y clyb yn mynd i gau y lie i fyny am y noson, ond fedra fo yn ei fyw roid clo ar y drws achos fod tywod yn y twll clo. Rol bystachu yn y fan hono am hir iawn dyma'r dyn yn gwlltio ac yn mynd i ffwr adra heb roid clo ar y drws o gwbwl, a cliida ei fod o o'r golwg dyma'r ddau sgamp—mab y dyn jaia weli di ar lan y mor rwan, a'i ffriiid- yn dwad o'u 'mgiddfan ag at y drws a miawn a nhw i'r olyb gan oleuo y lie i fyny a dechra chwara biliards a photio hyny fedra nhw. Toe, rol i'r ddau fynd yn fwy na lianar chwil, dyma guro mawr wrth y drws. Y plisman oedd yno, wedi gweld y dyn oedd yn gyfalu am y clyb yn mynd adra ac yn methu dallt be oedd y gleini oedd tu fiawn wedyn. Curo wedyn. Neb yn atab—roedd y ddau wedi bario y drws y tu fiawn, dallt ti. Rol curo lot yn chwanag, a neb yn dwad i agor y drws dyma'r plisman yn mynd i ffwrdd ar ei rownd. Ond roedd y ddau oedd tu fiawn wedi dychryn cymint pan welson nhw mae'r got las oedd tu allan fel y daru nhw redag oddyno adra y mynud yr aeth y plisman i ffwrdd. Olid yn y bora, pan ddaeth y dyn oedd yn gyfalu am y lie yno, dyna lie roedd yno y llallast mwya ofnadwy. Roedd y gas yn ole o hyd, y ddau sgamp rheini wedi anghofio eu diffodd nhw pan yn dengid adra; a chida fod y dyn wedi cyredd yno dyma'r dyn oedd yn caelw gwaith printio i lawr yn y siop o dan y clyb yn galw arno fo i ddangos y damej oedd wedi cael ei neyd y noson I10110 ar ei injians a'i dacla erill o-roedd y siop yn nofio o gwrw Erbyn gweld roedd y ddau sgamp fuo yno yn slei y noson gynt wedi meddwi gormod a wedi dychryn gormod efo'r plisman mes anghofio cau tap y faril gwrw, ac roedd llond baril gyfa o gwrw wedi rhedag ar hyd y 11a wr a dropio am ben injians printio, papyr, a stoc y dyn oedd yn cadw gwaith printio yn y siop o dan y clyb, ac mi fuo raid i'r clyb dalu dros gan punt o iawn i'r printer, ond toes neb yn gwbod yn sicir pwy naeth y job yna blaw modryb, achos fel y deudis i o'r blaen, mae hi yn gwbod pobpeth dest iawn." Dyna stori Bob. Wn i ddim faint o wir sy yni hi. 'Rol chwilio a spio lot o gwmpag glan y mor aeth y dynion i ffwr heb weld run o'n cyrph ni. Dydd Mercher oedd hyn, ac hyd yma roedd Bob wedi dal yn reit g'lonog, ond fel roedd y nos yn dwad dyma fo'n dechra dangos 'rwydddion o hireth. Mi gwelwn o yn eista am hir iawn a'i ben rhwng ei ddwylo, heb ddeyd run gair. Ron i'n gweld fod yn rhaid i mi. neyd rhwbeth i godi calon Bob a gneyd iddo anghofio ei hireth am Bwllheli ne fasa'n bownd o fynd arda a spwylio'r bregath ang- laddol. Piti fasa hyny, achos petli reit fardd- onol i brygethu yn ei gylch o ydi hanes pobol wedi marw, nenwedig dau hogyn drwg fel