Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
"GWNEYD" Y CLERCOD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"GWNEYD" Y CLERCOD Dywedodd Smithies wrth y dwsin clercod oedd am fyned i swyddfa Allandero a'i Gwmni i ofyn am Ie, ar iddynt ofyn am 30s o gyflog yn yr wythnos. Gwnaethant hyny oil. Ar ol iddynt ddod allan, daeth Smithies allan atynt gan chwerthin. Gofynasant iddo beth oedd arno ? Yntau a ddywedodd mai efe oedd wedi cael y lle, Sut hyny ? gofynwyd iddo. Atebodd yntau eu bod hwy oil wedi gofyn am 30s, pryd y gofynodd efe am 28s, ac mai efe oedd wedi cael y swydd I
SAL IAWN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SAL IAWN Parod iawn oedd Barlow i ganiatau ei anwyl briod fyned i'r wlad i aros am fis yn nhy cyfaill. Cyn pen yr wythnos, pan yr oedd Barlow yn dechreu cael pethau i drefn i fwynhau ei hun yn ardderchog hefo'i luaws gyfeillion, dyma lythyr yn dyfod, gan hys. bysu fod Mrs Barlow yn wael iawn. Rhaid oedd i Barlow fyned i edrych am danii Cyrhaeddodd yno boreu dranoeth. Gofyn I odd, A ydyw hi yn sal iawn ? Hwythau a atebasant, Ydyw, yn sieri Nid ydyw wedi siarad er's pedair awr ar hugain." Pan glywodd Barlow ei bod wedi cadw yn ddistaw heb siarad am bedair awr ar hugain, dywedodd, Yn wir, os ydyw hi wedi peidio siarad am gymaint a hynyna o amser, rhaid ei bod yn sal gynddeiriog I
HUNANCOFIANT HOGYN neu Yr…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bob a nna, achos mi fasa yno gymint o aeldygg i'w dynu oddiwrth einhanas ni, rwsutr—fel bydd y stiwdants yn deyd. Mi fasa'r pregethwr yn medru cael lot o bena i'w bregatli. Yn gynta: Y ddau hogyn drwg; yn ail: be oedd eu drygioni nhw ? Nid swindle pobol o'u pres, dim ond tipyn rhy ffond o chwerthin a sgafndra. Yn dry- dydd: Pechod wedi arwen y ddau hogyn i foddi. A chyda hyny mi fydda'r ddau hogyn drwg yn bownd o ddwad o farw'n fyw reit ar ganol y capel. Ond os oedd Bob am hireithu am Bwllheli a'i fodryb fel hyn, roedd arna i ofn y basa'r hen ffwl gwirion gyno fo'n dengid adra'n slei bach o'r ogo tra baawn i yn cysgu, a wedyn dyna ben ar y gwasanaeth angladdol nos Sul. Felly, er mwyn gneyd rhwbeth i dynu'r hireth o Bob, dyma fi'n cynig iddo fo'n bod ni'n myn'd allan o'r ogo i'r tai ffermydd o gwmpas y wlad bob nos dan nos Sadwrn, er mwyn cael tipyn o sport. Roedd hyny'n tynu tipyn o syhv Bob, a thyma fo toe yn anghofio Pwll- heli a'i hireth wrth feddwl am y sport gaen ni wrth fynd allan o'r ogo bob nos i chware tticia. wfo']* ffarmwrs o gwmpas, a wedyn dengid yn 01 i'r ogo e-iu i neb fedru'n gweld ni. Felly, nos Fercher dyma Bob a fina'n dwad allan o'r ogo ac yn mynd draws y eaeau at y ty fiaryi hwnw lie roeddan ni weidi cael bwyd y noaon gynt. Roedd pawb yn eu gwely erbyn hyn; roedd hi'n noson ole, loergaa lleuad, a chysgod Bob a fina'n 'inddangos yn hir o'n blaeaa ni ar y caea fel roeddan ni'lil mynd o'r ogo am y ty ffarm dim swn yn unlle blaw swn rhw afon bach yn bell yn rhwle, a chi ffarm yn cyfarth fel yr andros a? J lleuad. Ron i'n teimlo mor ogonaddua fel y darn i mi roid neid ar ganol y cae,- Dyma i bi Roson ddifyr, Bob," ebrwn wrtho. "Tasa gen i bres mi Saswn yn talu i rwun am ddyfeisio Hong i hedag drw'r awyr; mi fasa'n neis ar noson ole braf fel hyn. Spia rwan fel y mae'r lleuad yn sgleinio ar y gwlith 8Y ar- y gwelltglas yma; yn tydi feeno'n noson fendigedig? Be mae modryb Llanfarfecha* yn nerd rwan, sgwn i? Mae hi'n gweld ran lleuad a fina run munud yn union, os ydi'r heit gryduras heb fynd i'w gwely. Mi fydd lleuad fel heno yn codi hireth arna i am gael mynd i rwle, cael hedag drwy'r awyr yn mhell o'r byd yma i'r nefodd ne rwle. Wn i ddim bedi'r achos fod y lleuad yn effeithio ielna arna i, ond felna bydd hi bob amsar, a hwrach fod teimlada felna yn brawf mod i a chditha i gael crwydro eto dan loergan lleuad braf fel heno yn mhen canodd o flynyddodd rol i ni farw. Toes yn y nefodd ddim neisiach noson na heno," a mi rbis neid aratl dros ben gwrych drain nes Eon i yn disgyn dros fy mhen i ganol ffos fudur rochor arall oedd yn llawn o ddwr a baw gwartheg. Mi dynodd hyny'r barddoniaeth i gid ohona i miawn winciad, a dyna lie ron i'n rhwFio'r dwr a'r baw gwartheg o fy llygid. Roedd hi'n noson neis, hefyd; yn ole fel dydd, dest iawn. Bob a fina ar ganol caea mawr miawn gwlad fflat; y lleuad yn sgleinio ar y gwelltglas oedd yn wlyb gan wlith y nos nes roedd gleini yn daslio oddarnyn nhw fel oddar filoedd o ddiamonds tipin o darth tena yn ciddio y wlad chydig filkliroedd draw swn ci ne ddau yn tafodi'r lleuad yn ymyl y tai ffermydd agosa; pob man yn ddistaw fel y bedd ond ag eithro y cwn a'r afon Bob a fina yn medru spio i fyny (cldar ganol y cae i entrych y wyhran ole, fawr, ddistaw, nes roedd rhw feddylia bendigedig yn dwad i ni'n dau—meddwl be dasa ni'n dau yn angylion yn medru hedag. Diawst i, mi faswn i beth bynag yn hedag i Lanfarfechan ac yn malu pob ffenast yn ty modryb i gael sport wrth ddychryn rhen grydaras, achos fasa hi ddim yn medru fy ngweld i yn gneyd y job drw mai angal faswn i. Cin pen hir iawn dyma ni at y ty ffarm lie roedd Bob a fina wedi cael bwyd y dwrnod cynt. Wrth gwrs yr oedd pawb yno yn ei gwlau er's meitin, a'r lie yn reit ddistaw, and mi welan oleuni bach yn ffenast llofft y forwyn, a thrw bod ni'n gwbod am arfar y wlad yn y cwr hwnw o'r gredigeth heulog, mi aeth Bob a fina o dan y ffenast hono ae mi daflis i ddyrnad o bridd i fyny yn erbyn y gwydyr. Mi welwn y ganwll yn symud o'r naill gornal o'r rwm i'r Hall, ond toedd neb yn dwad i'r ffenast, a thrw hyny roedd arna i dipin bach o ofn mod i yn llichio baw at ffenast bedrwm gwraig y ty yn lie ffenast y forwyn. Mi fasa hyny yn gebyst o beth, rwan, oni fasa to ? Dyma daflu llond dwrn yn chwanag o faw i'r ffenast, a Bob a fina yn swatio allan o'r golwg reit o dan dalcan y ty. Gida hyny dyma'r ffenast yn agor yn ddistaw ac ara deg. "Dick," ebra, llais rhw ferch o'r ffenast, yn ddistaw bach fel miawn cynhebrwn,- llais y forwyn oedd o, hefyd, achos ron i yn nabod ei llais hi rol iddi ddwad a brech- dan a chaws i ni y dwrnod cynt,—"Dick," ebra hi a'i phen drw'r ffenast, dos at ddrws y cefn a mi agora i fo, a wedyn tyn dy sgidia a thyrd i fiawn yn reit ddistaw yn draed dy sana." "Dyma i ti bedi angylion yn mynd i garu, Bob," ebrwn wrth fy lifftenant, ond cin iddo fo fedru atab dyma ddrws y cefn yn agor, ac er fod Bob a fina YFl cadw o'r golwg mi welan yr hogen forwyn yn ei chrys yn brasgamu i fyny'r grisia yn ei hoi rol agor y drws gan ddisgwl ei Dick ar ei hoi, mae'n debig. Ond rcedd gen i gortyn go hir yn fy llaw, ac ron i wedi gneyd cwlwm rhedag ar ei ben o, a miawn winciad mi daflis ben y cortyn nes roedd o'n bachu'n reit ffast am goes noeth yr hogen ac yn c'lymu fel feis am ei chnawd hi. Wedyn, cin bod Bob na'r hogen na neb yn cael amsar i ddallt be oedd yn cymryd lie ,> ro'n i wedi clymu y pen arall i'r cortyn wrth bost y drws y tu allan, a mi glown yr hogen yn syrthio ar ei hyd ar y grisia ac yn tymblo i lawr gan sgrechian drost yr holl sir, ac ar hyny dyma lais gwr a gwraig y ty yn dwad i ben y grisia ac yn gofyn be oedd y matar. Mwrdrwrs sy'n treio dwad i'r ty, iiioistras bach," ebra'r hogen, "a mae nhw wedi clymu nghoes i wrth bost y drws." Dyma'r gwr, rol taro ei glos am dano, yn dwad i lawr ac yn daffod y cortyn a gollwng coesa yr hogen yn rhydd, ond erbyn hyn rcedd Bob a fina yn ei gleuo hi fel melltan ar draws y caea am yr ego. (I'w barhau.)