Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

UN O'R CWN RHYFEPPAF

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UN O'R CWN RHYFEPPAF Byddai yn dda i ladron, yspeilwyr tai a pherllanau, o Drwyn y Gogarth i Gaer Gai, wybod fod gan William Sholgrop, Yswain, un o'r cwn rhyfeddaf a fu yn y byd yma erioed i amddiffyn ei feddiannau. Y mae William Sholgrop "wedi gwastraffu cymaint o serch ar y ci hynod hwn ag a fuasai yn myn'd i garu dwsin o'r merched glanaf yn Nghymru. Enw y ci ffyddlon hwn ar y cyntaf oedd Rhododendon, wedi hyny newidiwyd yr enw i Montenegro, ond mi fuasai "0 Gaergybi i Gaerdydd" yn llawer gwell enw arno. Tydi Montenegro ddim yn rhyw gi swynol iawn yr olwg arno. Mi fuasai yn ddigon hawdd i chi ddwyn ci harddach na fo oddiar yr heol unrbyw ddiwrnod. Pe cymerech ddau gostowgi coesfachog uniondrwyn, a thori un yn union o'r tu ol i'r ysgwyddau, a'r llall yn union o'r tu blaen i'r morddwydydd, gan droi o'r neilldu ben blaen un o'r ddau, a phen ol y llall, bydiai genych ddigon o ddefnydd i adeiladu ci tebyg i Montenegro. Fuasai raid i chwi ddim ond asio'r darnau wrth eu gilydd, a gwneyd i'r peth hyll fwyta. Pe buasai gan Montenegro gynifer o goesau a'r creadur bychan amldroediog hwnw a elwir yn deiliwr blewog, fuasai dim llawer o wabaniaeth rhyngddo a'r tylwyth hyny. Ond byddai yn syndod i chwi wel'd y fath gyfoeth o gi wedi ei fachu wrth goesau mor dlawd. Mae o mor hir fel y cymerai i ysgolor da dros wythnos o amser i'w drysori yn ei gof a'i adrodd allan ar dafod leferydd. Y mae'n ddifyr edrych ar Montenegro yn myned heibio i gongl mur, ac yn troi ei ben yn ol i edrych sut y bydd y gweddill o'r orymdaeth yn dyfod yn mlaen. Cawsom olwg arno un boreu yn cylchfordwyo caban bychan sydcUo'r tuallan i fur gardd William Sholgrop, Ysw., ac yn ffyrnigo wrth wel'd ei gynffon ei hun yn cilio o'i flaen, a pho gyntaf y rhedai ef, cyntaf yn y byd y rhedai y gynffon, nes o'r diwedd, wrth enill buandra, yr oedd ei centrifugal force ei hun yn peri fod y cylch yn ymledu, ac yntau yn myned bellach, bellach, oddiwrth y canolbwynt, nes iddo golli golwg ar ei gynffon o'r diwedd, ac edrych yn siomedig. Yr oeddwn yn myned am dro un diwrnod gyda chyfaill i mi ar hyd y ffordd fawr, pan yr ehedodd br&n dros ein penau yn yr un cyfeiriad a ninnau, yn gyflym hefyd, fel pe ar ryw neges frysiog. Yn union ar ol ei chysgod, dyna ran fiaenaf, neu y rhifyn cyntaf, o Montenegro yn ymestyn heibio i ni, a.'i safn yn agored i lyncu y fran, ac er ei fod yn myned yn gyflym, cymerodd iddo beth amser i fyned heibio i ni. Safodd ein cyfaill am ychydig amser i edrych; rhwbiodd ei lygaid, ac edrychodd eilwaith, yna troes atom, a dywedodd yn synedig, pan oedd cynffon y ci yn ein gadael ni:— Welsoch chi 'riod bac o fytheid yn rhedeg mor gyson, ac mewn llinell mor unionsyth a hyna, ac mor gyflym hefyd! Onibai fod dyn yn gwybod yn well, gallem dyngu mai un ci oedd yna Mae'D debyg mai'r hynodrwydd yna fu yr achos i Mr Sholgrop hoffi'r ci, oherwydd yn y cyffredin, y mae o yn leicio cael cymaint ag sy' bosibl iddo gael am ei arian ond y mae o'n hoff ohono, ac onibai ei fod yn cael ei flino gan yr awdurdodau eisio iddo gadw'r ci yn nghanol y sir, rhag iddo orfod talu dwy dreth am dano, byddai Mr Sholgrop a'i gi yn ddedwydd iawn.

-VMES"ittm ADDYSQ UWCHRADDOL

HEN ARFERIAD RHYFEDD

DIM aWYDRIAD MWY

CANMOL YN RHY FUAN

Advertising