Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
CYMRU FYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMRU FYDD. Beth yw can y dyner awel Wrth gusanu'r llwyni tawel ? Beth yw'r geiriau melus, melus, Sy'n dyferu dros ei gwefus ? Cydgan- Cymru Fydd, Cymru Fydd, Cymru Fydd, Cymru Fydd; Bloeddiwn ninnau o'n calonau, Cymru Fydd, Cymru Fydd. Beth a dd'wed v tonau hyfion Gurant fyth ar greigiau Arfon ? Beth yw llais y croch acenion Geir ar hyd a lied yr eigion ? Cymru Fydd, &c Beth mae'r aber yn delori Ar i waered o'r Eryri ? Beth mae'r fellten chwim a'r daran Yn ei drafod drwy bedryfas ? Cymru Fydd, &c. Gymry 'n rhengau ymwrolwn, Ac yn erbyn trais vmladdwn Yspryd ein cyndadau dewrion Fyddo'n cynneu drwy'n hamcanion. Cymru Fydd, &c. Taflwn ymaith bob eiddilwch, Ymddiosgwn o'n gwaseiddiwch Caru wnelom wlad ein tadau Tra fo'r Wyddfa ar ei sodlau. Cymru Fydd, &c.
Y BARDD A'I GARIAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BARDD A'I GARIAD. Yn trigo mae fy nghariad Yn nghanol tref Llynlleifiad, I'r lances Ion, un hardd yw hi, 'Rwy'n cynnyg rhoddi caniad. A d'weyd y gwir lieb rodres, 'Rwy'n teimlo yn fy mynwes Rhyw gariad pur yn llosgi'n fflam, Yn ddinam at y ddynes. Erioed ni welodd heulwen Wrth droelli drwy'r ffurfafen, Un lanach, gwn, ar for na thir, Na'm hanwyl feinir fwynwen. Mae ganddi wallt modrwyawg, cl Cudynau heirdd, godidawg, Yn disgyn dros ei grudd, ail yw Ei liw i'r wawr oreurawg. Mae ganddi lygaid lliwgu Yn bywiog, teg serenu, Ohonynt, O mae cariad byw, Diledryw yn pelydru. Ei gruddiau hawddgar, rhuddain, Y'nt fel dau rosyn eurgain, Yn gwrido dain hoff wen yr haul, Drem araul, yn dra mirain, Mae ganddi res anhywerth 0 ddannedd gwynion, prydferth, Myrdd tecach y'nt na gemau cain, Na mirain berlau mawrwerth. Melusach fil na'r diliau Yw profi ei gwefusau, Trydanir fi, pan gaffwyf un O'i swynawl gun gysanau. Mae camrau fy anwylyd Yn fywiog, llawn o fywyd, Mae ganddi'r tlysaf, delaf droed, Erioed a wisgodd esgyd. Ond, Oeh mae un peth atgas Yn gwneyd yr oil yn ddiflas, Mae ganddi dymher gwyllt a blin, Anhydrin fel yr andras. Bu llawer ffrae gyffrowyllt Yn nghylch ei natur nwydwyllt, Ond ofer ceisio'i rwymo i lawr, Haws ffrwynaw'r tonau ffroenwyllt. Mi dyngais lawer dengwaith Nad elwn ati eilwaith, Ond rhywfodd glynu wrthi'r wy', Mewn awydd mwy anhywaeth. Gwell ganwaith fyddai imi, Mae hyn yn ddilys geni, Ymadael byth a'r goegen bach, A chanu'n iach i'w chwmni. Ond 0 ei llygaid gloewon, A'i gruddiau glandeg, cochion, Y rhai'n sy'n fy ngorchfygu'n lan, Enynant dan yn union. Wel! dyna'r gwir, yn gryno, Am bryd a tliymer Gweno, Pa beth a wnaf nis gwn, yn wir, A'r feinir heinif hono. Anfoddlon wyf i'w phriodi, Mor llawn yw hi o gecri, A'i gwel'd yn wraig i arall yr I'r galon gur a gweli. I fardd yn ei drallodion, Pwy ddyrydd gynghor weithion A'i lwyr ryddha, mewn byr o dro, O'i filoedd o ofalon ? Lerpwl. I. G. AP DAFYDD.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-=0 Tra yr oedd blaen-filwyr yn cael eu drilio yn un o drefydd Gogledd Cymru gan ringyll pur ddiamynedd, gwaeddodd y rliingyll ar ol bod "wrthi am awr, Sefwch yn llonydd." Nid cynt nag y gwnaed hyn nag y dechreu- odd y rliingyll gwyno am eu hymddygiad, a diweddodd drwy ddyweyd :—" Yn wir, yr ydych fel lot o dummies. GalJaf gael milwyr a gwell golwg arnynt na chwi am swllt y bocs." Ar ol lllynyd o ystyriaeth, sylwodd un o'r blaenfilwyr, Mi debygaf y bydd yno nagyll yn eu mysg."
CHWECHED RESTR 0 WOBRWYON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CHWECHED RESTR 0 WOBRWYON OYSTADLHUABTH Y POST CARD.Papwr Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am yr englyn (unodl ugjion neu dalcen slip), neu tr iban mwyaf doniol. TAPODIEITHOBDD CYMRU. — Papur Pawb am chwe' mis, am stori, un golofn o hyd, yn un o dafodieithoedd Cymru. Gorphenaf 14.-Chwedl yn Nhafod- iaith Mon. Y BECHGYN A'R GENETHOD.- Gan fod cymaint o fusnes carwriaethol yn myned yn mlaen yn yr haf, oedir y cystadleuon ar gyfer y rhai hyn hyd y gauaf.
—————M GWOBRAU MISOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
————— M GWOBRAU MISOL. Cynnygir gwobrau o 10s, ac ail wobr (os bydd teilyngdod arbenig) o 2s 6e, fel y canlyn :— Gorphenaf 14.—Rhestr o ddeuddeg gair Cymraeg gydag eglurhad manwl o'u hystyron. Awst 1.—Casgliad o ysgrifau am y rhai y Mae son am danynt." Medi l.-Casgliad o bosau eywrain a dyrus i'w defnyddio mewn eys- tadleuon dyfodol.
.TELERAU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eidde Papur Pawb. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd. ugol; a bydd hawl gan Papur Pawb i'w cyhoeddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y eyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr. haedd ar y dydd a grybwyllir uchod gyferbyn a phob testyn 4. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5- Dyfarniad Golygydd Papur Paiob i fod yn derfynol. Gwneir dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnosar olderbyn y cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd i ddatgan ei fod yn cydsynio a'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu yn efelychiad o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostyngedig i 1)Jt4ir,vn IT,t vvl ysgi;if,