Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
CELL Y GOLYGYDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CELL Y GOLYGYDD NOFELAU, CHWEDLAU BYRION, »fec.—Mae'r Golygydd yn barod i dderbyn cynnygion am yr uchod ar delerau rhesymol. GWOBRWYON .-Gweler rhestr mewn colofn arall. AWGRYMIADAU.—Teimlir yn wir ddiolchgar am bob awgrym at wneyd PAPUR PAWB yn fwy defnyddiol a dyddorol. DARLUNIAU DIFYR.—Am ddarluniau difyr gwreiddiol, o waith arlunwyr Cymreig, tebyg i'r rhai ar tudalen 1, telir yn ol teilyngdod y rhai fyddont yn gymeradwy. DALIER SYLW. Nid yw'r Golygydd yn addaw dychwelyd ysgrifau na darluniau neb pwy bynag ar unrhyw delerau. Cyfeirier pob gohebion llenyddol ac rrlun. aethol at Y Golygydd, PApuR PAWB," Caer- narfon.
TRAWSFUDIAD SYDYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRAWSFUDIAD SYDYN Yr oedd Sion Ifan Bach a Robin Bondi. digrybwyll wedi cael gwaith i lanhau ffenes- tri uchel; a chan eu bod yn methu cael ys- golion i gyrhaedd mor uchel yr oeddynt yn methu yn lan a gwybod beth i'w wneyd. Robin," medai Sion Ifan Bach, I. yr ylw i yn ei gwel'd hi, fachgen. Mi awn ni i chwilio am fenthyg plane, i'w roi drwy'r ffen. estr. Mi eisteddaf fi ar y plane o'r tuallan, ac mi gei dithau eistedd ar y pen arall iddo o'r tu mewn." Cynllun rhagorol," meddai Bondigry- bwyll. Yr oedd pob peth yn myn'd yn mlaen yn rhagorol nes i Sion Ifan waeddi o'r tuallan Mae'r cadach wedi syrthio o fy llaw i; dos i lawr i nol o Bondi." "All right," meddai Robin, "aros di lle'r wyt ti, mi redaf fi i lawr i nol o. Ymaith a Bondigrybwyll i lawr, i lawr o lofft i risiau, nes cyrhaedd yr heol. Myn cebyst i Sion," meddai, 'rwyt ti yma o mlaen i. Pa ffordd y doist ti dwad ?"
EFE A GYSURWYD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EFE A GYSURWYD Adroddir lianes dyddorol am weinidog enwog yn dyfod adref o'r America, yn ddi. weddar, yma. Y "Berlin oedd enw'r llong, a,c yr oedd y tywydd yn dymhestlog iawn. Yr oedd y corwynt yn chwibanu, a'r llong yn ymsiglo ac yn ymrolio, &'r gweinidog yn ofnus iawn. Aeth allan o'i ystafell ei hun i chwilio am Kavana, y trysorydd, yr hwn sydd yn dipyn o wag, ac a ddywedodd Yr ydw i'n siwr, Mr Kavana, y gwnewch chi f'esgusodi fi, ond yr ydw i'n teimlo'n ofmus. Fyddwch chi gystal a dyweyd wrthyf a ydych chwi'n meddwl ein bod ni mewn perygl ?" Atebodd Kavana, "Dewch gyda mi am fynyd," ac arweiniodd ef draw at gaban blaen y llong. "Yn awr," meddai ef, gostyitg- wch eich clust a gwrandewch beth a glyweh i lawr yna." Yr oedd y morwyr yn tyngu a rhegi yn eu dull anymwybodol eu hunain. 0 mor ofnadwy mor arswydus Y fath iaith meddai'r gweinidog druan, dan grynu o'i ben i'w draed. H Yrwan, ydach chi'n meddwl am fynyd y gadewsid i'r dynion yna fyn'd yn mlaen yn eu hafiaeth fel yna, i dyngu ac i regi, pe bu- asai berygl gwirioneddol ?" meddai Kavana. "Gwir, gwir," meddai'r gweinidog dy. chrynedig, wedi ei gysuro i ryw fesur, "gellir tynu rhyw gysur, bid siwr, o lygredigaeth isfelwael fel yna. Y mae ffyrdd Rhaglun- iaeth yn hynod iawn i ni." Ac yn ol ag ef i'w ystafell ei hun wedi ci gysuro i ryw fesur. YM mhen tua dwy\wr wedi hyny, yr oedd y storom wedi cyfodi yn uwch yn ei ffyrnig- rwydd, a'r mor a'r gwynt yn rhuo ac yn dy- gyfor, ac ambell i don yn golchi dros y bwrdd. Daeth y gweinidog allan o'i ystafell dra- cliefn yn fwy ofnus nag o'r blaen, a gwelid ef yn araf gerdded yn grynedig, ac yn ymbab falu yn ddistaw a phryderus dros y bwrdd gwlyb tua'r caban blaen. Yr oedd golwg welw a chyffrous arno. Gwrandawodd. Yr oedd y morwyr yn chwerthin ac yn bloeddio, yn tyngu, ac yn rhegi yn waeth nag o'r blaen, nes oedd y gweinidog yn ysgwyd ei ben mewn gresyndod. Diolch i'r Nefoedd meddai, gan oil- wng ochenaid ddofn; y mae nhw'n dal ati hi i regi. Does dim perygl eto. I'r Ar- glwydd mawr bo'r moliant."
,¿"",. GWYDDONIAETH CRUCYBABELL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
,¿" GWYDDONIAETH CRUCYBABELL Y mae dyn yn Nghrugybabell, a'i fenydd ar ymddyrysu wrth chwilio allan bob math o ffeithiau hynod mewn hanesyddiaeth, gwydd- oniaeth, seryddiaeth, uchanianaeth, ac felly yn y blaen, ac y mae ei wraig yn methu yn lan a gwerthfawrogi ei dalent. Y noson o'r blaen dododd ei bapur ar y bwrdd. Wel, dyma beth rhyfedd meddai wrth ei wraig. Beth ydi hwnw ? meddai hithau. Y ffaith aruthrol y cymerai ddeuddeng miliwn o flynyddoedd o amser i bympio'r mor nes y bydda fo'n sych yn ol mil o alwyni bob eiliad." Synfyfyriodd hithau uwchben yr adroddiad pwysig am fynyd gyfan. "Pie basa nhw'n cael lie i roid yr holl ddwr ?' meddai hithau.
RHAGFLAENYDD PELL YN OL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHAGFLAENYDD PELL YN OL Y mae tua phymtheng mlynedd er pan y mae llysoedd ardaloedd Oolumbia wedi rhoddi i fyny y syniad o ystyried Dydd Gwener y Groglith yn ddydd rhy gysegredig i gynnal llysoedd barn. Yn llys y Prif Ynad Carter yn y dyddiau hyny y newidiwyd yr hen arferiad. Ac, meddai yr Anrhydeddus Richard T. Merrick wrth y diweddar Brif Ynad Carter — "Dydach chi ddim am gynnal llys, yfory?" Paham hyny ?" meddai'r Prif Ynad. Mi fydd yn Ddydd Gwener y Groglith," meddai Mr Merrick, "ac ni chynnaliwyd brawdlys erioed yn y wlad ym& ar y dydd hwnw." "Ond fe gynnelir y brawdlys yma," meddai y Prif Ynad. "Yna," meddai Mr Merrick, "eich an- rhydedd fydd y barnwr cyntaf oil i gynnal brawdlys ar Ddydd Gwener y Groglith er dyddiau Poritius Pilate,"
PUBLISHER'S NOTICE
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PUBLISHER'S NOTICE "PAPUR PAWB "-an Illustrated Welsh Weekly Paper, devoted to Novels, Short Stories, Brief Biographies of the Celebrities of th9 Day, Wit and Humour, Puzzles, Poetry, and Light Literature for Family Reading-is published at the Herald Office Carnarvon. PAPUR PAWB" is an excellent medium for advertisements, there being no other paper of the same kind published in the Principality. Single copies per post for one quarter Is. 8d. (prepaid). P.O.O's and Cheques should be made payable to the Publisher, DANIEL REES, at Carnarvon.
CONGLY CYHOEDDWR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CONGLY CYHOEDDWR Cyhoeddir "PAPUR PAWB" yn swyddfa'r Herald, Caernarfon, yn gynnar bob wythnos ar gyfer dydd Sadwrn. Pob wythnos, ceir Arlwy o Arabedd, Blodau Barddas, Cystadleuon i'r Cywrain, Darluniau Difyr, Nofel Nodadwy. Mewn gair, bydd "PAPUR PAWB yn Llawn Lien a Lluniau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Yn Eisieu, Dosparthwyr egniol yn mhob ardal lie nad oes dosparthwyr wedi eu penodi eisoes.—Ymofyner am y telerau a'r Cy- hoeddwr, PAPUR PAWB," Caernarfon. Anfonir "PAPUR PAWB" yn rhad drwy r post am chwarter am Is. 8c. (blaendal). Nid oes yn Nghymru well cyfrwng i Hysbysebu ynddo na PAPUR PAWB." Pob P. O. Order, Cheque, &c., i'w gwneyd yn daladwy i DANIEL REES, yn Nghaer- narfon.