Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
HipWYDDIAD FFORTUNUS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HipWYDDIAD FFORTUNUS Byddai Tom Moore, y bardd Gwyddelig, arfer a dyweyd hanes am dano ei hun Pan yn fachgen, ao yn aros yn Sandymount, ger Dublin, iddo un boreu ganfod lleidr pen ffordd yn farw ar ochr y ffordd, Yr oedd i archoll pelen blwm yn ei arlais ddeheu yn lIed agos i'w lygad. Daeth hen wraig heibio i gael golwg arno. 0 bobol," meddai hi, "ffasiwn fendith yr ■^glwydd oedd hi nad aeth y fwled i'w lygad o."
.""", go GAS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
go GAS Yr oedd y gweinidog wedi myned yn hen, a l'haid oedd ceisio cynnorthwywr iddo. Cafwyd pregethwr ieuanc, hyawdl, ond Unan-foddhaol iawn. Cymerai arno gashau caomoliaeth, er y carai glywed pawb yn ei ganmol. Daeth yr hen bregethwr ato un diWrnod i ymddyddan, a chredodd y pre- gethwr ieuanc mai dyfod ato i'w ganmol yr oedd. "0, nage," ebai yr hen wr, "nid dyfod YIrla i'ch canmol yr ydwyf-nage, nage, fy fachgen i. Y mae yn dda i mi yr amser bWn ar fy mywyd gael rhywun i fy helpu- dim ods pwy."
QWYLIWCH Y Ol-A'R DRETH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
QWYLIWCH Y Ol-A'R DRETH Er gwaethaf holl ymdrechion ac ystrywiau ^•rs Jones, tori i'r ardd yn barhaus yr oedd eehgyn drwg y pentref. Gwyddai fod arnynt ofn cwn, ond nid oedd ganddi hi gi, ac nid oedd am geisio un ychwaith, oherwydd y costau. Yn nghanol y nos rhedodd drych- feddwl i'w meddwl, a bu agos iddi a chodi y fOIrlent hono i'w gario allan, onibai am y cockroaches oeddynt yn ymlusgo wrth yr ^geiniau hyd y lloriau. Arosodd tan y °reu. Ceisiodd blanciau, a rhoddodd flWynt wrth eu gilydd, ochr wrth ochr, ac yna gosododd y cyfryw yn yr ardd, mewn lie &ttilwg, ac ar y board y geiriau hyn: Gwyliwch y Ci 1" Bu hyn yn foddion i dYnu sylw y bechgyn, pa rai a gadwasant YIrlaith am ychydig o ddyddiau. Yn an- ortunus gwelodd swyddog yr Inland Itevenue y board, a gofynodd i Mrs Jones lie yr oedd ei thrwydded hi ? Daeth hyn a hi 1 ganol pid Os dywedai nad oedd ganddi gI, ac mai peth i ddychryn y plant oedd y oard yn yr ardd, yna ffarwel am ddaioni y ddyfais. Ac ar y llaw arall, os y dywedai 0cl ganddi gi yn rhywle, rhedai i'r perygl o gael ei dirwyo am gadw ci heb drwydded. Beth oedd i wneyd ? Rhaid oedd iddi dynu y board ymaith, neu dalu am gi. Gwnaeth y blaenaf. Cyn pen ychydig o ddyddiau yr Oedd y bechgyn wrth y gwaith o ddwyn l)ethau o'r ardd
MARW YN Y WORKHOUSE
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARW YN Y WORKHOUSE Arferiad blynyddol Byrddau y Gwarcheid- waid ydyw talu diolch i'r swyddogion. Wrth gydnabod y diolch un tro dywedodd un gwarcheidwad ei fod ef yno er's llawer o flynyddoedd, ac addawodd barhau i fod mor weithgar ag erioed. Cyfaill o warcheidwad, nodedig am anghywirdeb ei ddull o siarad, a ddywedodd, Gobeithio y caiff Mr —— hir oes i'n gwasanaethu eto, ac y bydd efe yn warcheidwad am lawer o flynyddoedd, ac y bydd efe farw yn y workhouse
DWFR POETH I WARTHEO
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DWFR POETH I WARTHEO Y mae yn arferiad gan ffermwyr Ffranc- aidd i roddi dwfr poeth i'w gwartheg, a dysgir hyny yn eu hysgolion llaeth. Hawl- iant eu bod wedi darganfod drwy arbrawfion pan fo gwartheg yn yfed dwfr poeth eu bod yn rhoddi mwy o un ran o dair o laeth na phan yn yfed dwfr oer. Rhaid bod yn ofalus, wrth gwrs, wrth fabwysiadu y cyn- llun newydd. Rhaid i laethwyr ofalu na ysgaldient yddfau eu gwartheg yn euprysur- deb i wneyd defnydd o'r darganfyddiad. Y cyfartaledd i'w roddi yw, fel y dywedir, hanner piseraid o ddwfr yn berwi a hanner piseraid o ddwfr oer.
0 B'LE MAE Y OWLAW YN POD?
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 B'LE MAE Y OWLAW YN POD? Dynion anllythyrenog ac anwybodus oedd Nathan Meurig, y ffermwr, a Twm ei was. Wrth gydweithio yn y maes un boreu, trodd y sgwrs yn nghylch y gwlaw. Y Meistr: "O'r mor y mae y gwlaw yn dwad. Da fod digon o foroedd." Y Gwas: Peidiwch deud hyna, meistr bach. Cofiwch fod y mor yn hallt a'r gwlaw yn groew." Y Meistr: "W el ie, ynte fachgen. Hallt ydi dwfr y m6r hefyd. Ond oddiyno yr oeddwn i yn meddwl y deuai y gwlaw bob amser." Y Gwas Nage, nage. Ond o'r ddaear y mae yn dwad." Y Meistr Sut hyny ? Y Gwas: Y mae'r ddaear yn troi ar ei hwyneb yn isaf bob nos, a chan mai ynddi hi y mae y dwr, y mae o yn syrthio yn y nos i'r awyr, a phan ddaw yn ddydd, y mae o'n disgyn yn wlaw ar y ddaear a'r mor." Y Meistr: "Taw, Twm, taw. Os ydi'r dwr yn syrthio i'r awyr yn y nos, sut na fasa ti a minna, a phawb, y gwartheg, y moch, a'r defaid, yn syrthio hefyd ? Y Gwas: "Ie 'n te. Ddarfum i ddim meddwl hyna." Y Meistr Ma' 'na ysgol nos yn deohre yn y pentref, Twm; mi awn ni yno am dymhoc."
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAE& (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 18a9, 1865 1878, 1887, 1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GORElIT o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF EI GYLCHREDIAD. 64 o GOLOFNAX; HIRION. BOB DYDD MAWRIH CEINIOG. Yn Eisiau: Dosparthwyr a Guhabwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyhoeddwr-DANIEL REES, Carnarvon. CARNARVON AND DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Friday, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ing paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales." "The leading Liberal paper in North Wales.Liverpool Evening Express, Publisher—DANIEL REBS, Carnarvon. The 'Herald' Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes Tickets, Dance Cards. Legal Forms, Memorandums, Note Paper. Club Cards, Club Rules,] Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Cata ogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Accuracy, Neatness, Despatch Note the Address:— HERALD STEAM PRINTING WORKS HIGH STREBTR, CARNARVON.