Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ECLWYS LLANDDWYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ECLWYS LLANDDWYN Nid yn ami y ceir hanesion mwy dyddorol am yr hyn sydd bron wedi Ilwyr (Idi- flanu nag eglwys, monachlog, a, phlwyf Llanddwyn, neu a elwir yn briodol, Llanddwynwen. Gorynys ydyw, yn gor- wedd ar dde-orllewin Niwbwrcli, Mon, ac yn wynebu bau a thraetheil enbyd Caernarfon, heb fod nebpell o Abermenai a Belan, manau a warchodant enau Afon Menai yn ei chyfeiriad am dref Caernarfon. Dy- wedir fod hen Eglwys Llanddwyn, o'r hon nid oes ond y murcidynod uchod yn sefyll, un- waith yn adeilad hardd iawn, ac wedi ei chy- segru i Dwynwen, nawddsantes cariadon, tua'r flwyddyn 465, ac yr oedd y drysorfa. a gynnyrchid tirwy offrymau y lluaws cariadon a gyrfchent yno am nawdd y santes yn fawr iajvn ac, o'r diwedd, daetli yr eglwys yn fon- afehlog i frodyr o'r Urdd Benediciaidd, y rhai a fynegent i bersonau eu kinged, dyfodol trwy grychnaid pysgodyn ac ymddangosud dwfr rt'yimon, yr hon a elwir Ffvnnon Fair hyd heddyw. Yn amser Harri y Pedwerydd, yr oedd cyllid y crefydd-dy hwn yn fwy nag eiddo un arall yn Xgogledd Cymru, ac yn y cyfarchwyliadl a wnaed trwy orchymyn Harri yr Wythfed, yr ydoedd y brebenduriaeth gyf- oethocaf yn y Dywysogaeth, ond erbyn hyn., nid oes brin ddim o olion y fonachlog ardder- ehog hon ar gael, ac nis gwyddis i sicrwydd He y gorweddai. Priglor diweddaf plwyf Llanddwyn oedd Richard Kyffin, yr hwp. a fu wedi hyny yn Ddeon Bangor, ac a. adwaeind dan yr enw, "Y Deon Du." Dywed tra- ctdodiad y gellid ar un adeg deithio o Llan- faglan, sir Gaernarfon, ar draws lie y rhedi yn awr y Fenai d'rosodd i Landdwyn, ac fod tir- iogaeth eang a ordoir yn awr an y mur yn perthynu i blwyf Llanddwyn. Trigir y lie ar hyn o bryd gan nifer o pilots, v rhai, hefyd, syddl yn gofalu am oleudy gwerthfawr a. saif yn y fangre. Y mae dan ofal y bobl hyn warchodaeth bywydfad, yr hwn, trwy gynnorthwy pobl Niwhwrch, a achubodd lu- aws o forwyr mewn ystormydd ar far enbyd- us Caernarfon. Y mae i'r fangre lu o hanes- ion dyddorol, megis gwaith un o ferched Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, yn dianc o frenhindy ei thad yn Aberffraw i borthladd Llanddwyn er myned ymsith mewn Hong i briodi Gruffydd ab Rhys ab Tewder, Tywysog y Deheubarth, yn nechrtu y 12fed ganrif. Erbyn hyn, nid anmhriodol llefain uwchben Llanddwyn, "Ichabod, ei gogoniant a ymadawodd."

DYFYNIADAU 0 DDYDDLYFR aWRAIG…

. EISIEU EOLURHAD _.r

[No title]