Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
■1 Yn nghyfeillach ymwelwr, 11a fydd ddar- llenwr mewn cyfeillachu, gwylia lefaru. Gwaith ofer ydyw rhoddi ein bys yn y dwfr, ac yna ei dynu allan, gan feddwl dyfod o hyd! i'r twll.
DANNEDDGOSOD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DANNEDDGOSOD Yr oedd Person Llandregaerog wedi addaw cymeryd gofal eglwys cyfaill iddo dros: y Sul, ond yn ystod yr wytlmos flaenorol i'r Sul, hwnw, digwyddodd iddo yn anffortunus niweidio y dannedd gosod oedd arferol o wisgo. Anfonwyd y plate ax unwaith i'r dref i'w adgyweirio, a sicrhawyd y gwr parchedig y dychwelid y dannedd yn brydlon erbyn boreu dydd Sul gyela:r post, ond yr oedd y post wedi myned heibio heb yr un neges i'r clerigwr. Gyda, chynnorthwy John Jones, y clochydd, llwyddodd y person i fyned drwy y gwasan- aeth rywfodd, ond teimlai y byddai yn ffol- ineb iddo wneyd cynnyg ar bregethu. Gan hyny, cyfarwyddodd y clochydd i wneyd ryw esgusawd cymhwys drosto, a gollwng ymaith y gynnulleidfa. Ond y mae yn anhawdd dychymygu ei deimlad, heb son am eu desgrifio, pan oedd wedi ymneillduo i'r festri, y clywai v clochydd yn cyhoeddi, gyda pharabl eglur, a llais uchel soniarus, yr esgusawd canlynol: — "Mae'n bur ddrwg gan y person, ond ei anffawd ef ei hun ydyw fod yn rhaid iddo wrth cldwy res o ddannedd gosod. Mae nhw wedi byrstio er dydd Mercher diweddaf, a dydi o ddim wedi eu cael nhw'n ol erbyn heddy-v fel yr oedd y deintydd yn addaw. Rydw i fy hun wedi ei helpio fo, fel yr ydach ehi'n gveld, gystal byth ag y gallwn i, i fynrl: drwv'r gweddiau, ond alla i ddim gwneyd dim yn yehwaneg drosto fo. Dydi o'n ddim iws yn ybyd iddo fo fynd i fyny i'r pwlpud, oherwvdd fasech chi ddim yn deall yr un gair fasa fcii ddeyd felly mae o'n meddwl v byddai yn llawn cystal i bob un ohonoch chi fynd adref."
HOFF 0 GRANCOD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HOFF 0 GRANCOD Yr oedd hen ffermwr, oPr enw Daniei Hughes, o Abercwmcleidir, yn dyfod i lawr i'r dref i ffair Galangauaf, ac wedi masnachu wrth ei fodd, a dechreu teimlo yn llawen a chalonog, aeth i mewn i an o'r gwestai ger glan y mor, gyda golwg am rywbeth i'w fwyta a gwelai ar y slab ar y chwith iddo granc wedi ei goginio, yn y dull arferol, gyda'r ewinedd a'r coesau a'r cwbl, ac ychydig paisley fel coronbleth o'i gwmpas. Gofynodd i'r landlord "Beth ydach chi'n galw hwna ?" "Crane," oedd yr atebiad. "Mae o'n edrych yn dda; dwi'n meddwl y cymeraf fi un, a dowch a pheint o gwrw." Estynwyd bara ac ymenyn, a gadawyd y ffermwr gyda'i giniaw. Yn mhen tuag awr, galwodd y tafarnwr yn yr ystafell giniaw, i weled pa fodd yr oedd pethau yn myn'd yn mlaen yno. Cafodd yr hen frawd yno yn cnoi y crafanc diweddaf. yr oedd ei wyneb yn goch yn y frwydr, ond edrycliai yn llawen. "Ydach chi'n leicio'r cranc, syr?" "0, ydw, yn iawn, roedd o'n ardderchog. Fu'm i rioed yn profi'r in ohonyn nhw o'r blaen; ond rydw i'n meddwl eich bod wedi gadael i hwn ferwi'n rhy hir braidd; yr oedd y crystyn wedi mynd yn o galed. Dowch a pheint arall o gwrw yma, sgwelwch chi'n dda." Roedd o wedi bwyta'r cwbl—yn gragen, cymalau, a chtafangau, a'r cyfan yn llwyr.
Gormes (rwareiddiad: I neu…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"Arian am weithio yn y transport, mae'n debyg?" "Ie, bum' am bedair blynedd ar bymtheg yn enill y swm yna, a buasai genyf fwv oni- bai i'r Llywodraeth fy robio. Mae pawl) a'u troed aniaf, o'r ucliaf hyd yr isaf." "Wel, dewch at y swper, a bwytewch eich gwala. Mae yma groeso i chwi." Ychydig iawn o lestri arian oedd yn medd- iant yr esgob. Yr oedd yn arfer amddifadu ei hun o bobpetli a ystyriai yn ddiangeiirhaid er mwyn cynnorthwyo ereill. Ond y noson hon gorchymynodd roddi ar fwrdd y swper yr oil o'r llestri arian a feddai—dyna un o'i arferion rhyfedd ac aiiesboniadwv. Hwyiach wrth hyny y gobeithiai wneyd argraph ar feddwl y teitliiwr fod ganddb bob ymddiried ynddb. Y foment y gwelodd y dyeithryn y llestri hyn daeth rhyw edrycliiad rhyfedd arno, pelydrai ffii olygon ar y llestri ac yr oedd fel pe yn cyfrif eu gwerth, a phan orphenwyd swper sylwodd yn fanwl yn mha Ie y cedwid hwy, sef mewn cwpbwrdd yn yr ystafell ar yr hwn nid oedd yr un clo. Yno y oadwyd yr holl lestri gwerthfawr ag eithro dau gan- wyllbren arian y rhai a ddodid ar silff uchel gyferbyn a'r cwpbwrdd. Sylwodd y tramp yn fanwl ar hyn oil, ac yr oedd yn ymddangos yn bur anesmwyth, ac wrth fyn'd i ystafell welv ddangoswyd iddo gan yr esgob mwmiai wrtho ei hun, "dyma demtasiwn arall yn cael ei thaflu o'm blaen. Mae'n edifa-r gellyf na fuaswn yn myn'd o'r ty i rywle arall i gysgu ar ol cael v swper yna." Cysgodd yn drwm am oriau, fel dyn wedi llwyr luddedu, ond rywbryd yn y plygain deffrodd, a hi eto yn bur dywyll. Cofiodd mai dyma'r tro cyntaf iddo fod mewn, gwely priodol er's pedair blvnedd ar bymtheg; credai ei fod yn cael cam oddiar law ei gyd- ddynion yr oeddynt wedi ei robio ef o bewiau llawer mwy gwerthfawr na meddiannau tym- horol, ac wedi ei ddarost-wng yn is na r anifail direswm. Yr oedd. ll'aw pawb yn ei erbyn ef-paham na ddylai yntau fod a'i law yn eu herbyn hwythau ? Ac am r hen wr yma, ymresymai ynddo ei hun, nid oes arno ef angen y llestri arian yna, mae mwy o'u hangen arnaf fi, ac ni ddylasai fy nhemtio neithiwr drwy eu dodi ar ei fwrdd. Buasai yn dda genyf, rywsut, pe na, ddaethwn i'r ty yma o gwbl. Yr oedd brwydr fawr yn cael ei hymladd rhwng y da a'r drwg yn mvnwes y dyn, ond pan gofier beth oedd efe, ac yn mhlith pa fath gymdeithas y bu efe am y pedair blyn- edd ar bymtheg cyn liyny a raid i rywun synu pan ddeallant i'r drwg gael goruchafiaeth ? 9 11 C'ododd, ymwisgodd, aeth i lawr y grisiau nior ddistaw a chatli. Ni fu ond ychydig cyn dod o hyd i'r cwpbwfdd yn mha un y cedwid y llestri. CynWodd hwy allan gan eu -tcio yn ofalus yn ei fag ac yna ymaith ag ef allan o'r ty a thros ben mur yr ard,d gan gyfeirio tua'r pentref. Yn lied fuaii wed'yn yr oedd yr holl1 deulu wedi codi, ac wrth weled drws y cwpbwrdd vn agored! aeth y foneddiges y cyfeiriwyd ati eisoes i'w gau, ond er ei dirfawr syndod a'i dvchryn canfu fod yr oil o'r llestri arian wedi diflaiiu. Rhedodd i liysbysu yr esgob, yr hwn a dderbyniodd y newydd mewn dull pur dclifater, a chaii edrych yn ngwyneb y foneddiges gofynodd yn hamddenol. "Yn gyntaf oil, ai ein heidda ni oedd y llestri arian vna?" "Eich eiddo chwi Ie, wrth gwrs." "Na, 11a. Yr wyf wedi glynu wrthynt yn rhy hir. Eiddo'r tlodion oeddynt. Pwy oedd y dyn hwn 1 Dyn tlawd, mae'n amlwg." 'Does byth ddim rheswm i'w gael genych chwi mewn pethau fel hyn. Mae'r lleidr drwg wedi cymeryd yr holl lestri arian i ffwrddi ond y canwyllbreni arian." "Wei, gan eich bod mor hoff o'r arian, diolchwch fod y ddwy ganwyllbren wedi eu gadael." Tra wrth eu boreufwyd clywodd yr esgob a'i deulu swn amryw ddynion yn dod at y drws, a gwe,lid yn pasio'r ffenestr ddau hedd- geidwad yn arwain cydrhyngddynt y tramp, ac un • o'r swyddogion yn cario ei fag yn yr hwn yr oedd y llestri arian. Cyfododd yr esgob ac aeth f r drws yn ddi- oed. "Fy arglwydd esgob," ebai un or swydd- ogion—— Ar y gair cododd y tramp ei olygon mewn penbleth a syndod. "Esgob meddai, "felly nid offeiriad y plwyf yma ydych ?" "Bydld ddistaw," ebai un o'r swyddogion, "paid siarad fel viia gyda'r esgob." Erbyn hyn yr oedd yr esgob wedi gwneyd ei feddwl i fyny pa fodd i weithredu, ac meddai, gan gyfarch y tramp, "Oni roddais y ddwy ganwyllbren arian i chwi hefyd: 1 Pa'm na buasech yn eu cymeryd gyda'r llestri ereill!" Agorodd y tramp ei lygaid gan dailu'r fath edrychiadat yr esgob nas gall neb ei ddes- grifio. "Felly," ebai un o'r keddgeidwaid, "gwir vw'r stori ddywedodd y dyn yma wrthym. Ni gwrdd'soii ef tra yr oedd yn rhedeg ei oreu ymaith o'r pentref, a chymerason^ ef i'r ddalfa rhag ofn ei fod wedi bod yn cyflawni rhyw ddrygioni. Ac yr oedd y lilestri arian yn ei feddiant, a'ch enw chwi arnynt." "Ac fe ddywedodd wrthych, ai do?" ebai'r esgob gyda gwen, "fod y llestri wedi cael eu rhoddi iddo genyf fi? O'r goreu. Cam- gymeriad vw'r cwbl. Gellwcji adae] iddo fyn'd," a chyn i'r dyn 'gychwyn ymaith, "hwdiwch," meddai'r esgob wrtho, "dyma eich dwy ganwyllbren. Cymerwch hwy." Aeth y swyddogion ymaith, a chyn i'r tramp fyn'd o'r drws anerchodd yr esgob ef, "Cofiwch, fy ffrind," meddai, "eich bod wedi addaw defnyddio y llestri arian yma i'ch cynnorthwyo i dldod yn ddyn gonest. Fy nirawd," ychwanegai, "ni pherthynwch nnvyach i'r drwg ond i'r da. Yr wyf yn pwr- casu eich enaid, ac yr wyf yn ei roddi i Dduw." Yr oedd y tramp wedi ei synu ormod i allu dyweyd dim. Nid oedd yn cofio addaw i'r esgob ddefnyddio yr arian er ceisio byw yn onest; ac nis gallai ddeall beth olygai yr hen wr wrth son am bwrcasu ei enaid a'i roddi i Dduw. (I'w barhau.) Ji'.