Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
BLODAU BARDDAS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLODAU BARDDAS GOFIDIAU AMDDIFAD. Mae gwyrdd egin gan y gwanwyn, Llwyni gan yr adar sydd, Hwvthau'r byohain diwyd wenyn Eu mel-borthiant gant Dob dydd Wedi'u gwisgo mae'r dy fhy noedd Gan heirdd fiodau man diri', Er eu bod yn rhifo'u miloedd, Nid oes gwen ar un i mi. Ni rydd hwyrnos i mi gysur, Rhyw freuddwydion gwag y sy', Chwyddo'm hamgylch mae anghysur— Tlawd amddifad ydwyf fi; Yn fy aros roedd gofidiau Pan yn gyntaf des i'r byd Ac fe'm magwyd i mewn dagrau, Ond caru mam yr wyf o hyd. Trwm yw'm llygaid gan wylofain, Gruddiau '1;edi rliyehio sydd Carwn farw—'nvy'n dolefain Am fy rhoi o'm corpli yn rhydd Disgwyl wyf am alwad Iesu, Gal wad i'r gogoniant mawr, Lie mae 'i berson hardd yn gwynu 'R nef ei liun a- nefol '.vawr. Braidd na welwn mam yn dyfod I'm cyfarfod i'r lan draw, Drwv y niwl sydd megis cysgod, Uweh cvffiniau brenhin braw, Gyda myrddiwn o angylion, Gwfeision parod ydynt hwy, I fy nghludo dros yr afon At fy Mhrynwr am byth mwy. Mae gwvrdd egin gan y gwanwyn, Llwyni gan yr adar sydd Hwythau 'r bychain diwyd wenyn Eu mel-borthiant gant bob dydd Wedi'u gwisgo mae'r dvffrynoedd Gan heirdd ttodau man diri', Ond er hardded ydyw'r miloedd, Harddach filwaith nef i mi. HLIZA.
OLWEN LON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OLWEN LON. Wyt eneth bert odidog, Olwen Ion, &c., Ag euraidd wallt modnvyog, Olwen Ion, Mae'th wen fel gwawr v borau, Prydfertliach vw dv ruddiau Na gardd o nef rosynau, Olwen ion, &c. Siriolach wyt na'r blodyn, Olwen Ion, &c., Sy'n harddu bron y dyffryn, Olwen Ion, A'th gerdd sydd fyrdd fwy swyiiol Ifa chan yr eos hwyrol, Yn llawn o fiwsig nefol, Olwen Ion, Ac. Nid yw y ser yn codi, Olwen Ion, &c., Na'r lleuad byth yn gwenu, Olwen lon, Heb imi wel'd dy lygaid Yn syllu araai'n danbaid, Nes llwyr hudoli'm henaid, Olwen Ion, &c. Fy meddwl fyn ehedeg, Olwen Ion, &c., Draw &tat ti bob adeg, Olwen Ion, Fel delw'r huan tirion, Yn nyfroedd clir yr afon, Dy ddelw sy'n fy nghalon, Olwen ton, &c. Ni byngcia'r un ehedydd, Olwen Ion, &c., Ei ganiad i'r boreuddydd, Olwen lon, Na fydd dy eiriau swynion Fel seiniau per angylion, Yn disgyn o fy nghalon, Olwen Ion, &c. Pan fyddo'r haul yn suddo, Olwen Ion, &c., I'w wely aur i huno, Olwen Ion, I'r geunant garaf gilio, Ac mewn unigrwydd yno 'Rwyf arnat yn myfyrio, Olwen Ion, &c. Mae'r rhosyn bach a'r lili, Olwen Ion, &c., 0 fewn yr ardd yn caru, Olwen lon, A pha'm nad al'lwn ninnau, Dan goron o serchiadau, Gyd-dyfu fel cariadau, Olwen Ion, &c. Yr eiddow bythwyrdd addien, Olwen Ion, &c., Sydd yn cofleidio'r goeden, Olwen Ion, 'Rwyf finnan yn d'anwylo, Ac arnat 'rwyf yn dotio: O gad i mi'th gofleidio, Olwen Ion, &c. Mae mwy o swyn tlysineb, Olwen Ion, &c., Yn "ngwg" dy loyw wyneb, Olwen lon, Na geir yn t'wynu allan 0 hawddgar wenau eirian Genethod byd yn gyfan, Olwen Ion, &c. Dy olwg sy'n fy nenu, Olwen Ion, &c., 0 wirfodd i dy garu, Olwen lon, Pan arnat 'rwyf yn syllu, Fy serch sy'n chwyddo'n ddyli', Paradwvs fydd d' briodi, Olwen Ion, &c. Gem ynot wyf yn weled, Olwen Ion, &c., 0 dyrb dy adduned, Olwen Ion, Mi fydda'n ffyddlawn beunydd, Yn nylif pob ystormydd, Fv nghariad byth ni ddiffydd, Olwen Ion, &c,
BOB WYTHNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BOB WYTHNOS. ClTSTADLBUABTH Y POST CARD.—PcvpWT Pawb yn rhad drwy'r post am chwarter am y pennill penenwol (acrostic) goreu. Testyn:— Mawrth 23.-Dic Shon Dafydd. Ysgrifenu.— Gwobr gyffelyb i blant dan 14 mlwydd oed am ysgrifenu adnod neu bennill, yn addurniadol, mewn inc o wa- hanol liwiau, gydag ymylwaith cywrain. TYNU LLUN.-Hanner Coron yn wyth- nosol am dynu lluniau o anifeiliaid cyffredin— agored i blant dan 18 oed. Mawrth 23.-Gafr. Pos Rhifyddol.—Hanner coron yn wyth. nosol (i rai dan 18) am yr atebiad goreu a chynaraf. Mawrth 23.—Cychwynodd Abraham a Boaz allan o Pantyrhwrdd a Chwmyddafad yr un amser. Cychwynai Abraham o Bantyrliwrdd, gan fwriadu myned trwy Gwmyddafad. Cych- wynai Boaz o Gwmyddafad vn yr un cyfeirlad ag Abraham. Pan ddarfu Abraham oddiwedd- yd Boaz, cawsant fod y naill a'r Hall (gyda'u gilydd) wedi teithio 30 milldir fod Abraham wedi teitlno drwy Gwmyddafad bedair awr yn flaenorol, a bod Boaz (yn ol fel y teithiai efe) daith naw awr o Bantyrliwrdd, Beth yw y pellder rhwng Pantyrliwidd a Chwm- yddafad ?
ARBENIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARBENIG. Cynnygir llyfr newydd, o nodwedd hanes- yddol, gwerth 5s., am y ddadl oreu, cyf- addas i'w hadrodd mewn cyfarfodydd ad- loniadol, ar gyfer y nifer a fyner o ber- fformwyr. Dim mwy na chwe' cholofn o Bapur Pawb.
TELERAU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddc Papur Pawb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd. ugol; a bjvld L"¡'l gan Papwr Pawb i'w cyhojddi trwy dalu swm a benodir gan y Golygydd. 3. Y cyfansoddiadau i gael eu hanfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr- haedd ar y dydd a grybwyllir uchod gyferbyn a phob testyn, 4. Ysgrifener mewn inc lilt, ar bapyr gwyn ar un ochr i'r ddalen yn unig. 5' Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mhen pythefnos ar ol derbyn y cyfansoddiadau. 6. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol a'i drigfod ar y ddalen gyntaf; hefyd i ddatgan ei fod yn cydsynio &'r telerau, a bod ei waith yn wreiddiol, neu yn efelychiad o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostyngedig i Ddeddfau Hawl-ysgrif,