Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I FYNY A'R AMGYLCHIAD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I FYNY A'R AMGYLCHIAD Yr oedd dyn gyda thrweh o wallt crych yn sefyll i fyny yn ei drol, ac yn areithio yn hyawdl am rinweddau ei "wallt-adferydd uniongyrchol" i dorf o bobl. "Dydw i ddim yn credu fod y gwallt yna yn wallt naturiol, Die," meddai y naill wrth y Hall, gan gyfeirio at wallt tewdrweh yr areithydd. "Dydw inna ddim chwaith, Twm," meddai'r Hall, "ond fydda i ddim yn hir iawn cyn cael gwybod." I Ac aeth Twm, y siarcwiwr diweddaf, o'r tu ol i'r gwallt-adferydd enwog yn gelgar ac yn gyfrwys, a chan gyffwrdd yn araf deg a'r cudynau trwchus a blaen ei ffon, a roes blwc sydyn, ac i lawr a'r berwig, gan ddwyn i'r amlwg un o'r penau mwyaf moel- ddisgleiriol a welwyd erioed. Cydgan nerthol o wawd a dirmyg y dorf a ddilynodd yr olygfa hon. "Ha, pan na iwsia ti dy wallt-adferydd dy hunan 1" meddai un. "Tydi o'n werth dim meddai'r llall. "Dos adre, twyllwr wyt ti!" meddai'r trydydd. "Trochfa iawn iddo!" meddai'r lluaws; ac nid oedd i'w glywed am beth amser ond rhyw ymadroddion caredig a hawddgar fel yna. Cyfododd y dyn ei law i ofyn am heddwch, ac yna dywedodd gyda llais hyglyAV — "Foneddigesau a boneddigion,—Yr oeddwn i'n foel am flynyddoedd cyn i mi ddarganfod y ddarpariaeth ryfeddol hon i adiferu y gwallt; a phe buaswn i yn ewyllysio gwneyd defnydd ohoni, gallaswn, mewn tri mis, gael cystal enwd o wallt a'r dyn, dynes, neu blentyn yn y byd." "Pa'm na wnaech chi ?" meddai rhywun. "Paham na wnawn i, ffrindia bach? Wel, mi ddywedaf i chwi paharn. Y mae gwerth- iant fy 'ngwallt-adferydd uniongyrchol' i yn cynnyddu mor ddirfawr nes yn mhen ycliydig iawn o amser fydd yma. yn Ngliymru, Lloegr, na Llanrwst ddim cynnifer ag un pen moel ond fy mhen i fy hun, yr hwn wyf yn fwrjadu gadw felly er mwyn masnach. Yr ydw i'n bwriadu parhau yn foel, mewn trefn i ddangos i'r genedl sydd yn codi y fath anaf anaele ydyw moelni, a chymaint sydd ganddo i wneyd ag anurddo golwg dyn. Yna, on byddant yn gall, byddant yn sier o gefnogi y ddyfais newydd ryfeddol hon, y 'gwallt- adfeaydd uniongyrchol' bydlenwog-yr hwii sydd yn llawn mor effeithiol fel l'hagflaenydcl -i attal moelni, ag ydyw fel adferydd rhwbiweh ycliydig ohono yn achlysurol i wraidd y gwallt, a gallwcli herfeiddio moelni. Fy nghyfeillion i, yn mhen blynyddoedd eto,, hydd wylofain a rhincian dannedd yn mhlith. y gwybed, oblegid bydd1 y penau moelion wedi Iiwyr ddiflanu o'r tir "Yn awr, foneddigesau a boneddigion, does, genyf ond yehydig boteli. ohono gxvda mi heddyw, ac yr wyf yn eu gwerthu am y pris ffwlbriaidd o isel a chw e'-cheiniog y botel, Pwy sy am y gyntan"

Advertising

ICY MAE YN CYFFWRDD A'R LLECYN."

TYSTIOLAETH ODDIWRTH Y DARGANFYDDWR…

Advertising

RHY GYFRWYS IDDYNT

PRIODAS YSTORMUS