Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

YCHYDIG YN RHY WYDN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YCHYDIG YN RHY WYDN Eisteddai Brenhin y Canibalyddion ar ei orsedd bamboo, wedi ei wisgo yn rhwysg.. fawredd ofnadwy ei ogoniant a'i nerth a hen scarff sidan llwydaidd. Yr oedd ei olwg yn hoeliedig ar y ddyfodfa. i ystafell yr orsedd, fel pe ar ei ddisgwylfa. O'r diwedd agorodd, a daeth Uchel Swyddog y Llywodraeth i mewn dan ymgrymu hyd y llawr. "Y mae dirprwyaeth yn disgwyl o'r tuallan, eich Mawrhydi," meddai yr Uchel Swyddog. "Pa fath, gaethwas "Pobl wynion vdynt, eich Mawrhydi." "Ai ar fy anghenion tymhorol ynte ys- prydol y dymunent hwy weini, gi 1" "Tymhorol, eich Mawrhydi." ''Felly, rhaid mai cenadon ydynt." "N age, eich Mawrhydi." "Beth, helgi! ai nid cenadon ydynt?" "Nage, eich Mawrhydi. Mae nhw wedi dyfod yma ar neges o bwys, berthynol i'r Llywodraeth, o wladty bobl wynion. Gwleid- yddwyr ydynt." Daeth cwmwl o siomedigaeth dros wyneb y Brenhin. "Dos, helgi," meddai ef, gan amneidio a'i law. gydag agwedd ymherodrol, "a dywed wrth ysgrifenydd y dyledswyddau ceginol am roi'r taoi allan yn stof y gegin."

NEWID El MEDDWL

[No title]

NEILLDUOLION CHINEAIDD

[No title]

Y BARDD GRAY

BICYCLES

DYCHRYNU'R DIFFVO ODDIAR YR…

PENNOD III.—ENAID MEWN CYFYNGDER.