Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

AWQRYMIADAU CYFREITHIOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AWQRYMIADAU CYFREITHIOL CELU GENEDIGAETH.—Y mae celu genedigaeth yn drosedd cospadwy, y gosp heb fod dros ddwy flynedd o garchariad. Pa un bynag ai o flaen ynte ar ol yr enedig- aeth y bu y plentyn farw, y mae y gosp o gelu yr enedigaeth yn parhau yr un. CECRAETH AC YMRYSON.—Y mae y personau a geir yn euog o gamymddwyn, o derfysgu yn orimesol mewn lleoedd o addol- iad crefyddol, neu mewn mynwentydd a chladdfeydd, yn agored ar eu heuogfarniad o fla-en ynadon i ddirwy o bum' punt neu garchariad o ddau fis. Y TRETHI.—Y mae?r trethi ar dy yn cael eu penderfynu yn ol gwir worth y ty, ac nid yn ol y rhent a delir am dano bob amser. Yn y cyffredin, y mae y rhent a delir am dy yn amcangyfrif digon agos i'w wir werth, ond mewn llawer o achosion y mae rhesymau dros drethu tai a meddiannau yn ol swm uwoh na'u rhent. PWY SYDD I DALU ?—Pan fyddo hedd- geidwad yn ceisio attafaelu dyn ar yr heol, ac iddo ef neu y dyn a attafaelir dori ffenestr yn yr ymdrech y cwestiwn mwyaf naturiol ydyw pwy sydd i dalu am y ffenestr, neu roddi un arall yn ei lie ai y dyn y ceisir ei ddal, yr heddgeidwad, y tenant, ynte per- chenog y ty? Y tenant sydd i dalu. TELERAU ARWERTHIANT, ydyw yr ammodau ysgrifenedig hyny ar ba rai y mae nwyddau a meddiannau yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant cyhoeddus. Y maent yn rhwymo y prynwr, pa un bynag a fydd wedi eu darllen ai peidio; ond ni ellir eu ham- rywio na'u newid yn ystod yr arwerthiant drwy un cytundeb mewn geiriau. METHDALWR.—Y mae gan fethdalwr, pa beth bynag fo ei sefyllfa yn y byd, hawl i gadw ei wisgoedd ei hun a'i wraig a'i blant, a'u gwely, yn gystal a'i arfau gwaith hyd yn ngwerth ugain punt. Os bydd i'r Derbynydd Swyddogol gymeryd rhai o'r pethau hyn ymaith, neu gamymddwyn mewn unrhyw fodidl, gall y methdalwr ymofyn a'r llys i erchi iddynt gael eu hadferyd. TRETH YR INCWM.—Rhaad i dramorwr a fyddo'n byw yn y wlad hon, heb enill dim arian yma, ond yn derbyn arian o'i wladJ ei hun, dalu treth yr incwm (income tax). Y mae y blwydd-dal neu log arian neu gyflog a dderbynia ymai yn agored i gael eu trethu, ni waeth o ba Ie na pha fodd y daethant, na pha un ydynt wedi cael eu trethu eisoes yn y wlad "yr enillwyd hwynt. Y mae y tramorwr yn mwynhau amddiffyniad a rhag- orfreintiau y wlad hon, ac hefyd yn ddaros- tyngedig i'w deddfau. TORI AMMOD PRIODAS.-Gellir, dwyn cynghaws am dori ammod priodas gan naill ai v mab neu y ferch, a gall y naill neu y llall roddi eu tystiolaeth yn y cyfryw gyng- haws, ond rhaid i dystiolaeth yr achwynydd gael ei chadarnhau drwy ryw dystiolaeth sylweddol i brofi yr ammod neu yr addewid, onide, nis gall ef neu hi adenill dedfryd. SIMNEU AR DAN.—Gellir codi dirwy o dueg swllt oddiar y person yn nhy yr hwn y cymer hyn Ie, oni all brofi nad oedd dim esgeulusdra yn ei achosi. COFRESTRU GENEDIGAETHAU. — Rhaid cofrestru pob genedigaeth o fewn dau ddiwrnod a deugain, onide bydd y person fydd yn gyfrifol am yr lesgeulusdra yn agored i ddirwy o ddeugain swllt. Nid oes dim tal. Y persoiiau a ddylai ofalu am gof- restra yr enedigaeth yw y rhieni, neu un o'r ddau, perchenog neu breswylydd y ty lie y cymerodd yr enedigaeth Ie, neu ryw berson arall a fo yn bresennol ar amser yr enedigaeth. Wedi i dri mis fyned heibio nis gellir cofrestru ond yn mhresennoldeb y goruohwyliwr cofrestrol, drwy dalu. TRENGHOL YDD.-Y mae y swydd hon yn un henafol iawn, ac y mae'r gair Seisnig "coroner" wedi tarddu ar y dechreu am fod y dyledswyddau a berthyn ir swydd yn dwyn cysylltiad uniongyrchol a'r Goron. Prif ddyledsiwydd trengholydd: ydyw cynnal trengholiad ar gyrph meirwon personau y tybir eu bod wedi cyfarfod a'u marwolaeth o dan ddrwg-dybiaeth o gaincliwareu, neu an^icrtwjydd mewn, perthytias i farwolaeth ddisym,wth a damweiniol, neu "cafwyd wedi marw." Y mae yn perthyn i ddyledswyddau y trengholydd yn Lloegr a Ohymru gynnal ymholiad mewn perthynas i unrhyw fath- odyn neu drysor gwerthfawr araJl a ddar- ganfyddir yn y ddaear, neu unrhyw le dirgel. lie mae'r perchenog yn anhysbys. Y mae hefyd i gyflawna dyledswyddau sirydd pan na byddo y swyddog hwnw yn gallu gweithredu oherwydd ei gysylltiad a rhyw fudd neu elw personol ag ef ei hun. BICYCLES, &e.—Rhaid i yrwyr bicycles, tricycles, velocipedes, wrth farchogaeth y cludiiedyddion hyny yn y nOSI, gadw at y rheolau canlynoII :-Rhwng un awr, wedi machlud haul ac un awr cyn codiad haul, rhaid i bob un a ddefnyddio bicycle gario lamp mewn cysylltiad a'r peiriant wedi ei chyfleu yn y fath fodd fel ag i ddangos goleuni yn y cyfeiriad i ba, un y bydd yn myned, ac wedi ei goleuo, a'i chadw yn oleu fel ag i fod yn rhybudd digon amIwg o ddyfodiad y cerbyd; ac wrth oddiweddyd unrhyw gerbyd, anifail pyniog, neu unrhyw deithiwr ar draed, rhaid i yriedydd y bicycle, o fewn pellder rhesymol oddiwrth a chyn pasio y eyfryw gerbyd, &c., neinio cloch neu chwibanogl, neu rywbethi arall a ddyru ddigon o rybudd o'i ddyfodiad. Bydd un- rhyw un a droseddk) y rheolau hyn yn agored am bob trosedd i ddirwy heb fod dros ddwy bunt. Y mae bicycles, tricycles-, &c., yn awr yn cael eu hystyried yn gerbydau.

[No title]