Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BEECHAM'S PILLS Fo. all Bilious and Nevvous Disorder, such as Sick Headache, Constipation, Weak Stomach, Impaired Digestion, Disordered Liver, and Female Ailments. Prepared only by the Proprietor, THOMAS BEECHAM, St. Helens, Lancashire. Sold by all Druggists and Patent Medicine Dealers everywhere, in Boxes 9 £ d., Is. lid., and 2s. 9d. each, with Full Directions. The la. ljd. Box oontains Fifty-six Pills* THE SALE IS NOW SIX MILLION BOXES PER ANNUM.
Y BABAN ANOCHELADWY
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BABAN ANOCHELADWY Nid yw o un gwahaniaeth i ba le yr el, na pha beth a wnel y fenyw Japanaidd, y mae y baban anoclieladwy bob amser wedi ei rwymo ar ei chefn, ac y mae hi yn cario'r baich hwn ar ei chefn o ddydd-bwy-gilydd, nes y mae ei chorph wedi plygu ac wedi dyfod yn ei ddau ddwbl, ac yn peri i ddyn deimlo a'i galon waedu o dosturi tuagati. Cyn gynted ag y bydd geneth fechan Japanaidd yn alluog i gerdded, rhwymir ffugfaban (doll) ar ei chefn, a phan ddysgo hi gario h wn w, ac i faban arall gael ei eni yn y tieulu, y mae hwnw yn cymeryd lie y ffugfaban. Y mae ei merthyrdod yn dechreu yn gynar yn ei bywyd, ac y mae yn myneel yn mlaen, gan gario ei phlant ei hun, neu blant ei phlant hyd ddydd ei marwolaeth.
WEDI PUM' MLYNEDD A DEUGAIN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WEDI PUM' MLYNEDD A DEUGAIN Y mae y phonograph a ddyfeisiwyd gan Mr Edison yn derbyn yr ymadroddion a meddyliau a siaredir i mewn iddo, ac yn eu trysori mewn cwyr-drolig, a gall ei hail- adrodd yn llais y llefarydd gwreiddiol wedi Uawer o flynyddoedd, cyn belled ag y bydd y drolig lieb ei gyffwrdd. Y mae y phonograph dynol-yr ymenydd -yn fwy rhyfeddol na hyny, a phrofwyd yn ddiweddar y gall ystorio meddyliau yn myned drwvddo am bum' mlynedd a deugain, yn nghyda'r ymadroddion fo'n tarddu allan ohonynt. Aeth bachgen yn mhentref Lubec (Maine), pan yn bymtheg oed, gyda'i dad i'r cae i ddal ebol gwyllt. Pan ar roddi tenyn am wddf yr ebol, cafodd gic ganddo yn ei ben. Gwellhaodd y clwyf, ond ni adferwyd iddo ei synwyr. Parhaodd i fyw yn y pentref am bum' mlynedd a deugain, nes oedd yn dri ugain oed, pan benderfynodd meddygon yr ardal wneyd ymbrawf arno. Wedi darganfod fod rhan o'r penglog wedi ei ddirwasgu i gyffyrddiad a'r ymenydd hwy a lwyddasant i symud y rhan hono o'r penglog i'w le ei hun. Efe, yn y fan a adferwyd i'w bwyll a'i synwyr, a'r peth cyntaf a ofynodd wedi hyny oedd, "Ydyw yr ebol wedi dianc?"
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr hyn a dyr .esgyrrn y dyn balch, ni iiiyr groen y dyn giosbyngedig.
CERYDD LLYM
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CERYDD LLYM Y mae gweinidog Pwllygro, y Parch Shadrach Jenkyn, wedi bod yn cael ei flino yn ddiweddar gan feibion a merched ieuainc yn siarad ac yn chwerthin yn yr oedfa; a nos Sul diweddaf, trodd at yr aflonyddwyr, a dvwedodd "Ychydig flynyddau yn ol, fel yr oeddwn yn ceisio pregetihu i gynnulleidfa barchus a gwrandawgar, yr oedd dyn ieuanc oedd yn digwvdd eistedd yn union o fy mlaen yn siarad ac yn chwerthin, ac yn gwneyd pob math o ystumiau anweddus. Sefais innau am yspaid, a rhoddais iddo gerydd llym. Wedi i'r oed fa fyned heibio, daeth boneddwr ataf, a idywedodd wrthyf, 'Svr, yr ydych wedi gwneyd camgymeriad mawr heno dydi'r dyn ieuanc yna druan ddim yna i gyd.' Byth er yr adeg hono, yr ydwyf bob amser wedi bod yn ofni ceryddu y rhai fydd yn camymddwyn yn y capel, rhag ofn i mi wneyd yr un cam- avmeriad, a gweinyddu cerydd ar y penwan diniwed."
CARWR ARA DEG
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARWR ARA DEG "Tornos," meddai Mary Jane wrth ei brawd, "mae arna i eisio i ti neyd rliwbeth drosta i." "Beth vdi o ?" meddai Tomos. "Wel, rwyt ti'n gwbod am y wig a'r mws- tashis yna oeddat ti'n wisgo yn y Christy minstrels y noson o'r blaen ? Wel, mae arna i eisie. i ti eu gwisgo nhw i ddwad liefo fi i'r consart heno. Mi fydd Richard yno ac mae arna i eisio i ti lygadrythu arna i o hyd drwy'r glas, ac wrth ddwad allan, i ti sefyll wrth y drws a sterio yn fy ngwyneb i fan hono a threio rhoid Ilythyr yn fy llaw i. Ac i ti gymeryd fod Die yn dy wel'd di o hyd." "Wel, chlywes i rioed shwn beth beth fydd hyny da, wvt ti wedi ffraeo hefo fo, ne rwbeth ?" "Nac ydw i, Tomos, ond fel hyn yn union, wyt ti'n gwel'd; rydw i'n gwybod fod Richard yn ffond ohono i, ond ma-e o mor ara deg, ac mae o'n werth pres, a llawer o ferched ar ei ol o, ac mae eisio codi tipyn o gynliwrf yno fo, fel py tase. Mae arna i ei eisio fo yn benodol erbyn y Pasc.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"A ydych chwi yn gweled rhywbeth hynod yn y wig hon 1" gofynai brawd o farnwr i Curran. "Dim ond y pen oedd yr ateb.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYSIG I HYSBYSEBWYR. YR HERALD CYMRAE& (A sefydlwyd yn 1854, ac a helaethwyd yn 1869,1865 1878, 1887, 1890, a 1892) YW YR HYNAF, MWYAF, RHATAF, GOREU o'r Wythnosolion Cymreig, AC HEFYD EANGAF El GYLCHREDIAD. 64 o GOLOFNAU HIRION. bOB DYDD MAWRIH CEINIOG Yn Eisiau Dosparthwyr h Guhsbwyr lie nad oes rhai eisoes. Cyboeddwr-DANIEL RBES, Carnarvon, The 'Herald Steam Printing Works, HIGH STREET, CARNARVON. CHEAP PRINTING. Handbills, Posters, Placards. Programmes Tickets, Dance Cards Legal Forms, Memorandums, Note Paper Club Cards, Club Rules, Club Accounts. Quarry Reports, Quarry Accounts, Quarry Rules. Pamphlets, Catalogues, Sermons. Funeral Cards, Large Stock, Plain and Fancj. Ace racy Neatness, Despatct Note the Address:- HERALD STEAM PRINTING WORKS HIGH STREET, CARNARVON