Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CIPIWYD O'R " FASQED"

"-HYNODION MALI MODLAN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYNODION MALI MODLAN Mewn bwthyn byehaii ar fin y ffordd, yn Nghwmgwernen, y mae Mali Modlan yn byw. Ni fuasai raid fod mwy o son am Mali nag am ei chymydogesau lluosog, oriibai fod gan Mali gorn gwerthfawr ar fys bach ei throed chwith, sydd yn ateb dyben awrlais, deial, ceiliog gwynt, hinfesuiydd, Ilyfr breu- ddwydion, ac almanac y teulu. Anaml y bydd Mali mewn tymher ddrwg oherwydd cael ei siomi yn y tywydd, ond yn hytrach pan ddelo'n dywydd garw, bydd yr lisn chwaer yn myned! o dy i dy i ddyweyd y gwyddai hi o'r goreu fod gwlaw yn agos, oherwydd fod ei chorn yn anesmwyth. An- aml hefyd y hydd raid i'r cyrnydogion ddv fod i ofyn ei barn am y tywydd, oherwydd cyn gynted ag y clyw hi y ceiliog yn canu ganol dydd ar ddiwrnod gwlawog, bydd Mali yno ei hun yn dyweyd y bydd awyr !as yn sier o ddyfod i'r golwg yn y man. Er ei bod yn byw yn mhell o olwg y mor, bydd Mali yn gwybod fod ynddb bob amser naill ai llanw ai trai, oherwydd y mae ganddi gragen fechan i'w dodi' wrth ei chlust, ac yn hono, y mae yn clywed swn ystorrnydd o bell, yn gystal a swn trai a llanw yn agas. Heblaw ei chorn a'i chrage'n, y mae gan Mali Modlan amryw gyfryngau gwerthfawr ereill i ddigwyddiadau dyfodol daflu eil CJS- godion yn nJaen arnynt, a rhagfynegi eu hunain drwydldynt. Gan hyny, pan glyw hi am ryw ddamwain alaethus, bydd yn gwybod yn mlaen llaw drwy fod cloch fechan ei chlusl; chwith yn canu ei chliil er's oriau cyn hyny. ac nad oedd, er's meityn, ond yn disgwyl clywed y manylion; ond os yn ei chlust ddeheu y bydd y gloch fach yn canu, rhyw newydd da o wlad bell sydd i'w ddisgwyl. Nid damwain hollol i Mali Modlan fydd i foneddwr ddyfod heibio, ac estyn swllfc Deu chwe' cheiniog i'w Haw, oherwydd, yr oedd y eoiai ar gledr ei Haw er's oriau wedi rhag. fynegu hyny iddi; ac nid heb ei ddisgwyl ychwaith y daw llythyr yn y Boreu, oherwydd bydd! Mali wedi ei weled yn y ganwyll y noson flaenorol. Os digwydd i chwi alw ryw brydnawn with fyned heibio, bydd Mali wedi gweled cysgod o'ch ymweliad yn cyhwfan yn yr ulw fydd yu glynu wrth ffon y grat, oriau cyn i chwi wneyd eich ymclidangosiad; a plie buasai weni edrych yn fwy manwl i'r marwor yn y tan, a sylwi ar y ffurfiau cyfrin a'r wynebau dyeithr ae, adtiabyddus, yn marwydos pro- phwydol, buasai yn gwybod mai chwi eich hunan ac nid neb arall oedd ar ddyfod. Os digwydd i un o'i chydnabod fyned yn ol yn y byd, a gorfod gwerthu yr oil fydd ganddo i dalu i'w ofynwyr, er i bawb o'r cyrnydogion ryfeddu at hyny, fydd Mali Modlan yn rhyfeddu dim, yr oedd rhywbeth yn dyweyd wrthi hi o hyd mai felly digwyddai pethau, heblaw ei bod wedi gweled y lleuad newydd am y tro cyntaf dros ei hysgwydd chwith. Ond rhaid i mi fod yn gynnil y tro liwn rhag dyweyd rhyw lawer am dani oherwydd fe fydd cosi ar drwyn Mali bob amser pill fydd rhywun yn son am dani; ac y mae hi' gwybod hefyd y fath son, pa un ai ei chamnol ai ei rhedeg i lawr y bydd ei chymydoglon oddiwrth y cosi fydd ar ei llygad de neu ei llygad cliwith a gwae i'r sawl y bydd i Mali fyned i (ldeongli ei breuddwydion ei hun iddynt.

FFERMWR PUW A'I WAS