Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y TY A'R TEULU

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y TY A'R TEULU MAM DDA.—Y mae un fam dda yn werth cant o ysgolfeistriaid. Yn y cartref, y ty a'r teulu, y mae yn faen tynu i bob calon ac yn seren arweiniol i bob llygad. BOREUFWYD.—Dylai pobl mewn oed gymeryd coffi i frecwast yn ystod misoedd oerion y gwanwyn, gan ei fod yn cynnorth- "yo y cyleiiredlad, ac yn gymhellydd. da. SAIM GWYDD.—Dylai saim gwydd gael ei loewi a'i glirio dair gwaith mewn dwfr berwedig, a phan oero, crafu'r gwaddodd yn lan. Bydd hwn yn ddefnyddiol iawn ar unrhyw adeg i rwbio'r frest mewii achosion o anwyd, croup, a pheswch, &c., a gall fod o ddefnydd mewn coginia,eth. DIFFYG TR.EULIAD.—Y nTae diffyg treuliad yn cael ei aohosi yn ami gan or- weithgarwch yn gystal a rhywbeth arall. Nid da ydyw bwyta, pryd hela,eth o fwyd pan yn lluddedig, ac i gyfodi oddiwrtho yn fiyisiog, a myned yn mlaen ar unwaith gyda gwaith caled. Os na ellir cymeryd digon o amser i gymeryd ymborth yn dawel, gwell cymeryd y mbortli ysgafn a hawdd ei dreulio. PLORYNOD (Pimfples).-Y mae berw'r dwr (watercress) yn waedburydd rhagorol, a dylid eu cymeryd bob boreu gyda boreu- fwyd, ond wedi eu golchi'n ofalus iawn. Y mae yn y llysieuyn hwn allu neu gyneddf arbenig i sugno haiarn allan or dwfr yn yr hwn y bo'n tyfu, ac felly, os bydd yn tyfu ar dir lie byddo llawer o haiarn, goreu oil ydyw fel meddyginiaeth. YR ADDYSG GYFADDAS.—Bydidai yn werth i rieni plant gofio yr hanesyn byr hwn bob aimser —Cyflwynwyd geneth ieuano i Iago y Cyntaf fel engraipht ryfeddol o dalent a dysg. Yr oedd y sawl a'i dygodd hi gerbron y brenhin yn ymffrostio, yn ei medr- usrwydd yn yr ieithoedd henafol. "Gallaf hicrliau eich Mawrhydi," meddai ef, "y gall hi siarad ac ysgrifenu Lladin, Groeg, a Hebraeg." "Dysgeidiaeth anhawdd iawn i eneth moil ieuanc," moddlai Iago; "ond, attolwg, dywedwch i mi, fedr hi nyddu?" TE HAD LLIN.—Gymerwch dair llonaid 11 wy fwrdd o had llin heb eu malu, dodwch arnynt beint o ddwfr, a berwcli am ddeng mynyd. Hidlwch y dwfr, neu y drwyth allan, a thywelltwch ef i lestr yn oynnwys? dau lemon wedi eu scleisio, a meluswch a siwgr neu fel. Lie mae angen am ddiod faethion a chryfhaol ychwanegwch wydriad o'r gwin a gymeradwyo y meddyg. DIOD HYNOD 0 IACHUS.—Cymerwch banner pwys o siwgr, a dau lemon wedi eu scleisio, a chymaint ag a saif ar ddarn swlit o cayenne, a thywelltwoh beint o ddwfr berwedig d'rostynt. Yna cymerwch lestr arall, a dbdwch ddwy owns o Epsom salts, an ran o dair o geiniogwerth o cream of tartar, a thywelltwch banner point 01 ddwfr oer arnynt, a phan fyddo'r peint cymysgedig cyntaf wedi oeri, cymysgwch y naill a'r Hall gyda'u gilydd. Y mae llonaid gwydiryn gwin wrth fyned i'r gwely'r nos, yn fendithiol iawn mewn achosion o wyntogrwydd. DAINT Y LLEW.—Yohydig efallai, sydd vn gwybod rhinweddau y llysieyn distadl hwn, daint y Hew (dandelion) tuagat y gwyn- ebpryd. Dylid bwyta y dail ieuanc fel salad, neu gellir malu y gwreiddiau, a gwasgu y sudd allan ohonynt, a ohymysgu ar gyfar- taledd ddwy ran o dair o'r sudd, gydag un ran o dair o rectified spirits of wine. Dylai wedi hyny gael ei adael i sefyll am wythnos, ac wedi hyny ei ffiltro dirwy blotting paper a chwdyn gwlanen glan. Gellir cynioryd llonaid llwy de ddwy neu dair gwaith yn y dydd. AFU LLO.—Ysgaldiwch yr afu a thorwch ef yn scleisis teneu, y rhai y mae yn rhaid eu blawdio a pheilliad. Doder toddion yn y badell ffrio, ac ychweneger un wynionyn wedi ei scleisio. Ffriwch hwnw nes y bydd yn dechreu lliwio, ac yna dodwoh yr afu i mewn, ac ychydig scleisis o baown rhesog. Pan wedi gwneyd digon, doder yr afu a'r bacwn mewn dysgl a'r wynwyn yn y canol; yna paratowch y gmvy. Tywelltwch beth o'r brasder, yna, ychwanegwdh lonaid llwy fwrdd o beilliad i'w gyniysgu yn dda fel pastai teneu. Blasiwch a phupura halen, a hanner llonaid llwy de o winegr. Tywellt- weh hwn i'r badell ffrio, gan ei droi gyda llwy nes y byddo wedi tewhau. SWP CRYFHAOL.—Y mae math o swp cryfhaol ellir wneyd yn rhad ac yn hawdd yn amrywiaeth defnyddiol iawn i'r claf fyddo'n troi ar wella, ac wedi blino a diflasu ar beef tea. Ceisiwch bwys o gig llo, a stiwiwoh o am h,anner awr, ychwanegwch ato weddillion ffowl oer, un scleis o ham, a stiwiwch yn araf am bedair neu bum' awr. Os caniateir llysiau, bydd y swp yn fwy blasus, yn enwedig wnionyn a celery. Streiniwch y swp, a phan fyddo yn oer,, symuder ymaith y brasder. Pan y byddo achos yn galw, vchwaneger ychydig vermi- celli, brysgyllen ber (mace), a phupur a halen. Tewhaer ef ag ychydig arrowroot, wedi ei wlychu mewn llefrith. Berwch yr ychwanegiad, a sarfiweh y swp. Y mae hwn, fel pob cawl gwyn, yn edrych yn fwy hudolus os bydd ychydig o parsley ynddo wedi en falu yn fan ar ei wyneb pan y byddys yn myned i'w ddefnyddio.

-r, El DYNU DRWY Y PRAWF ,