Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GALARGAN HEN WR GWEDDW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GALARGAN HEN WR GWEDDW. Mae fy nghalon bron a thori, Ar hyd y nos Tra mae'm corpli i gyd yn rhewi, Ar hyd y nos Cyn i'm golli'm hail gymhares, Yn y gwely ro'wn yn gynhes, Ond vn awr 'rwyf hob un ddynes, Ar hyd y nos IV chofleidio yn fy mynwes, Ar hyd y nos. Dwys ystyriwch, fwyn enethod, Ar hyd y ncs Beth yw cyflwr dyn dibriod, Ar hyd y nos Wedi bod yn briod ddwywaith, Er na ches ond un a.r unwaith, Bu'm mewn blys priodi ganwaith, Ar hvd y nos Gan mor ddwfn oedd fy hiraeth Ar hyd y nos. Bu'm yn berchen siop fy hunan, Ar hyd y nos Am na allwn goinio arian, Fe aeth yn nos Gan nad oedd y siop yn talu, Fel dvn call, fe'i rhoes i fyny, Ei throsglwyddo wnes i gwmni, Cyn dod yn nos Gwas wvf heddyw i'r rhai hyny, Ar hyd y nos. Nid wyf hollol diawd er hyny, Ar hyd y nos Cofiweh chwithau ferclied lieini, Ar hyd y nos Cant a hanner yn ddyogel, Guddiwyd genyf ar y capel, Yn ddistaw bach yn nghlust yr awel, Cyn dod yn nos. Ond rhaicl peidio d'weyd yn uchel, Fe ddaeth yn nos. Teulu'r wraig fu yn fy helpu, Ar hyd y nos Cuddiais gannoedd gyda rheiny, Ar hyd y nos Cuddiais byrsau llawn o arian, Na pherthynenti i fy hunan, Er na fu onestach anian, Ar hyd y nos Gan berchenog siop yn unman, Ar hyd y nos. Cuddiais lonaid ty o gelfi, Ar hyd y nos Dan o offerynau canu, Ar hyd y nos Dau fachine ar gyfer gwnio, Chwech o ddresses French merino, Guddiais i gan ocheneidio, Ar hyd y nos Mewn mawr obaith cael gwraig etc, Ar hyd y nos. Ond 'rwyf 'nawr bron digaloni, Ar hyd y nos Chwant rhoi fyny ysgrifenu, Ar hyd y nos Mae'm golygon wrtli alaru Yn eu tyilau wedi pylu, A'ni meddyliau bron dyrysu, Ar hyd y nos Awydd gwraig yn dal er hyny, Ar hyd y nos. Rhyfedd iawn fod merched ffermwyr, Ar hyd y nos Mor awyddus am bregethwyr, Ar hyd y nos Pe bawn i yn cael fy amcan, Eu traddodi wnawn i Satan, Na bo un i wel'd yn unman, Ar hyd y nos Yn llygadu'r merched mwynlan, Ar hyd y nos. 'Madael wnawn a siop y cwmni, Ar hyd y nos; Pe cawn y drydedd waith briodi, Ar hyd y nos Agorwn eto, doed a ddelo, A'r arian ydwyf wedi guddio, Rhown enw'r wraig o dan v bondo, Ar hyd y nos Rhown bobpeth ar enw hono, Ar hyd y nos. Fel 'rwy'n byw yn siop y bobol, Ar hyd v nos Rhof "swvn-serch" o waith lferyllol, Ar hyd y nos Fr ferch hardd o fferm y Bargoed, Fel na all yn hwy fy ngwrthod, Mi a'i plygaf yn ddiammod, Ar hyd y nos; Er mor dyner ei chvdwybod, Ar hyd y nos. Rhoddais ddogn a swynai angel, Ar hyd v nos; I'r swyddogion yn y capel, Ar hyd v nos Glyna rhai'n yn glwm fel gelod Ynwyf beunydd yn ddiddarfod. Pa beth bynag ddoent i wybod, Ar hyd y nos Deillion serch ni welant bechod, Ar hyd y nos. Os na lwyddaf gyda hwnw, Ar hyd y nos Rhaid i'm farw yn wr gweddw, Ar hyd y nos Rhodder hyn ar lech fy meddrod "Hen wr gweddw wedi ei wrtliod Gan ugeiniau o enethod, Ar hyd y nos Marw wnes dan bwn o drallod, Ar hyd v nos." TWM WIL JACK.

NAWFED RESTR 0 WOBRWYON

ARBENIG.

TELERAU.

Y GALON AR Y TRAETH.