Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR ANFARWOLFARDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR ANFARWOLFARDD. Mr Gol.,—Yr wyf ettaw yn fy hynawsedd arferawl yn ymddarostwng i ysgrifenu attoch am fy arwrgerdd i'r gog. Yr wyf wedi galw fwv nag unwaith a chad eich cyfrinfa olyg- yddol yn wag. Os nad ydyca ar fedr ei defnyddiaw, can- iatewch i mi, unwaith yn ychwaneg, ofyn i chwi ei throsglwyddaw yn ddiced, fel y gall- wyf ei hanfon i wythnosolyn mwy teilwng ohoni, ac o dalent ei hawdwr fel, wrtli weled ei llwyddiant a chlywed ei chlod yn y cy- hoeddiad hwnw, y caffwyf y pleser o'ch gwel- ed yn rhincian dannedd edifeirwch, ac yn custtnu gofid yn rhy ddiweddar. Yr unig ffordd i chwi osgoi y trychineb o dramgwyddo bardd, drwy ddyfod i wrth- darawiad a tharanau digofaint yr awen, sydd wedi anfarwoli'r gwanwyn, ydyw i chwi yru y penigampwaith i'w awdwr yn ddioed—allan o law, yr liyn o'i gyfieithu ydyw, ar unwaith yn ddivmdroi. Yr eiddocli yn gywir, Anfarwolfardd. ['Roedd yn dda, iddo fo nad oedd yr hen ddyn yma gartre pan alwodd o'r dwrnod o'r blaen, onite, mi fasa fynta yn ï chael hi fel bydd llawer un yn ei chael hi, os bydda nhw'n dechra myn'd! yn gas. Ma'r hen ddyn yma'n gry ofnadw pan fydd o'n dechra gwylltio. Mi gwelis i o'n gafal yn ngholar y Bardd Cria,fol am ei blagio fo am rw bryddesti, ac yn ei fwrw fo i'r fasged; ac wedi hyny yn pigo'r fasged i fyny ac yn 'i chario hi allan i'r strvd, a'r bardd yn ei grwbach o'r tu mewnidldi hi, pan oedd trol y corporation yn dwad, a fynta'n tywallt y bardd a'r paparau i'r drol ac yn deyd, "Yrwan," medda fo, "os ar. hoswch chi yna, mi ewch ar ol ych prydd. est, hwyrach y dowch chi o liyd iddi hi os ewch chi'n ddigon pell." Wn i ddim gafodd o hi ai peidio, fu o byth vma wed'yn.-Y PRENTIS.]

LLYTHYR WIL SIORS.

SIMON JONES Y SIOP.

BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN

DIM LLE I GROGI CATH