Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
LLYTHYR ANFARWOLFARDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR ANFARWOLFARDD. Mr Gol.,—Yr wyf ettaw yn fy hynawsedd arferawl yn ymddarostwng i ysgrifenu attoch am fy arwrgerdd i'r gog. Yr wyf wedi galw fwv nag unwaith a chad eich cyfrinfa olyg- yddol yn wag. Os nad ydyca ar fedr ei defnyddiaw, can- iatewch i mi, unwaith yn ychwaneg, ofyn i chwi ei throsglwyddaw yn ddiced, fel y gall- wyf ei hanfon i wythnosolyn mwy teilwng ohoni, ac o dalent ei hawdwr fel, wrtli weled ei llwyddiant a chlywed ei chlod yn y cy- hoeddiad hwnw, y caffwyf y pleser o'ch gwel- ed yn rhincian dannedd edifeirwch, ac yn custtnu gofid yn rhy ddiweddar. Yr unig ffordd i chwi osgoi y trychineb o dramgwyddo bardd, drwy ddyfod i wrth- darawiad a tharanau digofaint yr awen, sydd wedi anfarwoli'r gwanwyn, ydyw i chwi yru y penigampwaith i'w awdwr yn ddioed—allan o law, yr liyn o'i gyfieithu ydyw, ar unwaith yn ddivmdroi. Yr eiddocli yn gywir, Anfarwolfardd. ['Roedd yn dda, iddo fo nad oedd yr hen ddyn yma gartre pan alwodd o'r dwrnod o'r blaen, onite, mi fasa fynta yn ï chael hi fel bydd llawer un yn ei chael hi, os bydda nhw'n dechra myn'd! yn gas. Ma'r hen ddyn yma'n gry ofnadw pan fydd o'n dechra gwylltio. Mi gwelis i o'n gafal yn ngholar y Bardd Cria,fol am ei blagio fo am rw bryddesti, ac yn ei fwrw fo i'r fasged; ac wedi hyny yn pigo'r fasged i fyny ac yn 'i chario hi allan i'r strvd, a'r bardd yn ei grwbach o'r tu mewnidldi hi, pan oedd trol y corporation yn dwad, a fynta'n tywallt y bardd a'r paparau i'r drol ac yn deyd, "Yrwan," medda fo, "os ar. hoswch chi yna, mi ewch ar ol ych prydd. est, hwyrach y dowch chi o liyd iddi hi os ewch chi'n ddigon pell." Wn i ddim gafodd o hi ai peidio, fu o byth vma wed'yn.-Y PRENTIS.]
LLYTHYR WIL SIORS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYR WIL SIORS. Mr Gol.,—Mae pawb yn fy nabod i, ac mi rydw i am roid yr hogyn ena 'i hun yn y fasged, ne miawn cawall, pan gaf fi hyd iddo fo. Mae nhw wedi dechra chwara'r hen dries eto yn v cwm yma. Lot o lafna direol a chwiw denynod yn dwad ar gefna, mulod yn y nos miawn cynfasa gwnion, a chapia nos, i ddychryn yr ieir, a gwneyd i'r own udo, a'1' cathod mewian yn anaele las. Mi ddctli tri ohonvn nhw i miawn drw'r liuarlh yma, ae mi redodd Milan y forwyn yma, drw ddrws y cefn na welodd neb byth moni hi. Mi rodd na un ohonyn nhw'n siarad Sasnag, ac mi rydan ni'n ofni fod un gair wedi glynu yn ngwddwg y ei yma, a'i fod o ar y ffordd i fynd yn gynddeiriog. Ma'r mulod wedi difa pobpeth gwyrdd o gwmpas y ty yma, ac wedi dychrynu buwch. Mi ddoth ma blisman yn y bora, pan oedcla. nhw wedi myn'd ddigon pell, ac mae o'n deyd ma plant Rybeca ydyn nhw, a bod geno fo lond i bocad o warants i'w dal nhw. Ond ma'n haws gin i gredu ma'r ffenians ydy llhw, a bod eisio gosod llawar o drapia llygod o gwmpas y tai yma. Rydw i'n ofni cawn ni glwad am lawar o lanast cyn bydd y papur na wedi dwad allan. O.Y.—Ma eisio i'r! bechgin yna gymud mwy o ofol wrth spelio fy llvthyra fi, ne mi fydd pobol yn meddwl ma speliwr drwg ydw i. [Tydi Wil Siorsi ddim yn cynsidro fod y bechgin yma wedi bod yn hir iawn yn yr ysgol, ac miawn prantisiath am saith mlyn- add, wedi hyny, ac felly ddim wedi cael chance i ddysgu spelio na dim bvd.—Y PRRWrIS. ]
SIMON JONES Y SIOP.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SIMON JONES Y SIOP. Mr Gol.,—Rhaid i chi beidio sliargio dim arna i am roid y ilythyr yma drwr wasg, oherwvdd does arna i ddim ofn i'r wlad a'r byddygions i gid wbod mod i'n arfar doctro tipyn unwaeth yn y mis, et mod i'n scwl- mastar wedi bod, ac wedi bod yn rhcid gelod wrth lawar un cyn 1 mi fyn'd yn undartecar ac yn groshiar. Mi ddyla fod yna dipyn o bareh i ddyn sy wedi bod yn tynu dannadd pobol o gwmpas Abercwmcleidir vma., ao wedi bod yn gweila cyrn ar benau nifeiliad a thraed dynion, a charna cyftyla byddigions. Heblaw hyny, mae llawer wedi bod yn dwad yma i dori eu gwinadd, ac i glipio blew eu mulod unwath yn y mis. Mae gin i lawar o sturmants yn y siop, chwibanogla ceiniog, canwyllbreni pres, pad- elli ffrio, ac offryna cerddorol erill am brisia llawer rhy rad ran hyny. Mi rydw i'n dal i roid lesns miawn spelio, ac miawn grmadeg i lancia'r wlad a. merched ifinc, ac yn dysgu nhw ganu salma hefo'r basfeiol, a phob math o wau a gwnio, a scwadrils a phobpeth a gofal mawr am iddyn nhw ddysgu bihafio, gartra ac oddicartra, Ma'r holl ganghena gin i miawn snyff a sigars, a gan fod hi'n dvwydd caled wedi bod, rydw i'n delio miawn pob math o stwff gerddi, ac yn gwerthu plu i neyd gwelyau peiswyn da, a phob math o steshionary a bancetsi pocad, ieir, gwydda, a cheiliogod, moch a chwiad, brwsia blacin, a phenwaig, ysgubelli a chabaits, beibla a gwimbillia, testamentia a thriag, wermod lwyd a hetia silc, ffa'r corsydd a. hen lyfra da, trapia llygod a thiwnia newydd, pob math o gacenau, yn cynws tatws pine eis cochion bach a clierig liogi, lampau a cher hwsmonaeth, bwcedi a modrwyau, llestri priddion a phob math o fwydydd erill. Yr ydw i newydd gael stoc ofnatsan o gmgir biar a lobstars a phob math o sidanau, wytdrys a sebon, starch a Iliw glas. Heblaw hyny, rydw i'n arfar rhoid lesns miawn gograffi a chlandro, miwsio a phob math o dricia, a cherddad ar stiydfacha i rai dan bymbheg oed unwaith yn y mis, am brisia hynod o isal. Mae yma hefyd stoc dda, ofnatsan o watches a hen bapura newydd, harmoniyms a wyn- iwns man at eu piclo, a phob math o lyfra ysgol a,r werth. Am arian parod1, byddaf yn rhoid chwecli c-heiniog y bunt yn ol i rai dan drigain oed, dim ond grot i rai dros hyny, a dim dima r delyn i'r rhai nadi ydy nhw'n meddwl ialu byth. 0, ie, bu agos i mi anghefio deyd bod gen i fitrols at dyfu whiscars a barf, a stoc dda o siswrnau ao wyau newydd 'i dydwu, a digon- edd o sana cochddu'r ddafad, ac yn casau pob math o sothach. [Wel, mi ddyliwn i fod yna lawar iawn o wvbodaeth mewn chydig o Ie, a; bod yn biti garw tawlu pethel, fel livn i'r fasged. Tasa Simon Jones yn canmol tipyn ar ein papur ni, (mi. fasa'r ganmoliath hono'n sincio'n is i lawr i fer esgyrn yr hen ddyn yma, na'r holl bethi sy ar werth yn i siop o, a fasa, fo byth yn meddwl tawlu siopwr mor fawr a'i holl goods hefo fo i'r fasged.—Y PRENTIS.]
BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN Yr oedd gan un o ysweiniaid Maiden, Massachusetts, hen gaethwas oedd wedi bod yn y teulu nes oedd yn ddeg a thri ugain oed. Wrth weled nad oedd rhyw lawer yn ychwa.neg o waith i'r hen ddyn wneyd, aeth yr yswain ato un diwmod, a dywedodd wrtho yn fawreddog iawn fel y canlyn: — "Yr ydych wedi bod yn was ffyddlon i mi, ac i fy nhad o fy mlaen. Yr wyf wedi bod yn meddwl llawer ar ba, fodd y gallaf eich gwobrwyo am eich gwasanaeth. Yr wyf yn rlioddi eich rhyddid i chwi. Yr ydych o hyn allan yn feistr arnoch eich liunan, ac yn ddyn i chwi eich hunan." Wrth gly-wed hyn:, ysigydwodd yr hen gaethwas ei ben, a chydag edrychiad cyfrwys, oedd yn dangos yn eglur ei fod yn gallu gweled! dlrwy ddybenion ei feistr, dywed- odd — "Na, na, massa! yr ydych wedi bwyta r cig, yrwan rhaid i chi fwyta'r esgyrh." sg £ aa
DIM LLE I GROGI CATH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIM LLE I GROGI CATH Hen Gymro mynyddig di-lol a gwladaidd i'r pen ydyw Cadwaladr Puw. Yr oedd ganddo dy ar osod yn agos i'r dref, ac anfonwyd am dano un diwrnod, oherwydd fod gwr boneddig o Sais ac awydd arno ei gymeryd, oncl fedrai yr hen Gad- waladr yr un gair o Sa-esneg na'r Sais yr un gair o Gymraeg; ac felly bu raid eael eyiieithydd. "Mae o'n deyd ei fod o'n dy digon neis," meddai'r cyfieithydd, "y mae o'n leicio'r gymydoigaetli, a phob peth felly; ond mae o'n deyd fod yr ystafelloedd yn rhy fychan iddo fo; dyna mae o'n ddeyd." "I couldn't swing a cat here," meddai'r Sais. "Be mae o'n ddeyd?" meddai Cadwaladt Puw. "Mae o'n deyd nad oes yma ddim digon o le i grogi cath," meddai'r cyfieithydd. "Be mae o'n feddwl, deydwch V meddai Cadwaladr. "Dweyd mae o, nad ydi'r rooms yma yn ddigon o faint i grogi cath ynddyn nhw." "I ba beth y mae eisio crogi cath?" "Wel, py tae arno fo eisio hyny, mae c.'n devd, wyddoch, nad oes yma ddigon o le." "Dydw i ddim yn leicio i neb grogi cath yn fy nhy fi," meddai Cadwaladr Puw. "A deydwch wrtho fo, os gwelwch ehi'n dda, mod i'n rlientu'r ty yma i bobol fyw ynddo fo, nid fel lie i irogi cathod."