Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR ANFARWOLFARDD.

LLYTHYR WIL SIORS.

SIMON JONES Y SIOP.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SIMON JONES Y SIOP. Mr Gol.,—Rhaid i chi beidio sliargio dim arna i am roid y ilythyr yma drwr wasg, oherwvdd does arna i ddim ofn i'r wlad a'r byddygions i gid wbod mod i'n arfar doctro tipyn unwaeth yn y mis, et mod i'n scwl- mastar wedi bod, ac wedi bod yn rhcid gelod wrth lawar un cyn 1 mi fyn'd yn undartecar ac yn groshiar. Mi ddyla fod yna dipyn o bareh i ddyn sy wedi bod yn tynu dannadd pobol o gwmpas Abercwmcleidir vma., ao wedi bod yn gweila cyrn ar benau nifeiliad a thraed dynion, a charna cyftyla byddigions. Heblaw hyny, mae llawer wedi bod yn dwad yma i dori eu gwinadd, ac i glipio blew eu mulod unwath yn y mis. Mae gin i lawar o sturmants yn y siop, chwibanogla ceiniog, canwyllbreni pres, pad- elli ffrio, ac offryna cerddorol erill am brisia llawer rhy rad ran hyny. Mi rydw i'n dal i roid lesns miawn spelio, ac miawn grmadeg i lancia'r wlad a. merched ifinc, ac yn dysgu nhw ganu salma hefo'r basfeiol, a phob math o wau a gwnio, a scwadrils a phobpeth a gofal mawr am iddyn nhw ddysgu bihafio, gartra ac oddicartra, Ma'r holl ganghena gin i miawn snyff a sigars, a gan fod hi'n dvwydd caled wedi bod, rydw i'n delio miawn pob math o stwff gerddi, ac yn gwerthu plu i neyd gwelyau peiswyn da, a phob math o steshionary a bancetsi pocad, ieir, gwydda, a cheiliogod, moch a chwiad, brwsia blacin, a phenwaig, ysgubelli a chabaits, beibla a gwimbillia, testamentia a thriag, wermod lwyd a hetia silc, ffa'r corsydd a. hen lyfra da, trapia llygod a thiwnia newydd, pob math o gacenau, yn cynws tatws pine eis cochion bach a clierig liogi, lampau a cher hwsmonaeth, bwcedi a modrwyau, llestri priddion a phob math o fwydydd erill. Yr ydw i newydd gael stoc ofnatsan o gmgir biar a lobstars a phob math o sidanau, wytdrys a sebon, starch a Iliw glas. Heblaw hyny, rydw i'n arfar rhoid lesns miawn gograffi a chlandro, miwsio a phob math o dricia, a cherddad ar stiydfacha i rai dan bymbheg oed unwaith yn y mis, am brisia hynod o isal. Mae yma hefyd stoc dda, ofnatsan o watches a hen bapura newydd, harmoniyms a wyn- iwns man at eu piclo, a phob math o lyfra ysgol a,r werth. Am arian parod1, byddaf yn rhoid chwecli c-heiniog y bunt yn ol i rai dan drigain oed, dim ond grot i rai dros hyny, a dim dima r delyn i'r rhai nadi ydy nhw'n meddwl ialu byth. 0, ie, bu agos i mi anghefio deyd bod gen i fitrols at dyfu whiscars a barf, a stoc dda o siswrnau ao wyau newydd 'i dydwu, a digon- edd o sana cochddu'r ddafad, ac yn casau pob math o sothach. [Wel, mi ddyliwn i fod yna lawar iawn o wvbodaeth mewn chydig o Ie, a; bod yn biti garw tawlu pethel, fel livn i'r fasged. Tasa Simon Jones yn canmol tipyn ar ein papur ni, (mi. fasa'r ganmoliath hono'n sincio'n is i lawr i fer esgyrn yr hen ddyn yma, na'r holl bethi sy ar werth yn i siop o, a fasa, fo byth yn meddwl tawlu siopwr mor fawr a'i holl goods hefo fo i'r fasged.—Y PRENTIS.]

BWYTA'R Cia, BWYTA'R ESCYRN

DIM LLE I GROGI CATH