Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y CELWYDD GWYN

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CELWYDD GWYN Cefnder ydyw'r "celwydd gwyn" i'r "celwydd goleu." Mae'r "celwydd goleu," na bondigrybwyll yn ddigon hysbys i bawb yn Nghymru, ysywaeth. Y mae wedi byw mwy yn ein plith na'i gefnder y "celwydd gwyn," oherwydd y mae yr olaf yn ystyried ei hunan yn fwy aristocrataidd, ac yn gallu gwneyd mwy o broffit yn Lloegr nac yn Nghymru, lie mae ei gefnder yn byw. Iaith fwyaf arferedig y "celwydd gwyn" ydyw "Dydi hi, neu dydi o ddim gartref." Pa fodd y gallai cymdeithas fodoli am un tymhor heb yr ymadrodd bach cyfleus yna? Mae'n wir fod ambell i was a morwyn yn tripio yn echrydus ar draws y geiriau yna. Pan fydd eu meistresi oddicartref mewn gwirionedd dywedant ei bod hi "allan," gan ychwanegu enw yr swr y cychwynodd o'r ty. Ond pan fydd hi i mewn. mae nhw'n dyweyd yn deimladwy iawn, "dydi hi ddim adre," ac fe fydd yn hawdd i'r hen Gymro mwyaf diddichell wvbod beth fydd hi'n fecldwl. Ond y mae'n fwy poenus fyth gweled geneth fechan o'r wlad, wedi ei dwyn i fyny yn llwybrau geirwiredd, yn gadael i'r ym- welydd aros wrth y drws er mwyn iddi gael gofyn i'w meistres ydi hi gartref neu beidio. Wedi hyny, cymerwn achos geneth yn v ddawns dradhefn. Y mae dvn sydcl ar delerau cvfeillgar a hi yn ei bywyd cytfredin, ond yn ddawnsiwr gwael a pheryglus, yn gofyn iddi ddawnsio gydag ef y tro nesaf. Yn Llys y Gwirionedd fe ddywed yr eneth, "Wna i ddim dawnsio gyda chwi, oherwydd yr ydych yn ddawnsiwr mor dru- enus o wael." Y mae ambell eneth a chanddi ddigon o swyn yn ei dull o siarad i allu dyweyd hyn heb beri tramgwydd. Ond nid gan bob merch y mae y gallu hwmv, ac anaml y dad- blygir ef cyn cyfnod canol oed. Y mae gallu dyweyd y gwir heb dramgwyddo yn un o'r talentau prin hyny nad oes obaitli i ond ychydig allu byth eu meddu. Y mae yr eneth yn y ddawns yn gwybod fod yn rhaid iddi beryglu cael rliwygo ei gwisg, a'i hergydio o gwmpas os na fydd iddi dclyvaayd vohydig anwiredd, a'r anwiredd hwnw ydyw y "celwydd gwyn." Dywed ei bod wedi ymrwymo i ddawnsio gydag un arall, neu wedi blino, ac wedi hyny, yn y fan yn dawnsio yn h-einyf gyda rhywun arall; ac er fod y dyn yn ei gweled yn derbyn cynnygiad un arall y mynyd yr oedd yn ei wrthod ef, y mae yn tramgwyddo Ilai wrthi na phe dywedasai y gwirionedd creulon. Eto y mae yr aohosi yn ddigon eglur iddo. x mae y dyn hwnw drachefn wedi gor- chuddio ei hun a chywilydd, a gwneyd rhai ereill yn annedwydd ar hyd y nos yn dyweyd "celwydd gwyn" pan yn ymadael. Dywed wrth ei letyes ei fod wedi mwynhau ei hun yn rhagorol.

BARNU ODDIWRTH YR OLWG

UN 0 BLWYFOLION PWLLYGRO

Advertising

CARNARVON AND DENBIGH HERALD.;

Y GWDDFWCH