Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y CELWYDD GWYN

BARNU ODDIWRTH YR OLWG

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BARNU ODDIWRTH YR OLWG Yn Llys Ynadon Cwmbwrlwm y mae gan- ddynt hen gopi dadfeiliedig o'r Testament Newydd i dyngu y tystion, ac un diwrnod yn ddiweddar, yr oedd llanc ieuanc o ffermwri o'r gymydogaeth yn cael ei holi pan y cymerodd yr ymddyddan canlynol le rhwng y cadeirydd (gwr parchedig (j'r dref) aIr: tyst: — II Cadeirydd: Allwch chwi ddarllen etc ysgrifenu ? Llanc: Gallaf, syr. > t Cadeirydd: Ydych ehwi'n gwybod mai peth drwg iawn ydyw dyweyd anwiredd Llano: Ydwyf, syr. Cadeirydd A phan gymerwclv eich llw, byddweh wedi tyngu i siarad y gwir 1 Llanc Byddaf, syr. Cadeirydd*: Ydych ehwi'n gwybod pa lyfr ydyw hwna sydd yn eich Ilaw chwi 1 Llanc: Y Testament, syr. Cadeirydd: Pa Ðestament 1 Pa un ai yr Hen ai y Newydd? LIane (yn edrych am beth amser ar gyilwr dadfeiliedig y Ilyfr) Rydw i'n meddwl mai yr hen un ydi o, syr, Cadeirydd (yn gwenu) Rydw i'n meddwl eich bod yn gwybod digon am natur llw i gael eich tyngu.

UN 0 BLWYFOLION PWLLYGRO

Advertising

CARNARVON AND DENBIGH HERALD.;

Y GWDDFWCH