Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

PENNOD IV.—P AMI AD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENNOD IV.—P AMI AD. .1 l -1,1 0. A! ebai Johnson ynddo ei hun wrth fyned adref oddiwrth y lie y digwyddodd y ddam- wain i'r hen dwrnai, dyna.'r Gregory yna —fel y mae yn galw ei hun-wedi dechreu deall fod pobl lawn mor effro ag yntau yn yn y byd yma; ie, ac yn y dref hon hefyd. Ys gwn i mai Gregory yw gwir enw'r dyn 'Rwyf broil yn meddwl i mi ei weled yn rhywlo rai blynyddau yn ol cyn dod i'r drcf hon. Yn mha le, tybad T' Yr oedd Mr Gegory wedi sefydlu yspytty eang ar gyfer ei weithwyr ao yn talu i feddyg a dwy o nurses profiadol am edrych ar ol y lie a'r cleifion ddygid yno. I'r yspytty hwn y cymerwyd yr hen dwrnai oedd wedi cyfar- fod a'r ddamwain gyda'r cerbyd, ao yr oedd Mr Gregory wedi gorchymyn gweinidogion yr yspytty i fod mor ofalus o'r hon wr a phe buasai efe y gweithiwr mwyaf medrus o'r gweithdy. Y bora dilynol i'r ddamwain dyma un o'r nurses yn dwyn llythyr i'r hen dwrnai. "Oddiwrth bwy y mae hwn ?" gofynai efe iddi cyn ei agor. "Darllenwch a gwelwch drosocli eich hun,' oedd ateb y Pan agorodd yr hen wr y llythyr canfu er ei syndod dirfawr fod ynddo nodyn can'punt, a llythyr byr i'r perwyl a ganlyn :—"Fy hen ffrynd,-Yr wyf wedi prynu eich ceffyl a'ch cerbyd, a dyma i chwi gan'punt yn dal am danynt. Arhoswch yn yr yspytty nes y byddwch wedi gwella, ac ill bydd yr un ddimai o draul artioch.—Yr eiddoch, P. Gregory." Yr oedd yr hen dwrnai wedi ei synu. Gwyddai nad oedd ei gerbyd, ar ol y ddamwain, yn werth dwy bunt, nc fod ei geffyl wedi cael ei niweidio gymaint fel y bu raid ei saethu. Ac eto wele Gregory, perchenog y weithfa, fawr, yn talu can'punt iddc am. geffyl niarw a cherbyd! wedi ei falurio! Nid yw twrneiod, fel rheol gy- ffredin, yn nodedig am feddalwch eu calonau. Y maent, yn nghwrs eu galwedigaeth, yn gorfod ymwneyd cymaint a phobl dwyllodrus, ddrwg, gelwyddog, fel y maei y radd fechan o foddalweh calon ac ymddiried yn yr hil ddynol a feddent ar y dechreu yn cael ei yru an ffo o'u oyfansoddiadiau.. Felly, dir- fawr isynwyd y oyfreithiwr claf pan ganfu fod Mr Gregory yn ymddwyn mor anesbon- iadwy garedig tuagato a hyny wedi iddo ef fod yn rhedeg cymaint ar Mr Gregory byth er pan ddaeth y dyn da hwnw i'r dref. Nid yn y fan yma y diweddodd caredigrwydd Mr Gregory tuagato ychwaith, ond llwydd- y odd i gael lie iddo fel clerc twrnai yn Man- chester ar ol i'r hen greadur orphen gwella a dod yn alluog i fyn'd allan o'r yspytty. Drwy hyn enillodd Mr Gregory un gelyn yn ychwaneg yn gyfaill, am y tro a dyweyd y lleiaf.

PENNOD V.-Y MAER.