Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

TRIN Y CYFREITHIWR YN ARW

HEB FEDDWL ERIOED AM HYNY

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEB FEDDWL ERIOED AM HYNY Y mae casglydd hen gyfrifon yn Llanlwglyd wedi cael amser caled drwy y gauaf, ond cy- farfyddodd a hen ddyledwr athronyddol iawn y dydd o'r blaen, yr hwn a'i hargyhoed'dodd mewn pethau rhyfeddol o bwysig. Dywed y caaglydd dan sylw ei fod wedi cerdded llawer ar ol y dyledwr hwnw yn ystod y chwe' mis a aeth heibio, ac o'r bron wedi blino a'r gwaitli. "Gelwch eto yfory," neu "Does gen i ddim pros heddyw," fyddai ei gan bob amser. "Dywedwck," meddai, y tro diweddaf y galwodd, "ydych chwi'n meddwl talu y bil yma rywdro ?" "0 ydwyf, ryw ddiwrnod," meddai yr athronydd. "Ond be faisech chi'n feddwl rwan, a welwch chi, mae araaf fi eisieu dang- os i chwi un peth neu ddau y byddai o fan- tais i chwi feddwl am danynt. Pa saw! bil sydd genych yn y pac yna?" "Tua deugain," meddai' r casglydd. "Faint o amser gymer i chwi alw gyda'r holl bobl yma ?" meddai'r athronydd. "Diwrnod cyfan," oedd yr ateb. "Beth pe bai pawb yn talu ei fil i chwi ar unwaith 1" "Wel, mi fyddai hyny yn un o'r pethau mwyaf rhyfedd a welais i er pan wyf yn y SAvydd," meddai'r casglydd. "Ie, mi fyddai? Beth a wnelech clnvi am fywoHaeth pe bai yr holl filiau hyn yn cael eu talu mewn un diwrnod 1" Edrychai y casglydd yn syn am foment. "Wel, Jericho Jones wn i ddim, ond Yl1 ol pob tebyg mi fyddwn allan o waith. "VV 01, ynte, peidiweh a bod mor bryderus i gasglu pob ceiniog sydd yn ddyledus i'ch meistradoedd. Y mae un bil yn y dydd yn ilawn digon. Cyn belled ag y mae a fynoch a fi, dowch heibio i mi ryw dro yr wythnos nesaf, ac efallai y gwnaf rywbeth a chwi," ac aeth yr athronydd ymaith.

PENTYRU MARWOR TANLLYD

[No title]

Advertising

CONGLV CYHOEDDWR

CELL Y GOLYGYDD

PENNOD V.-Y MAER.