Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

AWQRYMIADAU MEDDYQOL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AWQRYMIADAU MEDDYQOL POSEL TIIIAGL MHAG AXWYD.—Xi ddylid gadael i'r hen feddyginiaeth hon farw, cherwydd y mae yn ddiod ragorol iawn i'w chymeryd y nos cyn myned i'r gwely pan o dan amvyd. Dodwch hamier peint o laeth mewn sospan, a gadawer iddo ferwi. Dod- wch ddwy lonaid llwy fwrdd o driagl ynddo, gan ddal i'w droi, a gadael iddo ferwi dra- chefn, yna coder ef i fyny, a doder ef wrth ochr y tan, a gadawer ef yn llonydd am ych- ydig fynydau. iStrainiweh ef, a chymerwch yn boeth. jOHWYSIGEXOD All Y DWYLAW.— Wedi bod yn rliwyfo yn galed nes y bydd i bothellau gyfodi ar y dwylaw, y feddygin- iaeth ganlynol a ystyrir y rhagoraf -Rhwb- iwch gledrau eich dwylaw yn dda a methy- lated spirits cyn myned i rwyfo; a chyn belled ag y teimlir gormod o dynerwch yn y croen, parhewch i wneyd hyny wrth roddi heibio bob nos. MEL EEL MEDD YGIXIAETH. —Y mae mel yn feddyginiaeth werthfawr iawn, yn enwedig rhag anhwylderau y gwddf a'r ys- gyfaint. Y mae mel yn cynnwys starch a siwgr, gryn lawer, wedi eu treulio i raddau helaeth gan y gwenyn. Yn awr ac eilwaith, gellir taro ar gyfansoddiad dynol nad ydyw mel yn cyduno ag ef, ond i'r mwyafrif mawr y mae wedi profi yn fendithiol. ATTAL DYWEDYD.—Os bydd plentyn ag attal dywedyd arno, dylid archwilio taflod y genau, ac attalydd y tafod yn ofalus, er gweled fod y naill a'r llall yn berffaith. Os bydd y naill a'r Hall o'r ermigau hyn yn ber- ffaith, y mae yr attal dywedyd wedi ei achosi gan rywbeth arall, efallai, drwy nervousness. Dylid dysgu'r plentyn i siarad yn araf a phwyllog, gan dynu yr anadl yn llawn ac yn gyson, ac ni ddylid ar un cyfrif chwerthin am ei ben, oherwydd y diffyg hwn. DADBLYGiU Y nn\VYFRON.-I'r rhai sydd yn arwain bywyd eisteddol, ac yn dilyn eu gorchwyl o'r tufewn i'r ty, y mae o bwys iddynt wybod nad yw eu hysgyfaint yn cael chwareu teg am nad ydynt yn adadlu digon o awyr iach, a thrwy hyny, fagu brest gul, ao ysgwyddau crymedig, a pheryglu iechyd, drwy osod sylfaen yr iechyd hwnw i lawr ar dir siglenol, heblaw fod liarddwch corphorol yr un modd yn cael ei golli. Gellid osgoi hyn ol drwy dalu ychydig sylw i'r dull o an- adlu. Cofier fod yr ysgyfaint fel yswigenod yn eu cyfansoddiad, ac y gellir eu hymledu a'u tynhau gydag andliad lawn nes y byddant ddwy waith gymaint o faintioli, gyda phub dyogelwch, a thrwy arferiad mynych o'r dull hwnw, adeiledir dwyfron lydan a hardd, iach a chadarn, a rhydd o bob arwydd darfodedig- aeth. Yr unig weithredydd yr ydym yn sefyll mewn angen am dano, ydyw yr awyr iach, bur, a chyffredin sydd o'n hamgylch, gan gymervd yn ganiataol, wrth gwrs, nad OC8 yr un rhwystr o'r hlallan i'r frest, megis stays a'r cyffelyb. Wrth godi o'r gwely yn y boreu, safwch i fyny yn syth, gan daflu y pen ychydig yn ol; yna, tynwch i mewn hyny o anadi ag sydd bosibl i chwi, fel nad ellir cymervd ychwaneg i mewn; daliwch eich anadl, a tiieflwch eich breichiau yn ol, gan ddal eich anadl mor hir ag sydd bosibl. Ymarferwch a'r anadliadau hyn mor fynych ag y mynoch. Gwell yw gwneyd hyny mewn ystafell oer, oherwydd y mae yr awyr yn fwy nerthol i ledu yr ysgyfaint yn effeithiol. Drwy yr ymarferiad hwn, a hyny yn fynych ac yn gyson, y mae yr ysgyfaint yn ymledu, a'r frest yn cryfhau. CWLWM rnVYTRI YR; YSGHIEEN- YDD (Writer's Cramp).—Y mae yr anhwyl- deb hwn i'w deimlo ambell dro pan y bydd- o'r bysedd wedi blino yn ysgrifenu, fel rhyw gyifro yn y gieu sydd yn cyflenwi cyhyrau y fawd a'r bysedd sydd yn dal yr ysgrifbin, a'r canlyniad ydyw diffyg rheolaeth ar y bysedd i allu ysgrifenu. Dechreua gydag ychydig flinder yn y llaw, a theimlad o ansicrwydd, fel pe dymunai yr ysgrifenydd wasgu'r ysgrif- 9 15 bin yn dynach. Pob ymgais a wneir i ysgrif- enu, y mae yn dyfod yn waeth, a symudiad- au y fawd a'r ddau fys blaen yn dyfod yn an- wrthwynebol, nes y mae yr ysgrifbin yn myned i fyny ac i lawr, ac yn gwneyd rhyw fath o sgribliadau dilun a direol. Po fwyaf awyddus fydd yr ysgrifenydd i fyned yn mlaen, a clieisio ysgrifenu, a pho fwyaf o sylw a gymer o'r peth, neu po fwyaf o ofn a fydd arno rhag i'r cyffyrddiad fyned yn waeth, gwaethaf yn y byd fydd y cramp, a bydd yn debycach i ymestyn yn uwcli i fyny i'r fraich. Y foment y dyry efe heibio ys- grifenu, mae'r cramp yn peidio, a gall wneyd pob symudiad arall heb gael ei gyffwrdd a'r cwlwm gwythi. Y mae llewis tynion, y rhai sydd yn gwasgu'r cyhyrau, ystum anghyfleus a phoenus, ac uwchlaw pobpeth, pin dur caled, anystwyth, yn ffafriol i'r anhwyldeb. Nid yw yr anhwyldeb hwn yn gyfyngedig i'r ysgrifenydd yn unig. Y mae cryddion, godr- wyr gwartheg, gwneuthurwyr hoelion, cerdd- orion offerynol, a'r rhai sydd yn trin man bethau, gyda gafaeliad go egniol yn ddaros- tyngedig i gwlwm gwythi cyffelyb yn achlys- urol. Y moddion goreu ydyw rhoddi heibio ysgrifenu am y tro, a rhwbio y bysedd a llaeth neu cod liver oil. Pan fo'r anhwyldeb yn dechreu, syrup of the phosphate of iron, quinine, a strychnia,—llonaid llwy fwrdd yn ddyddiol.

LLAIS Y GWANWYN

[No title]