Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Plentyn bychan o ardaloedd cynhes Mor- ganwg, wedi ei synu gan yr eira yn gor- chuddio pob man, a ofynai "0, nhad, pwy sydd wedi dodi yr holl galch yma fforcld hyn ?" "Dywed, Sambo, b'le cest ti yr het newydd ynn, 1" "Pam, fi ca'l hi yn siop, wrth cwrs." "Faint oedd pris hona, dywed T; "Fi dim gwbod, Mike bach, dim gwbod, machgen i, fi dim gwel'd neb yn siop." Mrs McFray Hwyracli nad ydych chwi ddim yn gwybod, gwr bonheddig, fy mod i wedi cael dros ddwsin o gynnygion i briodi a nhw cyn i chwi gynnyg eich hun? Mr McFray Hwyrach, madam, nad yd- yeh chwithau yn gwybod fy mod i wedi cyn- nyg priodi yn agos i ugain o ferched ieuaine cyn i mi eieh gweled chwi erioed. "0, Mrs Jones, dyma Mr Jones yn dwad o'r siop. Mi guddia'r gwr a finnau y tu ol i'r curtains yma, a deydwch ohwithau wrtho na ddaethom ni ddim." "Û'r goreu, Mrs Evans." Dyma Mr Jones yn dyfod i fewn, ae meddaa ei wraig wrtho — 'Morgan, ddoth Mr a. Mrs Evans ddim wed'vn." "Wei, diolch bvtli am hynv, Gweii bach." Peter Powel, v twrne, oedd yn carfio yr wvdd yn Xgwestv'r Bedol, Pwllygro, y Nad- ,olig diweddaf, ac wedi dywevd unwaith neu ddwy na fuasai waeth i ddyn geisio carfio estrys wedi byw ar hoelion pedoli, dododd hi o dan v bwrdd. Wrth weled y cwmpeini yn edrych ar eu gilydd yn anfoddlawn, ac yn teimlo yn bryd- erus gyda golwg ar ba le yr oedd yr aderyn wedi myn'd, dywedodd "Pobpeth yn iawn, foneddigesau a bonedd- igion, wneiff hi ddim niwed i neb ohonoch. Y mae fy nhroed i ar ei chefn hi." Yr oedd bachgen ieuanc heb fod yn mhell o Gaernarfon yn oaru merch ieuanc lawen vn y wlad, yr hon oedd wedi hen anobeithio, gyda dyn' ieuanc mor wylaidd, dyfod a'r gar- wriaeth i bwvnt. Galwodd un diwrnod pan oedd y ferch ieu- anc adref ei hunan. Wedi setlo pwno y tywydd ac iselder mas- nach a phethau felly, dywedodd yr eneth, gan edrych yn ei lygaid yn gyfrwys — "Yr oeddwn i yn breuddwydio am danoch chwi neithiwr." "Yn wir, beth oedd y breuddwyd?" "Mi freuddwydiais eich bod yn fy nghus- anu i." <rWel, yrwan, oeddach chi ddim yn breu- ddwvdio beth oedd eich mam yn ddyweyd ? "6, mi roeddwn i'n breuddwydio nad oedd hi ddim gartref." Torodd y wawr ar ymenydd: y llanc, torwyd ar y distawrwydd gan ryw Bwnhynodi, ac yn mhen ychydig wythnosau yr oeddynt wedi priodi.. I Mewn Arddangosfa Amaethyddol: "Miss Florence, ydyeh chwi yn caru anifeiliaid 1" meddai y boneddwr yn fywiog. "A ydwyf fi i ystyried hynyna fel cynnygiad, syr?" Yn Llys Ynadon Llandregaerog, yn ddi- weddar, dywedodd y tyst "Yr hwn a welais i ar ben grisiau y nosoa hono oedd dyn gydag un llygad o'r enw Wmffra." "Beth oedd enw y llygad arall ?" oedd cwestiwn y cyfreithiwr dros y diffynydd. Yr oedd y tyst yn synu at ysgafnder a gwaanalrwvdd y gwraiidawyr. Yr oedd yno dipyn o syndod mewn cap el yn Nghrugybabell nos Sul diweddaf. ly Yn y boreu yr oedd y gweinidog wedi pre- gethu pregeth effeithiol i'w gyimulleidfa. Yn yr hwyr yr oedd yno wr dyeithr o'r De- heudir wedi dyfod yno i bregethu gogyfer a rhyw aohos neilldaot. GwrandaAVoddJ y gynnulleidfa yn astud ar yr un bregeth ag a gawsant yn y boreu, air am air. Dyna r gwaethaf am y pregethau rhed yma, noli: Mam, bwriwch chi rv»an, mod i rw ddwrnod yn mynd i hwylio'r moroedl yna mewn llong, ac i storm fawr gyfodi, as i den "Y fawr ddwaj, a throi'r llong ar ei hochr,, a minau gael fy nhaflu i'r dwr, a dim byd i afael ynddo to. Oni fuasai hyny yn ofnadwy las? Mam Roli: Byddai'n wir, Rcil, yn ofnad- wy iawn. Roli (yn ddifrifol) F'eilv, oni fyddai yn well i mi, ddylia chi, fyn'd i lavvr i'r afon yna, hefo Robin yr Aber, i ddysgu no:io'? Dywedir fod Lynton, yn Devon, yn un o'r lleoedd iachaf yn Lloegr. Yn ddiweddar yma yr oedd ymwelydd yn ymddyddan a hen wr yno, ac yn gofyn iddo ei oedran pan y dywedodd, "yr wyf newydd adael fy neg a thriugain." "Wel," meddai yr ymwelydd, "yr ydych yn edrycli yn ddigon da, i fyw amryw flyn- yddoedd eto. Yn mha oedran y bu eich tad farw ?" "Y bu fy nhad farw ?" meddai y dyn, wedi synu, "Dydi nhad ddim wedi marw; mae o i fyny'r grisiau yn rhoi fy nhaid yn y gwely." Yr oedd dau ddyeithrddyn yn cyd-drafaelio mewn cerbyd dosparth cyntaf ar y rheil- ffordd, ac wedi dyfod yn gyfeillion, ac yn ymddyddan a'u gilydd fel y cyfryw. Yr oedd y ffenestri wedi cael eu gollwng i lawr, oherwydd dwysder y tywydd, ac o ganlyniad troes yr ymddyddan ar awyriad anneddau a phethau felly. "Mi fydda fi," meddai un o'r ddau, "mi fyddaf fi bob amser yn ei gwneyd yn rheol cynghori pobl i gysgu a'u ffenestri yn llydan agored drwy'r flwyddyn." "Ho, ho," meddai'r Hall, "yr ydw i'n gwel'd mai meddvg ydych chwi!" "Dim o* gwbl," oedd yr atebiad cyfrin- achol. "A dyweyd y gwir rhyngoch chwi a minnau—torwr tai ydw i Cyhuddwyd adfilwr Gwyddelig gan y rhing- yll am daraw un o'i gydfilwyr. Atebodd y Gwyddel, "Nid ooddwn yn meddwl bod niwed ynddo, 'doedd genyf ddim yn fy ilaw ond fy nwrn." Yr oedd dyn canol oed a gwr ieuane un diwrnod yn rliodio ac yn cydymddyddan, pan y digwyddodd iddynt basio carchar y sir. Y gwr ieuanc, gan feddwl ei hun yn ddocth a ffraeth iawn, a safodd ac a ddywedodd, "Gyfaill, pe rhoddid yn y carchar hwn bawb sydd yn hasddu myned iddo, pa le y byddech chwi, tybed ?" "Yn rliodio yma hebddoch chwi," oedd yr ateb. Wil y Radical: Mae genyf gi. Jack v Tori Beth ydi enw fo? Wil Does genyf ddim enw arno. Jack Paham na eiwi di o'n Gladstone ? Wil: Mi fyddai hyny yn sarhad i Glad- stone. Jack Paham na elwi di o yn Salisbury, ynte ? Wil: Mi fyddai hyny yn sarhad i'r ei. Y mae Dante McWermod, yr athronydd Cymreig adnabyddus, yn ysgrifenu yn drwm iawn, ac yn gwasgar ysmotiau mawrion o ysgrifwy ir y papur. Un diwrnod, wrth ail edrych dros ryw hen ysgrif yn nhy cyfaill iddo, a t-liaflu pob dalen ar y llawr wedi ei darllen. daeth merch fechan perthynol i'r ty i mewu ar y pryd. "Cymer ofal, Edith." meddai y fam, "paid a sangu ar 'sgrifau Mr Dante McWermod, z, S9 onite mi wlychi dy draed." Yn Nghwmbwrlwm, wrth gwrs, y mae y digwyddiadau mwyaf Americanaidd yn cy- meryd lie bob amser; ac nid yw y digwydd- iad diweddaf a gymerodd le yno yn ystod y rhew ond peth cyffredin yno. Yr oedd mas- nachwr adnabyddus o'r enw Andrew Davies wedi gyru ei glun o'i lie drwy i'r inarch lithro ar y rhew, a'i daflu yntau allan o'r cerbyd, a'r meddygon yn methu a rhoi ei glun yn ei lie. Ond wrth ei gynnorthwyo allan o'r cer- byd ar ei daith i'r yspytty, syrthiodd ar y palmant, ac yn sydynrwydd y codwm hwnw aettli ei glun archolledig i'w lie yn ol, a cherddodd adref yn hollol adiaegloff. Pan gyda/i thad y dydd o'r blaen yn pysgota, digwyddodd1 i foneddiges ieuanc syrthio i'r afon, a bu yn ages iawn iddi foddi. Ond yn ddamweiniol yr oedd amddiffynydd yn ymyl. Neidiodd ar ei hoi, a dygodd hi i'r Ian mewn eyflwr o ddideimladrwydd. Y foment y daeth ati ei hun datganodd ei phenderfyiuad i briodi yr hwn oedd wedi achub ei bywyd. "Mae hyny yn anmhosibl," ebe ei thad. "A ydyw efe yn briod eisoes ynte 1" gofyn. ai y feroh. "Nac ydyw." "Onid y dyn ieuanc sydd yn byw yn ein hymyl ydyw 1" "Nage ei Newfoundland."