Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y BARDD BRIALLU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BARDD BRIALLU. Mr Gol,—Ychydig wythnosau yn ol, o dan daer gymhelliad yr awen, yr oeddwn yn ysgrifenu atoch i ostyngedig attolygu arnoch, yn eich hynawsedd arferol tuagat feirdd teilwng ereill, gan fod genych lawer o amser ar eich Haw, a fyddech garediced ag edrych dros fy nghyfansoddiadau barddonol, yr hyn o'i gyfieithu ydyw ffrwyth fy awen, gyda golwg ar canys megis wybodl gwerth mas- nachol y cyfryw rawnsypiau, oherwydd megis er fy mod yn dra chynheiin a llwybrau yr awen, ac yn caru rhodio yn ei hawyr hi, eto, yr oeddwn yn teimlo nad oedd fy syn- iadau daearol ar y pryd wedi eu masnach- eiddiaw yn ddigonol i gyfarfod a dull y byd hwn o roclli pris ar y crebwyll hwnw fydd ri rhoddi To airy nothing, A local habitation and a name. Yn mhen hir a hwyr derbyniais lythyf oddiwrthych chwi neu o rai o Ysgrifenyddion a Phariseaid y Swyddfa yna, yn fy hysbysu mai "dwy geiniog y llath," neu "rot a dimai y pwvs" oedd gwerth y penigamp-weithiau disgleiriaf a gynnyrchodd yr awen o ddydd- iau Tydain Tad Awen hyd y dydd hwn. Nid oedd ryfedd gan hyny i'r awen ffromi, a bwrw allan ei chwydonwy Cotopaxaidd ar eich pen, yn y llinellau canlynol: — Nid wrth y llath rwv'n gwerthu'm gwaith, Nid wrth v rhwd na'r droedfedd 'chwaith. Os wrth yr owns y gwerthir aur, Y meini clir a'r nerlau claer, Rhowch barch i bawb yn ol ei allu, A chwareu teg i'r Bardd Briallu. [Yr oeddwn i'n ofni pan welais i'r canu yma. gynta, y basa fo'n gyru'r office ar dan; roedd o'n disgleirio fel marwor byw yn nghanol y papure erill, ac mi rodd yn dda mod i'n digwydd bod yno ar y pryd, i'w gipio fo o'r fasged, fel bomb shell o fwrdd llong, rhag iddo fo fystio, a malu pob peth.-HOGYN Y SWYDDFA.]

PROPHWYD Y TYWYDD.

HEN GYMRO.

Y PELLEBYR RHYFEDDOL YNA

[No title]