Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y BARDD BRIALLU.

PROPHWYD Y TYWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PROPHWYD Y TYWYDD. Mr Gol,—Drwy fod yna cyn lleied o goel ar yr Almanaciau yna, a'u bod nhw'n colli arni lii'n ofnatsari las y dyddia yma, nen- wedig ar ol y rhew mawr a'r tywydd garw gywson ni yn ddiweddar, yr ydw i'n teimlo bod bin ddyledswydd arna i, sydd yn byw yn yr office, ac ddim yn dymuno tywydd drwg i neb, ddweyd wrth ddarllenwrs y Papur ene, pwy dywydd mae nhw i ddis- gwyl ar y Dydd Llun, laf o Ebrill.—Bydd y wawr yn tori yn y dwyrain. Does neb all wneyd ffwl Ebrill or haul fydd yn y golwg yn fuan ar ol hyny, os na ddaw cymylau a niwl. Llwydaidd fydd lliw y wawr ar y dechreu, wedi hyny ceir ei gweled yn ymloewi, ac yn gwisgo ei gwisgoedd porphor goreu, er mai dydd Llun fydd hi. Os bydd hi'n gwlawio, fydd neb wedi sylwi ar y synolygfa hon. Dvdd Ma,wrth,-Os bydd rhywun yn gorfod ponio ei got. fawr a'i ymbarelo ar y dydd, hwn, bydd yn edifar ganddo. Bydd pyffiau o wynt i'w clywed mewn rhai manau, a'r bryniau i'w gweled fel darnau anferth o godiad tir, ac yn bur llechweddog. Pe digwyddasai y dSwmod hwn yn nghenol yt haf, gallesid gweled rhew mewn rhai gwleddoedd. Dydd Mercher,—Ciniaw marchnad mewn manau. Llawer a eisteddant wrth 1 bwrdd ac a fwytant heddyw. Bydd adar o wahanol liwiau i'w gweled liw dydd goleu; ac er hir- barhaol devrnasiad ein Brenhines, bydd rhai o'i deiliaid yn teimlo yn sych iawn y bore dranoeth. Dydd Iau.-Bydd yr haul wedi cvrhaeddyd awr anterth heddyw cyn canol dydd. Bydd y ffyrdd yn llawn o Iwch neu laid. Tua'r hwyr bydd y lFurfafen yn tywyllu, yr adar yn myned i glwydo, nes y bydd pawb yn teimlo ei bod yn nosi. Y mae rhai dysg- edigion yn barod i fwyta eu cadachau pooed os na chymer hyn Ie. Dydd Gwener.—Bydd llawet iawn o wynt i'w ganfod yn nghonglau mynwentydd. Ychydig o bobl fydd yn myned i'r cyngherdd a gynnelir yn Neuadd Drefol Pwllygro. Bydd y canu yn gynhes, ond y derbyniad yn oeraiiW. Bydd llawer o fellt yn fflachio o gwmpas rhai o siopau y dref, yn enwedig y rhai nad ydyw y pwysau a'r mesurau yn cael eu harchwilio yn rhy ami. Byddai yn dda i rai mewn oed fyned i orphwys cyn hanner nos, oherwydd "os arhosir awr yn ychwaneg, yn un y daw yn union deg." Dydd Sadwrn.-Bydd 1 law en un yn deal ei fod ddiwrnod yn hynaeh na'r dydd blaen- orol; a chan y bydd llawer o guro carpedau, os bydd y tywydd yn sych, y canlyniad an- ocheladwy fydd llawer o lwch yn codi mewn man a ii. Bydd y lleuad newydd yn weledig i lawer cyn yr hwyr, a llawer un yn ei gweled yn ddwbl wrth fyned adeef y noson hono; ac os digwydd i gweryl gyfodi yn nghylch v peth, ac i rai feddwl mai aer yn syrthio fyddant wedi weled, pum' swllt a'r costau fydd am weled yr olygfa. Dydd Sul.—Y rhai hyny na fyddant wedi myned i Eglwys y Plwyf, ond -wedi aros adref i ddarllen y Common Prayer, a deimlant niwl tew yn cyfodi oddiar gorwynt y Dadgysylltiad. Bydd heddgeidwaid, oher- wydd gerwinder y tywydd yn gorfod chwilio am Joches yn y. tafarndai, yn enwedig felly wedi i'r haul fachludo. [Pe buasai hwn yn brophwyd y tywydd, mi fuasa'n gwybcd mai nid oherwydd y gwlyb- aniaeth, end oblegid y sychder mawr y bydd y boneddigion yma yn chwilio am loches yn y tafarr.-au yma fydd wedi eu cau ar y Sul rhag pawb axall.-Y PRENTIS.]

HEN GYMRO.

Y PELLEBYR RHYFEDDOL YNA

[No title]